Cysylltu â Ni - Estyn

Cysylltu â Ni


Sut i gysylltu

Ffôn: 029 2044 6446
E-bost: ymholiadau@estyn.llyw.cymru
Cyfeiriad: Estyn, Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd CF24 5JW


Sut i ddod o hyd i ni

Gwybodaeth am gyrraedd ein swyddfa yn Anchor Court, Heol Keen, Caerdydd CF24 5JW:

Ar y Trên

Rydym o fewn 15 munud ar droed neu daith tacsi o orsafoedd Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines.

Ar Feic

Mae llwybr beicio yn ein cysylltu â chanol y ddinas. Cewch weld y llwybrau ar wefan Cadw Caerdydd i Symud. Am fwy o wybodaeth am logi beic yng Nghaerdydd cliciwch yma.

Mewn Car

O’r dwyrain, defnyddiwch gyffordd 27 yr M4 neu o’r gorllewin, defnyddiwch gyffordd 33 yr M4. Mae ychydig o leoedd parcio ar gael am ddim yn y swyddfa, ond rhowch wybod i ni os oes angen lle arnoch. 

Hedfan

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y Rhŵs, 12 milltir i’r gorllewin o Gaerdydd. Mae cysylltiadau trên a bws mynych â chanol y ddinas.


Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i lunio gohebiaeth

Gall offerynnau AI fod yn ddefnyddiol ond, weithiau, gallant wneud ceisiadau’n hirach, yn fwy eang neu’n llai manwl na’r bwriad.

Cyn anfon cais, cwyn neu neges ddilynol atom, gwiriwch:

•             ei fod/bod yn dweud yn glir pa wybodaeth neu ganlyniad rydych yn chwilio amdani/amdano;

•             yn gofyn am yr hyn rydych chi wir ei angen yn unig;

•             bod unrhyw gyfeiriadau cyfreithiol neu ffeithiol yn gywir;

•             bod y geiriad yn glir, yn gryno ac yn ffocysedig;

•             bod y tôn yn briodol.

Rydym yn gweld cynnydd mewn gohebiaeth gychwynnol ac eilaidd sy’n ymddangos fel petai wedi’i drafftio gan AI. Gall hyn fynnu eglurhad ychwanegol oherwydd anghywirdebau neu gymhlethdod diangen. Mae ceisiadau clir a ffocysedig yn ein helpu i ymateb yn gyflymach ac yn fwy cywir.


Anfonwch e-bost atom

Anfonwch e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl

E-bostiwch ni
Send us an email