Egwyddor 7. Yn cynnwys rhanddeiliaid
Yn cynnwys rhanddeiliaid
Mae’r broses yn cynnwys yn weithredol y rhai sydd â buddiant ystyrlon yng ngwaith y darparwr. Mae eu mewnwelediadau’n cynnig dyfnder a her, yn meithrin cydberchnogaeth ac yn gwella dilysrwydd y gwerthusiad.
Mae hunanwerthuso wedi’i lywio gan amrywiaeth o leisiau yn ehangu persbectif ac yn cryfhau cysylltiad y darparwyr â’i gymuned ehangach.
Cwestiynau myfyriol
- Pa randdeiliaid ydym yn eu hystyried yn rhai sydd â buddiant ystyrlon yn ein darpariaeth, a sut ydym wedi’u nodi felly a’u blaenoriaethu’n unol â hynny?
- Sut mae dysgwyr a staff ar draws y sefydliad ac mewn rolau gwahanol yn ymgysylltu â’n rhanddeiliaid, a sut gallem ni i gyd fod yn fwy effeithiol wrth wneud hynny?
- A ydym yn ymgysylltu â’n rhanddeiliaid yn ddigon cyson i feithrin cydberchnogaeth barhaus o’r deilliannau sydd o bwys i’r naill ochr a’r llall?
- Pa mor sicr ydym fod gennym ddealltwriaeth gyffredin o’n nodau cyffredin â’n rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod eu hadborth yn cefnogi dilysrwydd ein hunanwerthusiad?
- I ba raddau y mae gennym gydymddiriedaeth â’n rhanddeiliaid, fel y gallwn fod yn sicr y byddent yn teimlo’n hyderus i’n herio, ac y byddem yn croesawu eu her?
- Pa mor weladwy yw’r cysylltiad rhwng adborth ein rhanddeiliaid, ein penderfyniadau a’r effaith ar ein dysgwyr?
- A allai fod rhanddeiliaid posibl y byddai eu mewnwelediadau o fudd i ni, ond nad ydym wedi ymgysylltu â nhw hyd yn hyn (efallai oherwydd eu bod yn anoddach eu cyrraedd)? Os felly, pa gynlluniau sydd gennym i gysylltu â nhw?