Cyflwyniad
Mae’r wefan hon yn dwyn ynghyd waith prosiect ar y cyd rhwng Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), a ariennir gan Medr, i archwilio dulliau a strategaethau effeithiol sy’n cael eu defnyddio mewn darparwyr addysg drydyddol i ddatblygu ac ymwreiddio diwylliant o hunanwerthuso a gwelliant parhaus.
Mae’r sectorau trydyddol dan oruchwyliaeth Medr yn cwmpasu darpariaeth eang: o chweched dosbarth ysgolion i golegau addysg bellach (AB), darparwyr prentisiaethau a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned (DOG); i addysg uwch (AU) sy’n cael ei darparu mewn colegau addysg uwch a phrifysgolion.
Yn Adran 2, rydym yn cyflwyno cyfres o ddeuddeg o egwyddorion hunanwerthuso, a ddatblygwyd o’n hadolygiad o’r llenyddiaeth ryngwladol (Adran 6) ac yn ystyried arferion effeithiol cyfredol yng Nghymru. Bwriedir i’r egwyddorion fod yn berthnasol ar draws yr ystod eang o ddarparwyr yn y sectorau trydyddol. Nid ydynt wedi’u bwriadu i fod yn ‘statudol’ – nid yw’n ofynnol i ddarparwyr eu defnyddio na’r cwestiynau myfyriol sy’n cyd-fynd â nhw. Eu bwriad yw arwain ein meddylfryd, gan barchu’r dulliau gwahanol sy’n cael eu defnyddio gan wahanol sectorau ac osgoi cyfarwyddebau ‘un dull sy’n addas i bawb’, efallai na fyddant yn berthnasol ym mhob sector.
Mae Adran 3 yn rhoi trosolwg o’r arferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus (gweler yr Eirfa) presennol yn y sectorau trydyddol, eu cryfderau a’r meysydd i’w gwella. Mae hyn yn manteisio ar dystiolaeth sy’n deillio o arolygiadau Estyn ac ymweliadau cyswllt â darparwyr AB, prentisiaethau a DOG a thystiolaeth a gasglwyd o arolygiadau o ysgolion ac awdurdodau lleol, adolygiadau QAA a chyfweliadau â darparu AU, ynghyd â grwpiau ffocws gyda dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae Adran 4 yn amlinellu’r meysydd sy’n cynnig cyfleoedd i wella arferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus, ar sail ein dadansoddiad o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar draws y sectorau trydyddol. Nid yw’r argymhellion a nodwn wedi’u bwriadu i fod yn ‘statudol’ ac ni fyddant yn berthnasol i bob darparwr. Eu bwriad yw cynorthwyo i fyfyrio ar arfer bresennol a chyfeirio at ble y gallai gwelliannau gael yr effaith fwyaf.
Yn Adran 5, rydym yn myfyrio ar rolau Medr, QAA ac Estyn o ran hybu arfer hunanwerthuso a gwelliant parhaus gref ar draws darparwyr trydyddol yng Nghymru. Mae’r adran hon yn tanategu ein hymrwymiad i gefnogi darparwyr i ddefnyddio’r deuddeg egwyddor a hybu arfer effeithiol ar draws y system drydyddol.