Sicrhau Ansawdd
Beth mae sicrhau ansawdd yn ei olygu yn Estyn, mewn gwirionedd?
Mae ‘sicrhau ansawdd’ yn Estyn yn ganolog i bopeth a wnawn. O’i roi yn syml, dyma sut rydym ni’n gwneud yn siŵr fod ein harolygiadau yn drylwyr, yn deg ac yn gredadwy.
Mae gan Estyn ddyletswydd statudol i sicrhau bod ein trefniadau arolygu yn addas at eu diben ac yn cael eu cyflawni i safon uchel. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael systemau cadarn ar waith i wirio, gwerthuso a gwella’n barhaus y ffordd rydym yn arolygu.
Pam mae angen i ni gael trefn sicrhau ansawdd gryf?
Mae Estyn yn arolygu ystod eang o ddarparwyr ledled Cymru, o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i golegau addysg bellach a gwasanaethau addysg llywodraeth leol. Mae cyfrifoldeb difrifol ynghlwm wrth bob arolygiad. Mae darparwyr yn haeddu cael darlun cywir o’u cryfderau a’u meysydd i’w gwella. Mae dysgwyr, rhieni a gofalwyr, a’r cyhoedd ehangach, yn dibynnu ar ein gwerthusiadau.
Dyna pam mae prosesau sicrhau ansawdd trylwyr yn sail i’n harolygiadau. Maent yn ein helpu i aros yn ddiduedd, cael ein harwain gan dystiolaeth a bod yn gyson yn ein gwaith – ni waeth beth rydym yn ei arolygu, na ble.
Mae ein gwaith sicrhau ansawdd wir yn bwysig. Mae’n ein helpu i sicrhau hyder y cyhoedd mewn arolygu ac yn ein galluogi i ddal ati i wella, er mwyn i ni allu cefnogi darparwyr addysg ledled Cymru i fyfyrio, tyfu a chyflwyno’r profiadau gorau posibl i ddysgwyr.
Rydym yn ymgorffori sicrhau ansawdd ym mhob cam o’r broses arolygu:
| Cyn arolygiad, mae arolygwyr arweiniol (arolygwyr cofnodol) yn trafod y cyd-destun a’r dull gyda’u tîm. Rydym yn disgwyl i bob arolygydd weithio yn unol ag egwyddorion allweddol o’n harweiniad arolygu, gan gynnwys y darparwr yn llawn yn y broses. | Yn ystod arolygiad, mae’r tîm yn defnyddio ystod o ddulliau, sydd wedi eu teilwra i’r darparwr penodol, i gasglu tystiolaeth a chreu darlun llawn o’i waith. Mae’r tîm yn cymharu tystiolaeth o wahanol ffynonellau a safbwyntiau i wneud yn siŵr fod ei ganfyddiadau yn deg ac yn gyson. Mae’r arolygydd cofnodol yn rheoli a monitro gwaith y tîm trwy gydol yr arolygiad. | Ar ôl arolygiad, caiff gwerthusiadau’r tîm eu gwirio i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r dystiolaeth a gasglwyd a bod y canfyddiadau’n gywir a chytbwys. Cyn cyhoeddi adroddiad, mae arolygydd profiadol arall yn ei adolygu i wneud yn siŵr ei fod wedi’i ysgrifennu’n glir ac yn hawdd ei ddeall. Bydd o leiaf un uwch arweinydd yn adolygu’r adroddiad hefyd i sicrhau ei fod yn bodloni ein safonau ac yn gyson ag adroddiadau eraill. |
I gynnal y safonau uchaf, tra’n cefnogi twf proffesiynol ein harolygwyr hefyd, mae gan Estyn dair proses sicrhau ansawdd allweddol. Gyda’i gilydd, maent yn helpu sicrhau bod ein hymagwedd at arolygu yn deg, yn gyson ac yn gwella’n barhaus.
| 1. Sicrhau ansawdd arolygiadau (SAAr): Mae’r broses hon yn canolbwyntio ar yr arolygiad ei hun, wrth iddo ddigwydd. Mae uwch arolygydd, fel arfer Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF), cyfarwyddwr cynorthwyol neu gyfarwyddwr strategol, yn ymweld â’r darparwr yn ystod yr arolygiad i gasglu tystiolaeth uniongyrchol o sut caiff yr arolygiad ei gynnal. Mae’n arsylwi’r tîm arolygu wrth ei waith, yn siarad â’r darparwr, ac yn cynnig cymorth proffesiynol a her i arolygwyr. Mae hyn yn helpu sicrhau bod arolygiadau yn deg, yn gyson ac yn cyd-fynd â’n fframwaith. | 2. Sicrhau ansawdd adroddiadau (SAAd): Pan fydd yr arolygiad wedi dod i ben, mae AEF arall (rhywun nad oedd yn rhan o’r arolygiad) yn adolygu’r adroddiad a’r dystiolaeth ategol. Ei rôl yw gwirio bod yr adroddiad yn adlewyrchu’r canfyddiadau’n gywir, ei fod wedi’i ysgrifennu’n glir gan ddilyn ein harddull gytûn, ac yn bodloni ein safonau ansawdd. Mae’n herio, fel y bo’n briodol. Os caiff unrhyw ganfyddiad neu ddeilliant arolygu ei newid o ganlyniad i’r broses sicrhau ansawdd, caiff hyn ei safoni gan gyfarwyddwr cynorthwyol neu gyfarwyddwr strategol. Cyn cyhoeddi’r adroddiad, mae darparwyr hefyd yn cael cyfle i adolygu’r drafft fel rhan o ‘wiriad cywirdeb ffeithiol’ [Link to guidance on website]. | 3. Ffurflenni Gwerthuso Arolygydd (FfGA): Rydym hefyd yn defnyddio Ffurflenni Gwerthuso Arolygydd i gefnogi gwerthuso a dysgu proffesiynol. Ar ôl pob arolygiad, mae’r arolygydd cofnodol yn gwerthuso cyfraniad pob aelod o’r tîm allanol. Caiff aelodau’r tîm eu hannog i fyfyrio ar eu harfer a’u perfformiad eu hunain, graddio’u hunain yn erbyn meini prawf, a nodi beth aeth yn dda a beth gellid ei wella. Mae’r myfyrdodau hyn yn helpu arolygwyr i ddysgu o bob arolygiad a gwella dros gyfnod. Maent hefyd yn ein helpu i gynllunio dysgu proffesiynol parhaus i ddatblygu ein gweithlu arolygwyr allanol, y mae eu harbenigedd yn hanfodol i ansawdd ein gwaith. |
Gwrando, dysgu a gwella:
Mae sicrhau ansawdd yn ymwneud â mwy na gwirio cydymffurfiaeth; mae ynglŷn â dysgu. Bob blwyddyn, rydym yn myfyrio ar ddeilliannau arolygu, adborth gan ddarparwyr, a mewnwelediadau o’n gweithgareddau gwerthuso ein hunain.
Rydym yn cynnal hapwiriadau, yn cysgodi arolygiadau ac yn cynnal adolygiadau mewnol i gryfhau’r ffordd rydym yn gweithio. Mae’r canfyddiadau hyn yn bwydo’n uniongyrchol i’n harweiniad arolygu a’n dysgu proffesiynol. Pan mae darparwyr yn codi pryderon neu’n cwyno, rydym yn cymryd y rhain o ddifri gan drin pob un fel cyfle i wrando a gwella.
Meithrin ymddiriedaeth trwy dryloywder:
Mae sicrhau ansawdd ynglŷn ag ymddiriedaeth. Pan mae Estyn yn cyhoeddi adroddiad, mae angen i bobl gael hyder yn y broses arolygu y tu ôl iddo: sut daethpwyd i’r canfyddiadau, sut cafodd tystiolaeth ei chasglu a sut cafodd barn broffesiynol ei chymhwyso.
Ein harweiniad sicrhau ansawdd
Rydym yn cyhoeddi cyfres o ganllawiau sy’n esbonio sut mae ein system sicrhau ansawdd yn gweithio: