Egwyddor 6. Yn ymgysylltu â dysgwyr - Estyn

Egwyddor 6. Yn ymgysylltu â dysgwyr


QAA and Estyn logos

Yn ymgysylltu â dysgwyr

Caiff dysgwyr eu cynnwys yn ystyrlon yn y broses, yn hytrach nag ymgynghori â nhw yn unig. Mae eu cyfraniadau’n helpu i lunio canfyddiadau a blaenoriaethau’r gwerthusiad, gyda thystiolaeth o sut mae eu safbwyntiau wedi dylanwadu ar ganfyddiadau a phenderfyniadau.

Mae cydweithio â dysgwyr yn dod â mewnwelediad gwerthfawr ac yn cefnogi cydberchnogaeth dros welliant. Mae hefyd yn cryfhau ymddiriedaeth, tryloywder ac ansawdd deilliannau.

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor weithredol y mae dysgwyr yn ymwneud â llunio ein hunanwerthusiad, y tu hwnt i ymateb i arolygon neu ymgynghoriadau?
  • Ym mha ffyrdd y mae dysgwyr yn cyfrannu at lunio ein barnau ynghylch cryfderau a meysydd i’w datblygu?
  • Sut ydym yn sicrhau bod llais y dysgwr yn adlewyrchu ystod eang a chynrychioliadol o brofiadau a chefndiroedd?
  • Pa enghreifftiau clir allwn ni eu darparu i ddangos sut mae safbwyntiau dysgwyr wedi dylanwadu ar ein canfyddiadau, ein blaenoriaethau neu ein camau gwella?
  • Sut ydym yn creu cyfleoedd diogel a chynhwysol i ddysgwyr roi adborth gonest, gan gynnwys lle gallai darpariaeth fod yn wannach?
  • I ba raddau y mae dysgwyr yn deall canlyniadau’r broses hunanwerthuso ac yn gweld effaith eu cyfraniadau?
  • Sut mae cydweithio â dysgwyr yn gwella ansawdd ein gwerthusiad ac yn cryfhau cydberchnogaeth dros wella?