Egwyddor 8. Yn dryloyw ac yn onest - Estyn

Egwyddor 8. Yn dryloyw ac yn onest


QAA and Estyn logos

Yn dryloyw ac yn onest

Mae hunanwerthuso’n agored, yn gytbwys ac yn anamddiffynnol, gan gydnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu.

Mae tryloywder yn meithrin hygrededd. Mae diwylliant o hunanwerthuso gonest yn gosod sylfeini ar gyfer ymddiriedaeth, sicrwydd allanol a newid ystyrlon

Cwestiynau myfyriol

  • Pa mor dda y mae ein hunanwerthusiad yn cyflwyno darlun cytbwys o’n darpariaeth, gan roi pwysoliad priodol ar hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella?
  • Pa mor dda y mae ein diwylliant yn cefnogi hunanwerthusiad gonest fel rhan arferol a gwerthfawr o wella, yn hytrach na gweithgaredd sy’n cael ei lywio gan graffu allanol?
  • Sut ydym yn sicrhau y caiff gwendidau eu cydnabod yn adeiladol a’u defnyddio’n gyfleoedd i ddysgu, yn hytrach nag yn ffynonellau amddiffynoldeb neu gyfiawnhad?
  • Ym mha ffyrdd y mae staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill yn cyfrannu at ein hunanwerthusiad, a sut mae hyn yn ein helpu i osgoi safbwynt amddiffynnol neu rhy gul?
  • Pa mor dryloyw yw ein prosesau a’n canfyddiadau hunanwerthuso i staff, dysgwyr, llywodraethwyr a phartneriaid, a sut mae’r natur agored hon yn meithrin ymddiriedaeth? Ystyriwch pwy sy’n gallu gweld gwybodaeth yr hunanwerthusiad a sut y caiff ei rhannu a’i thrafod.
  • Pa dystiolaeth ydym yn ei defnyddio i ategu ein barnau ynghylch cryfderau a meysydd i’w datblygu, a pha mor hygyrch a thryloyw yw’r dystiolaeth hon i bobl eraill?
  • Ble’r ydym wedi bod yn fwyaf gonest ynghylch meysydd o danberfformio, a pha mor glir ydym yn deall ac yn esbonio’r achosion sylfaenol yn hytrach na’u priodoli i ffactorau allanol yn unig?
  • Pa mor hyderus ydym y byddai cynulleidfa allanol yn cydnabod ein hunanwerthusiad yn un gonest a chredadwy, hyd yn oed lle mae’n tynnu sylw at faterion anghyfforddus?