Egwyddor 9. Yn cyd-fynd â gwerthoedd a strategaethau - Estyn

Egwyddor 9. Yn cyd-fynd â gwerthoedd a strategaethau


QAA and Estyn logos

Yn cyd-fynd â gwerthoedd a strategaethau

Mae gwerthusiadau’n adlewyrchu sut mae gwerthoedd, blaenoriaethau strategol a nodau craidd y darparwyr yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol. Mae darparwyr yn archwilio’r aliniad rhwng eu cenhadaeth ddatganedig ac effaith wirioneddol eu darpariaeth.

Mae hyn yn cefnogi cydlyniad ar draws y sefydliad. Mae’n helpu i sicrhau nad yw gwerthuso’n cael ei arwain gan gydymffurfiaeth yn unig, ond ei fod yn cefnogi cyfeiriad strategol ac uniondeb diwylliannol o ddifrif.

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor hyderus ydym y gall dysgwyr, staff a rhanddeiliaid nodi ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol, a mynegi sut mae’r rhain yn trosi i’n dull o hunanwerthuso?
  • Pa rai o’n gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol sydd fwyaf gweladwy yn yr hyn rydym yn ei fesur, ei fonitro ac yn myfyrio arno wrth hunanwerthuso, a pha rai sy’n llai gweladwy?
  • A oes unrhyw feysydd lle mae ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol yn ymddangos yn fwy uchelgeisiol nag yn gyraeddadwy, neu lle nad yw’n glir sut y byddem yn gwerthuso ein heffaith?
  • Pa mor hyderus ydym fod gan dimau gwahanol sy’n gweithio yn ein sefydliad ddealltwriaeth gyffredin o’n gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol?
  • I ba raddau y mae timau gwahanol wedi’u grymuso i sicrhau bod yr hyn y maent yn ei fesur a’i fonitro wrth hunanwerthuso yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol – yn hytrach nag ymateb i ofynion adrodd uniongyrchol yn unig?
  • I ba raddau y mae ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol yn rhan o drafodaethau ynghylch sut rydym yn dehongli data a thystiolaeth arall o’n heffaith?
  • I ba raddau y gallwn ddangos cysylltiad uniongyrchol rhwng ein gwerthoedd a’n nodau strategol a’n heffaith?
  • Pe byddai arsylwr allanol yn edrych ar effaith ein darpariaeth yn unig, a fyddai’n gallu nodi’r nodau craidd sy’n sail iddi?