Arolygiadau craidd ac ymweliadau interim
O fis Medi 2024 ymlaen, byddwn yn ymgysylltu’n fwy rheolaidd ag ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed, yn ogystal ag unedau cyfeirio disgyblion (UCDau).
Erbyn hyn, bydd ysgolion a gynhelir ac UCDau yn cael arolygiad craidd ac ymweliad interim yn y cyfnod arolygu 6 blynedd. Bydd yr ymweliad interim hwn yn cael ei arwain gan AEF bob tro.
Diben yr ymweliadau interim yw cynorthwyo darparwyr â’u hunanwerthusiad a’u cynlluniau gwella er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr.
Ymweliadau interim – cwestiynau cyffredin
Mae adborth gan randdeiliaid yn awgrymu y byddent yn croesawu ymgysylltiad amlach gan Estyn ag ysgolion ac UCDau. Bydd hyn yn ein helpu i ddod i adnabod ysgolion yn well a’u cynorthwyo â’u proses gwerthuso a gwella.
Nac oes, nid oes angen i chi baratoi ar gyfer ymweliad interim.
Nod yr ymweliad yw trafod unrhyw welliannau yr hoffech eu gwneud ar sail yr argymhellion o’ch arolygiad craidd blaenorol. Efallai yr hoffech gyfeirio at eich arolygiad craidd diwethaf neu gynllun gwella cyfredol eich ysgol neu UCD. Bydd yr arolygydd cofnodol yn cysylltu â chi i esbonio’r broses a chytuno ar y trefniadau ymarferol ar gyfer yr ymweliad, ond nid oes angen i chi greu dogfennau ychwanegol na threulio amser yn coladu tystiolaeth.
Na fydd. Ar ôl ymweliad interim, byddwn yn rhoi adborth i’r pennaeth ac yn cyhoeddi llythyr byr ar ein gwefan yn crynhoi deilliannau’r ymweliad ac yn rhoi rhywfaint o adborth i’ch helpu â’r camau nesaf yn eich proses wella.
Na fydd. Bwriad ymweliadau interim yw cefnogi proses wella neu ddatblygu eich ysgol neu UCD.
Byddwch yn cael 5 diwrnod o rybudd cyn yr ymweliad.
Nid oes angen i chi baratoi unrhyw ddogfennau ar gyfer ymweliad interim.
Gall ymweliad interim bara hyd at ddau ddiwrnod, yn dibynnu ar eich sector. Er enghraifft, bydd ymweliad interim yn para un diwrnod ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion cynradd ac yn para dau ddiwrnod ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd. Ar gyfer ysgolion cynradd mwy, gallai hyd ymestyn i hyd at ddau ddiwrnod.
Yn dibynnu ar faint eich cyfleuster, gallai un neu fwy o arolygwyr fod yn bresennol. Ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion cynradd, bydd yr ymweliad yn cynnwys dau arolygydd. Ar gyfer ysgolion uwchradd, bydd dau neu dri AEF yn ymweld fel rhan o ymweliad interim, fel arfer. Fodd bynnag, ar gyfer darparwyr bach neu fawr iawn, gallai’r tîm fod yn fwy neu’n llai.
Nid yw ymweliadau interim wedi’u bwriadu i ddod i gasgliadau cyffredinol am effeithiolrwydd yr ysgol, ond byddant yn cynorthwyo arweinwyr i adolygu cynnydd ers yr arolygiad craidd diwethaf ac ystyried eu camau nesaf ar gyfer gwella.