Egwyddor 4. Wedi’i lywio gan effaith
Wedi’i lywio gan effaith
Mae hunanwerthuso’n canolbwyntio ar ddeilliannau gwirioneddol gweithgaredd, yn hytrach na’r prosesau yn unig neu’r bwriadau y tu ôl iddo. Mae darparwyr yn asesu’n feirniadol yr hyn sydd wedi newid o ganlyniad i’w gwaith, yn enwedig i ddysgwyr, ac yn defnyddio tystiolaeth i ddangos effeithiolrwydd a gwerth eu dulliau.
Mae hyn yn symud y ffocws oddi wrth weithgarwch i wella. Mae’n helpu i sicrhau y caiff egni a buddsoddiad eu cyfeirio at ddulliau sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon.
Cwestiynau myfyriol
- Pa wahaniaethau y mae ein gwaith gwella wedi’u gwneud i ddeilliannau i ddysgwyr a pha mor glir allwn ni ddangos hyn trwy dystiolaeth?
- Pa mor dda y mae ein hunanwerthusiad yn gwahaniaethu rhwng yr hyn a wnawn a’r effaith y mae’n ei chael, yn enwedig lle nad yw dulliau wedi arwain at y gwelliannau a fwriadwyd?
- Pa agweddau ar ein darpariaeth sydd wedi cael yr effaith gadarnhaol fwyaf ar ddysgwyr, a pha dystiolaeth sy’n dangos pam y mae’r dulliau hyn yn effeithiol?
- Lle bu’r effaith yn gyfyngedig neu’n anghyson, pa mor onest ydym yn gwerthuso hyn ac yn addasu ein dulliau yn unol â hynny?
- Pa mor effeithiol ydym yn olrhain effaith dros gyfnod er mwyn sicrhau y caiff gwelliannau eu cynnal ac nad ydynt yn fyrdymor neu’n arwynebol?
- I ba raddau mae ein gwerthusiad yn ystyried effaith wahaniaethol, er enghraifft ar wahanol grwpiau o ddysgwyr neu feysydd o’r ddarpariaeth?
- Pa mor dda mae ein gwerthusiadau sydd wedi’u harwain gan effaith yn llywio penderfyniadau ynghylch ble i flaenoriaethu adnoddau, ymdrech a chamau gwella?