Egwyddor 1. Yn canolbwyntio ar ddysgwyr - Estyn

Egwyddor 1. Yn canolbwyntio ar ddysgwyr


QAA and Estyn logos

Yn canolbwyntio ar ddysgwyr

Mae hunanwerthuso’n canolbwyntio ar sut mae darpariaeth yn cefnogi cyflawniad, lles a chynnydd dysgwyr. Bydd gwerthusiadau wedi’u seilio ar ba mor effeithiol y mae gwaith darparwyr yn gwneud gwahaniaeth i brofiadau a deilliannau dysgwyr.

Mae hyn yn sicrhau bod y broses yn parhau i fod wedi’i seilio ar bwrpas pennaf addysg, sef cefnogi dysgwyr i lwyddo a ffynnu. Mae canolbwyntio ar ddysgwyr yn helpu darparwyr i sicrhau bod adnoddau a strategaethau’n cyd-fynd â’r hyn sydd bwysicaf.

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor glir y mae ein hunanwerthuso’n dangos y gwahaniaeth y mae ein darpariaeth yn ei wneud i brofiadau, deilliannau a chynnydd dysgwyr, yn hytrach na chanolbwyntio’n bennaf ar brosesau, gweithgareddau neu gydymffurfiaeth?
  • Pa mor dda ydym yn defnyddio safbwyntiau dysgwyr i lywio ein hunanwerthusiad a pha mor hyderus ydym fod y safbwyntiau hyn yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth dysgwyr?
  • Ym mha ffyrdd mae ein hunanwerthuso’n nodi ac yn archwilio amrywiad ym mhrofiadau a deilliannau dysgwyr ar draws cyrsiau, dulliau astudio a grwpiau dysgwyr?
  • Pa mor effeithiol y mae ein hunanwerthuso’n cysylltu profiadau dysgwyr â’r penderfyniadau a wnawn am ddylunio’r cwricwlwm, cymorth, asesu a dyrannu adnoddau?
  • Pa mor dda ydym yn gwerthuso effaith ein camau gwella ar ddysgwyr, a sut ydym yn gwybod a yw newidiadau wedi gwella cyflawniad, lles neu gynnydd dysgwyr o ddifrif?
  • Pa mor dda mae ein hunanwerthuso’n cofnodi profiadau dysgwyr ar adegau pontio allweddol (er enghraifft wrth gyrraedd, wrth symud rhwng lefelau neu flynyddol ac wrth ymadael) a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ba mor effeithiol rydym yn cefnogi dysgwyr i lwyddo dros gyfnod?
  • Pa mor hyderus ydym fod ein hunanwerthuso’n adlewyrchu sut beth yw bod yn ddysgwyr yn ein sefydliad mewn gwirionedd, a sut ydym yn profi neu’n herio ein rhagdybiaethau lle mae tystiolaeth dysgwyr yn gymysg neu’n anghyfforddus?