Egwyddor 11. Yn bwrpasol ac yn gymesur
Yn bwrpasol ac yn gymesur
Mae cwmpas a lefel y manylder yn adlewyrchu maint, cymhlethdod a chyd-destun y darparwr. Mae hunanwerthuso’n hylaw ac yn cynnig mewnwelediad heb ddyblygu’n ddiangen.
Mae dull cymesur yn sicrhau bod y broses yn gynaliadwy ac yn ganolbwyntiedig. Mae’n osgoi gorlethu staff ac yn sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r meysydd sydd â’r flaenoriaeth uchaf.
Cwestiynau myfyriol
- A ydym wedi nodi o’r cychwyn pa effaith rydym yn ceisio ei dangos a pha dystiolaeth benodol y mae angen i ni ei chasglu i wneud hynny?
- A yw ein hunanwerthusiad yn ddigon manwl i roi darlun cywir i ni o’n heffaith, heb fod mor llafurus fel ei fod yn tynnu amser ac adnoddau oddi wrth gyflawni effaith?
- Wrth gynnal ‘archwiliad dwfn’ i dystiolaeth o’n heffaith ar themâu penodol sydd o ddiddordeb, pa mor hyderus ydym fod hyn yn ychwanegu gwerth?
- Sut ydym yn sicrhau bod gan gydweithwyr mewn timau gwahanol y gallu sydd ei angen i fyfyrio’n ystyrlon ar effaith eu gwaith a chyfranni at hunanwerthusiad y sefydliad?
- Pa adnoddau y gallai fod angen i gydweithwyr mewn timau gwahanol fanteisio arnynt i werthuso eu heffaith yn lleol?
- A ydym wedi nodi cyfleoedd i leihau dyblygu – o ran coladu tystiolaeth a defnyddio’r dystiolaeth honno wrth hunanwerthuso?
- Lle mae gennym allu cyfyngedig i hunanwerthuso, sut ydym yn nodi ein meysydd sydd â blaenoriaeth o ran effaith, a pha mor hyderus ydym yn ein dewisiadau?