Hanfodion Estyn: Pecyn cymorth i athrawon ar gyfer ysgolion ac UCDau
Croeso i Hanfodion Estyn – eich siop un stop ar gyfer mewnwelediadau, arweiniad a’r adnoddau ymarferol diweddaraf gan arolygiaeth addysg Cymru. Rydym yn gwybod bod arweinwyr canol, athrawon, darlithwyr a staff cymorth yn chwarae rhan hanfodol ym mhrofiadau dysgu plant a phobl ifanc bob dydd. Dyna pam rydym yn dod â gwybodaeth atoch yn uniongyrchol.
Rydym am godi ymwybyddiaeth o’r broses arolygu, egluro sut olwg sydd wir ar arolygu yn ymarferol, ac amlygu sut gall canfyddiadau ac adnoddau Estyn gryfhau addysgu ac ymagweddau pwnc-benodol ar gyfer pob oed. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi yn eich gwaith trwy rannu diweddariadau a deunyddiau clir a hygyrch, ynghyd â myfyrdodau gonest gan ddarparwyr – er mwyn sicrhau bod ein hymdrechion ar y cyd yn parhau i ysgogi gwelliant ystyrlon i ddysgwyr ledled Cymru.











