Arfer hunanwerthuso gyfredol yn y sectorau trydyddol ledled Cymru - Estyn

Arfer hunanwerthuso gyfredol yn y sectorau trydyddol ledled Cymru


QAA and Estyn logos

Yn yr adran hon, rydym yn cyflwyno trosolwg o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso ar gyfer pob un o’r sectorau trydyddol sydd dan oruchwyliaeth Medr a phroses arolygu neu adolygu allanol gan Estyn neu QAA. Rydym hefyd yn cyflwyno crynodeb o gryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y system drydyddol yn ei chyfanrwydd.

Trosolwg cryno o’r system drydyddol

Wrth edrych ar y system drydyddol yn ei chyfanrwydd, beth yw’r themâu cyffredin, y cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn hunanwerthuso?

  • Hunanwerthuso cylchol sydd wedi’i ymwreiddio: Mae cylchoedd blynyddol rheolaidd gydag adroddiadau hunanwerthuso (AHW) a chynlluniau gwella ansawdd (CGA) yn gyffredin; mae llawer o ddarparwyr yn adolygu bob tymor, hefyd.
  • Fframweithiau clir: Mae fframweithiau Estyn a QAA yn cynnig strwythur cytûn y mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn ei fabwysiadu.
  • Seiliau tystiolaeth eang: Caiff arsylwi gwersi neu sesiynau, arsylwi cymheiriaid, teithiau dysgu, craffu ar waith, arolygon (dysgwyr/staff/cyflogwyr) a data perfformiad eu defnyddio’n helaeth; erbyn hyn, mae llawer o ddarparwyr yn defnyddio dangosfyrddau byw.
  • Mae llais y dysgwr wedi’i sefydlu: Mae cyrff cynrychioliadol, fforymau, arolygon a llywodraethwyr/llysgenhadon yn helpu i ddod â materion i’r amlwg gan ddysgwyr.
  • Llywodraethu a goruchwylio: Fel arfer, mae cyrff llywodraethol ac uwch arweinwyr yn cymedroli/cymeradwyo AHWau ac yn olrhain CGAau.
  • Cydweithio a fforymau sector: Mae rhwydweithiau traws-ddarparwr yn cefnogi cysondeb a rhannu arfer.
  • Canolbwyntio ar weithredu: Yn yr achosion gorau, mae darparwyr yn pennu targedau heriol ac yn monitro cynnydd yn systematig; yn aml, mae darparwyr AU yn myfyrio ar newid strategol a nodweddion unigryw.

  • Effaith yn hytrach na phroses: Mae gormod o AHWau yn disgrifio gweithgarwch yn hytrach na gwerthuso effaith ar ddeilliannau dysgwyr.
  • Manyldeb cynlluniau gwella ansawdd: Yn aml, nid yw camau gweithredu, cerrig milltir, meini prawf llwyddiant ac amserlenni yn ddigon craff, gan wanhau monitro ac atebolrwydd.
  • Hunanasesu sy’n rhy hael: Mae trylwyredd amrywiol, triongli cyfyngedig a meddylfryd cydymffurfiol yn arwain at farnau sy’n rhy gadarnhaol.
  • Defnyddio data – mae’r problemau’n amrywio fesul sector:
    • Nid yw casglu a dadansoddi data ar gyrchfannau/dilyniant wedi’i ddatblygu’n ddigonol (DOG, AB, ysgolion).Nid yw proffiliau graddau/graddau uwch yn cael digon o ffocws o gymharu â chyfraddau cwblhau (AB).Nid yw mesurau ôl-16 cyson yn cael eu defnyddio’n ddigonol mewn ysgolion; dibyniaeth fawr ar offerynnau gwerth ychwanegol masnachol.
    • Nid yw setiau data hydredol/allanol (e.e. NSS/HESA/LEO) yn cael eu hintegreiddio’n gyson ac yn systematig mewn prosesau ansawdd AU.
  • Monitro presenoldeb/prydlondeb: mae prif ffigurau (gan gynnwys absenoldebau wedi’i hesbonio) yn cuddio problemau presenoldeb yn y dosbarth.
  • Cydlyniad partneriaethau a sicrhau ansawdd: Lle mae trefniadau consortiwm neu bartneriaeth yn bodoli, gall hunanwerthuso ganolbwyntio gormod ar y darparwr arweiniol; nid yw sicrhau ansawdd ar lefel partneriaeth yn ddigon cadarn.
  • Parhad a pherchnogaeth: Gall newidiadau staff neu ddiffyg perchnogaeth sefydliadol ohirio effaith cynlluniau gwella ansawdd.