Egwyddor 10. Yn ymwybodol o gyd-destun Cymru
Yn ymwybodol o gyd-destun Cymru
Mae hunanwerthuso’n ystyried cyfraniad y darparwr at dirwedd addysg Cymru, gan gynnwys blaenoriaethau polisi ac economaidd cenedlaethol, dwyieithrwydd a darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gofynion deddfwriaethol perthnasol a chyd-destun rhyngwladol Cymru.
Mae cydnabod cyd-destun Cymru drwyddi draw yn sicrhau perthnasedd a chydymffurfiaeth â nodau cenedlaethol. Mae’n cynorthwyo darparwyr i arddangos eu rôl wrth lunio blaenoriaethau addysgol, economaidd a rhyngwladol Cymru ac ymateb iddynt.
Cwestiynau myfyriol
- Beth yw ein dealltwriaeth o gyfraniad ein sefydliad at dirwedd addysg Cymru?
- Sut ydym yn dangos ein dealltwriaeth o’n lle yn nhirwedd addysg Cymru (er enghraifft) mewn dogfennau polisi strategol a gyhoeddwn?
- A yw ein prosesau gweinyddol sy’n cefnogi hunanwerthuso (er enghraifft, prosesau sicrhau ansawdd a chasglu data) yn adlewyrchu’n gywir ein dealltwriaeth o’n lle yn nhirwedd addysg Cymru? Os nad ydynt, sut gallwn ni eu haddasu fel eu bod yn gwneud hynny?
- A all cydweithwyr ar draws y sefydliad – nid uwch arweinwyr yn unig – egluro pa ofynion deddfwriaethol sy’n bwysig i ni (er enghraifft, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015)?
- Wrth fyfyrio ar le Cymru yn y byd, beth yw ein dealltwriaeth o’n rôl fel sefydliad nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn y DU yn ei chyfanrwydd ac yn rhyngwladol?
- Sut ydym yn sicrhau y gall dysgwyr a chydweithwyr sydd â dyheadau byd-eang – er enghraifft, i ddysgu, gweithio neu gydweithio’n rhyngwladol – fanteisio ar y cyfleoedd hyn?
- I ba raddau y mae ein dysgwyr yn defnyddio, yn ymarfer neu’n datblygu eu medrau Cymraeg wrth iddynt ddysgu gyda ni, mewn gwirionedd?
- Sut gallwn ni ddangos ein bod yn effeithiol wrth hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn annog dwyieithrwydd – yn hytrach na dim ond cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg?
- A all cydweithwyr ar draws y sefydliad (nid yn unig y rhai sy’n siarad Cymraeg neu sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg) nodi pa ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg rydym yn ei chynnig a pha wasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr yn ddwyieithog ar hyn o bryd?
- Pa gamau ydym yn eu cymryd i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau dwyieithog i ddysgwyr? Sut ydym yn monitro ein cynnydd?