Egwyddor 3. Yn seiliedig ar dystiolaeth - Estyn

Egwyddor 3. Yn seiliedig ar dystiolaeth


QAA and Estyn logos

Yn seiliedig ar dystiolaeth

Mae casgliadau wedi’u seilio ar dystiolaeth gredadwy, wedi’i thriongli, sy’n deillio o sawl ffynhonnell, gan gynnwys safbwyntiau allanol neu gymaryddion cenedlaethol a rhyngwladol, lle bo hynny’n briodol. Caiff data, arsylwadau, adborth a mathau eraill o fewnwelediad eu defnyddio i ddangos effaith ac ategu penderfyniadau gwybodus.

Mae tystiolaeth gadarn yn meithrin ymddiriedaeth yn y canfyddiadau ac yn sicrhau y gellir eu rhannu a gweithredu arnynt. Mae’n cefnogi cysondeb a dyfnder ar draws gwahanol rannau o waith y darparwr.

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor dda y mae ein gwerthusiadau wedi’u hategu gan dystiolaeth gredadwy, wedi’i thriongli sy’n deillio o ystod o ffynonellau (er enghraifft data, arsylwadau, adborth a deialog broffesiynol)?
  • I ba raddau ydym yn profi ein casgliadau trwy gymharu tystiolaeth o safbwyntiau gwahanol, fel dysgwyr, staff, partneriaid, adolygwyr cymheiriaid allanol neu randdeiliaid allanol?
  • Pa mor effeithiol ydym yn defnyddio data perfformiad a gwybodaeth arall i ddangos effaith dros gyfnod, yn hytrach na dibynnu ar gipluniau arunig?
  • Pa mor dda ydym yn defnyddio meincnodau allanol, data cyfun gan ddarparwyr eraill, data cyhoeddedig cenedlaethol neu gymaryddion rhyngwladol i gryfhau dilysrwydd ein barnau?
  • Pa mor gyson yw ansawdd tystiolaeth a’r defnydd ohoni ar draws gwahanol feysydd o’n darpariaeth a ble mae’r bylchau neu’r gwendidau y mae angen mynd i’r afael â nhw?
  • Pa mor hyderus ydym y byddai ein sail dystiolaeth yn gwrthsefyll craffu allanol ac yn cyfiawnhau’n glir y casgliadau rydym wedi’u llunio?
  • Pa mor dda y mae ein defnydd o dystiolaeth yn llywio penderfyniadau a chamau gwella amserol, wedi’u targedu’n dda ar draws ystod ein darpariaeth?