Egwyddor 2. Yn werthusol yn hytrach nag yn ddisgrifiadol - Estyn

Egwyddor 2. Yn werthusol yn hytrach nag yn ddisgrifiadol


QAA and Estyn logos

Yn werthusol yn hytrach nag yn ddisgrifiadol

Mae’r broses yn canolbwyntio ar b’un a yw dulliau’n effeithiol, yn hytrach na’r hyn sy’n cael ei wneud yn unig. Mae darparwyr yn cynnig gwerthusiadau clir, wedi’u seilio ar dystiolaeth, ynghylch ansawdd a pherfformiad, gan nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella.

Mae hyn yn ychwanegu trylwyredd at y broses ac yn helpu darparwyr i osgoi adrodd yn arwynebol. Mae safbwynt gwerthusol cryf yn galluogi barnau mwy ystyrlon a chynllunio gwelliant craffach.

Cwestiynau myfyriol

  • I ba raddau mae ein hunanwerthusiad yn barnu effeithiolrwydd ein dulliau, yn hytrach nag yn disgrifio gweithgareddau neu brosesau yn unig?
  • Pa dystiolaeth ydym yn ei defnyddio i werthuso effaith ein darpariaeth ar ddeilliannau i ddysgwyr, a pha mor dda y mae’r dystiolaeth hon yn ategu ein barnau allweddol?
  • Pa mor glir ydym yn nodi pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol, i bwy ac ym mha gyd‑destunau; a pha rai sy’n llai effeithiol?
  • Lle mae ein gwerthusiad yn nodi meysydd i’w gwella neu anghysondeb, pa mor fanwl ydym yn esbonio pam mae’r rhain yn bodoli a beth sydd angen ei newid?
  • Pa mor dda y mae ein barnau gwerthusol yn canolbwyntio ar ansawdd a pherfformiad dros gyfnod, yn hytrach nag ar fentrau untro neu gamau gweithredu diweddar?
  • Pa mor gyson y mae arweinwyr a staff yn defnyddio meini prawf neu feincnodau cytûn i lunio barnau cadarn a chytûn am effeithiolrwydd?
  • Pa mor effeithiol y mae ein hunanwerthusiad yn llywio camau gwella mesuradwy, wedi’u blaenoriaethu ac yn miniogi ein cynllunio ar gyfer gwella?