Egwyddorion hunanwerthuso - Estyn

Egwyddorion hunanwerthuso


QAA and Estyn logos

Mae hunanwerthuso’n chwarae rôl hollbwysig mewn sicrhau a gwella ansawdd darpariaeth ar draws y sectorau trydyddol. Gall set gytûn o egwyddorion hunanwerthuso gefnogi mwy o gydlyniad rhwng darparwyr, cyrff rheoleiddio ac ansawdd, lleihau dyblygu lle bo hynny’n gymesur, ac annog arfer fyfyriol a mwy ystyrlon.

Mae hunanwerthuso mwy effeithiol yn gryfach pan fydd darparwyr yn mynd y tu hwnt i ddisgrifio gweithgareddau i gynnig barnau meddylgar, wedi’u seilio ar dystiolaeth, ynghylch eu heffaith, yn enwedig o ran ansawdd profiadau dysgwyr, strategaeth sefydliadol ac effeithiolrwydd sefydliadol ehangach.

Nod yr egwyddorion canlynol yw darparu fframwaith hyblyg ond cydlynol i gynorthwyo darparwyr i ddatblygu diwylliant o hunanwerthuso sy’n gymesur, yn ymwybodol o gyd‑destun addysg drydyddol yng Nghymru, yn canolbwyntio ar y dysgwr ac wedi’i arwain gan wella.

Mae Medr yn croesawu datblygiad yr egwyddorion hunanwerthuso fel cyfraniad defnyddiol at gefnogi myfyrio pwrpasol ac effeithiol ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod gwerth set gytûn o egwyddorion wrth hybu cysondeb, eglurder ac ymagwedd ddatblygiadol tuag at ansawdd, ac rydym yn ystyried yr egwyddorion hyn yn gyfeirbwynt defnyddiol i ddarparwyr wrth iddynt adolygu a gwella eu harferion eu hunain.

Wrth i Medr barhau i ymwreiddio ei Fframwaith Ansawdd a’i ddull sicrhau ehangach, byddwn yn myfyrio ar yr egwyddorion hyn yn ein prosesau ein hunain ac yn ystyried sut gallant lywio ein gwaith parhaus gyda’r sector. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â darparwyr a phartneriaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.

Wrth i Medr barhau i ymwreiddio ei Fframwaith Ansawdd a’i ddull sicrhau ehangach, byddwn yn myfyrio ar yr egwyddorion hyn yn ein prosesau ein hunain ac yn ystyried sut gallant lywio ein gwaith parhaus gyda’r sector. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â darparwyr a phartneriaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.


12 Prif Egwyddor

1. Yn canolbwyntio ar ddysgwyr
4. Wedi'i lywio gan effaith
7. Yn cynnwys rhanddeiliaid
10. Yn ymwybodol o gyd-destun Cymru
2. Yn werthusol yn hytrach nag yn ddisgrifiadol
5. Yn canolbwyntio ar weithredu
8. Yn dryloyw ac yn onest
11. Yn bwrpasol ac yn gymesur
3. Yn seiliedig ar dystiolaeth
6. Yn ymgysylltu â dysgwyr
9. Yn cyd-fynd â gwerthoedd a strategaethau
12. Wedi'i ymwreiddio mewn llywodraethu

Crynodeb

Pan gaiff ei gynnal yn effeithiol, mae hunanwerthuso’n cynnig offeryn pwerus ar gyfer gwella, atebolrwydd a datblygiad strategol. Yn enwedig ar gyfer y darparwyr hynny sy’n gweithredu ar draws sectorau, mae set gytûn o egwyddorion yn cefnogi dull mwy cydlynol, effeithlon ac ystyrlon. Mae’n caniatáu i ddarparwyr ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: sef ansawdd profiad y dysgwr ac effaith eu darpariaeth. Trwy lunio disgwyliadau a dulliau lefel uchel mewn ffordd gytûn ar draws y sectorau trydyddol, nod y model hwn yw annog cydweithio a hybu iaith gyffredin ar gyfer gwella ansawdd sy’n ymatebol i flaenoriaethau darparwyr a disgwyliadau cenedlaethol, fel ei gilydd.