Egwyddor 12. Wedi’i ymwreiddio mewn llywodraethu
Wedi’i ymwreiddio mewn llywodraethu
Mae ‘cyrff llywodraethol’ yn chwarae rôl weithredol mewn hunanwerthuso. Mae eu goruchwyliaeth yn sicrhau bod canfyddiadau’n llywio strategaeth y darparwr ac yn sbarduno gwelliant.
Mae ymwreiddio hunanwerthuso mewn prosesau llywodraethu yn rhoi pwys a dylanwad iddo. Mae’n helpu i sicrhau bod gwerthuso’n llywio cynllunio hirdymor, dyrannu adnoddau ac atebolrwydd sefydliadol.
Cwestiynau myfyriol
- Pa gyfleoedd y mae ein corff llywodraethol yn eu cael, ac ar ba gamau yn y cylchoedd cyflawni ac adrodd, i ymgysylltu â’n hunanwerthusiad a deall ein heffaith; ac i roi adborth yn unol â hynny?
- Sut ydym yn sicrhau bod aelodau’r corff llywodraethol yn cael cyfleoedd i ennill dealltwriaeth strategol ddigon manwl o’n nodau craidd, heb eu gorlethu â manylion gweithredol?
- Wrth adrodd i’n corff llywodraethol ar ein hunanwerthusiad a’n heffaith, pa mor glir yw’r cysylltiad rhwng ein gwerthoedd a’n nodau strategol; ein gweithgareddau hunanwerthuso; a’r effaith a grybwyllir?
- Pa mor hyderus ydym fod ein hunanwerthusiad a’r effaith a grybwyllir yn rhoi’r mewnwelediad sydd ei angen ar ein corff llywodraethol i gynllunio ar gyfer y tymor hir a gwneud penderfyniadau sylweddol ynghylch adnoddau?
- Pa mor hyderus ydym fod ein hunanwerthusiad yn cynnig asesiad gonest i’r corff llywodraethol o’n gallu i fodloni gofynion atebolrwydd ffurfiol (er enghraifft, rhwymedigaethau rheoleiddiol neu gytundebol)?
- A oes cyfleoedd i ymgysylltu â’r corff llywodraethol ynghylch sut gallem gyflwyno ein hunanwerthusiad mewn ffyrdd sy’n fwy defnyddiol iddynt, i ategu penderfyniadau strategol, cynllunio a goruchwylio?