Egwyddor 5. Yn canolbwyntio ar weithredu - Estyn

Egwyddor 5. Yn canolbwyntio ar weithredu


QAA and Estyn logos

Yn canolbwyntio ar weithredu

Mae hunanwerthuso’n broses barhaus ac yn llywio camau gweithredu clir a phwrpasol sy’n ymateb i’r canfyddiadau. Mae’r camau gweithredu hyn yn realistig, wedi’u targedu ac wedi’u llunio i wella ansawdd, gyda dulliau ar waith i fonitro eu gweithrediad a gwerthuso eu heffaith.

Mae’r egwyddor hon yn cefnogi diwylliant o wella’n barhaus. Mae’n atgyfnerthu nad ymarfer ar ei ben ei hun yw hunanwerthuso, ond un sy’n arwain at newid gweladwy a chynaledig.

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor glir y mae ein hunanwerthusiad yn nodi camau gweithredu â blaenoriaeth sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r canfyddiadau allweddol a’r meysydd i’w gwella?
  • I ba raddau mae ein camau gwella yn realistig, yn ganolbwyntiedig ac yn gymesur â’r materion a nodwyd trwy hunanwerthuso?
  • Pa mor effeithiol ydym yn trosi canfyddiadau gwerthuso’n gynlluniau clir gyda chyfrifoldebau, amserlenni a meini prawf llwyddiant diffiniedig?
  • Pa systemau sydd gennym ar waith i fonitro gweithrediad camau gwella, a pha mor gyson caiff y rhain eu defnyddio?
  • Pa mor dda ydym yn gwerthuso effaith ein camau gweithredu ar ansawdd a deilliannau, yn hytrach na gwirio a yw camau gweithredu wedi’u cwblhau yn unig?
  • Pa mor aml ydym yn ailedrych ar ein hunanwerthusiad ac yn ei ddiweddaru yn sgil effaith camau gwella a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg?
  • Pa mor weladwy yw’r cysylltiad rhwng hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a newid amlwg i ddysgwyr a rhanddeiliaid eraill?