Diogelu ac Amddiffyn Plant

Rôl Estyn mewn diogelu
Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl o niwed, peidiwch ag aros i gysylltu ag Estyn. Os ydych yn poeni am blentyn ac yn credu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch: Y Gwasanaethau Brys 999
Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Rydym yn arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant ac yn adrodd yn annibynnol ar ansawdd addysg, gan gynnwys effeithiolrwydd trefniadau diogelu.
Mae diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn sylfaenol i addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae Estyn wedi ymrwymo i hyrwyddo trefniadau diogelu effeithiol drwy ei waith arolygu ac adolygu ar draws darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Yn ystod arolygiadau, rydym yn gwerthuso a oes gan ddarparwyr drefniadau diogelu priodol sy’n helpu i gadw dysgwyr yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys ystyried a oes gan arweinwyr bolisïau, gweithdrefnau a diwylliannau effeithiol sy’n hyrwyddo diogelu, a yw staff yn deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelu, ac a yw darparwyr yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol Cymru.Mae arolygwyr yn gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau diogelu yn hytrach nag ymchwilio i honiadau neu ddigwyddiadau unigol.
Mae diogelu yn rhan bwysig o bob arolygiad. Caiff gwendidau sylweddol mewn diogelu eu cymryd o ddifrif iawn a byddant yn cael eu hadlewyrchu yn ein canfyddiadau arolygu. Lle bo angen, gallant arwain at weithgarwch dilynol neu atgyfeiriad at yr awdurdodau statudol priodol.
Drwy arolygu, adrodd a gweithgarwch dilynol, mae Estyn yn cefnogi gwelliant parhaus mewn arferion diogelu ar draws darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Yr hyn y mae Estyn yn gyfrifol amdano
Mae Estyn:
- yn gwerthuso ac yn adrodd ar effeithiolrwydd trefniadau diogelu o fewn darparwyr addysg a hyfforddiant;
- yn gwerthuso a yw darparwyr yn bodloni gofynion diogelu statudol ac yn dilyn canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel a Gweithdrefnau Diogelu Cymru;
Mae Estyn hefyd:
- yn defnyddio pryderon diogelu a gwybodaeth berthnasol arall i lywio cynllunio arolygiadau a llinellau ymholi, gan helpu i sicrhau bod arolygiadau’n canolbwyntio ar y meysydd sydd â’r risg fwyaf lle bo’n briodol;
- yn rhannu gwybodaeth ddiogelu berthnasol â’r asiantaethau statudol priodol lle bo angen ac yn unol â gofynion cyfreithiol ar rannu gwybodaeth;
- yn gweithio gydag arolygiaethau partner a chyrff cyhoeddus i rannu dysgu a chryfhau arferion diogelu ledled Cymru.
Gall Estyn dderbyn gwybodaeth ddiogelu ar unrhyw adeg. Pan fo’r wybodaeth honno’n berthnasol i’n swyddogaethau statudol, gellir ei hystyried wrth gynllunio arolygiadau, yn ystod gweithgarwch arolygu neu wrth ystyried camau dilynol priodol.
Yr hyn nad yw Estyn yn gyfrifol amdano
Nid asiantaeth amddiffyn plant yw Estyn ac nid yw’n ymchwilio i honiadau o gam-drin neu esgeulustod.
Nid yw Estyn:
- yn ymchwilio i bryderon diogelu unigol na chwynion am gam-drin;
- yn cynnal ymholiadau amddiffyn plant;
- yn penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd;
- yn darparu gwasanaethau diogelu brys na gwasanaethau gwaith cymdeithasol;
- yn disodli cyfrifoldebau ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, yr heddlu na gwasanaethau iechyd.
Os byddwn yn derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu y gallai plentyn neu berson ifanc fod mewn perygl o niwed, byddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth hon ar unwaith a, lle bo’n briodol, yn ei rhannu’n ddi-oed â’r asiantaeth ddiogelu statudol berthnasol yn unol â’n gweithdrefnau diogelu a’r gofynion cyfreithiol ar rannu gwybodaeth. Yr asiantaethau sydd â’r pwerau a’r dyletswyddau statudol i amddiffyn plant sy’n gyfrifol am ymchwilio i bryderon diogelu ac ymateb iddynt.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
Mae’r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb statudol am ymchwilio i bryderon ynghylch plant sy’n wynebu risg ac ymateb iddynt yn cynnwys:
Gwasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol (Gwasanaethau Cymdeithasol)
Awdurdodau lleol sydd â’r prif gyfrifoldeb statudol am dderbyn ac ymateb i adroddiadau y gallai plentyn fod yn dioddef cam-drin, esgeulustod neu niwed, neu mewn perygl o hynny. Maent yn asesu pryderon, yn cydlynu ymholiadau amddiffyn plant ac yn gweithio gydag asiantaethau partner i gadw plant yn ddiogel.
Yr Heddlu
Mae’r heddlu’n ymchwilio i droseddau sy’n ymwneud â phlant ac yn gweithio ar y cyd â’r gwasanaethau cymdeithasol pan fo pryderon y gallai plentyn fod yn dioddef niwed sylweddol neu mewn perygl o hynny. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylid cysylltu â’r heddlu ar unwaith.
Gwasanaethau Iechyd
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, ysbytai, ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol, yn chwarae rhan bwysig wrth nodi pryderon diogelu, rhannu gwybodaeth a chefnogi plant a theuluoedd.
Darparwyr Addysg
Mae gan ysgolion, colegau a darparwyr addysg eraill gyfrifoldeb statudol i ddiogelu dysgwyr. Dylai fod gan bob darparwr berson diogelu dynodedig (PDD) sy’n cydlynu trefniadau diogelu ac yn gwneud atgyfeiriadau at y Gwasanaethau Plant lle bo’n briodol.
Byrddau Diogelu Rhanbarthol
Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn dwyn ynghyd sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, yr heddlu a phartneriaid eraill, i wella trefniadau diogelu a monitro sut mae asiantaethau’n cydweithio i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Os nad yw eich pryder yn argyfwng, dylech gysylltu â:
Gwasanaethau Plant eich awdurdod lleol (Gwasanaethau Cymdeithasol)
- LLYW.CYMRU
Rhoi gwybod am achos o gam-drin, esgeuluso neu niweidio plentyn neu berson ifanc rydych yn amau ei fod yn digwydd - Rhoi gwybod am achos o gam-drin, esgeuluso neu niweidio plentyn neu berson ifanc rydych yn amau ei fod yn digwydd
Yr Heddlu (dim argyfwng)
- 101
Llinell Gymorth yr NSPCC (cyngor i oedolion)
Ffôn: 0808 800 5000
E-bost: help@nspcc.org.uk
Gwefan: Llinell Gymorth yr NSPCC
Mae’r NSPCC yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn. Nid oes rhaid i chi fod yn sicr bod cam-drin yn digwydd cyn ceisio cyngor.
Childline (i blant a phobl ifanc dan 19 oed)
Ffôn: 0800 1111 (Am ddim)
Gwefan: Childline
Mae Childline yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc, beth bynnag yw eu pryder. Mae galwadau am ddim ac yn gyfrinachol.
Efallai y byddwch am gysylltu ag Estyn os oes gennych wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’n gwaith arolygu, er enghraifft pryderon am effeithiolrwydd trefniadau diogelu o fewn darparwr addysg neu hyfforddiant, ymateb arweinwyr i faterion diogelu, neu a yw systemau diogelu’n gweithredu’n effeithiol.
Os mai eich pryder yw bod plentyn mewn perygl o niwed, dylech bob amser gysylltu â’r Gwasanaethau Plant neu’r Heddlu yn gyntaf.
Os yw eich pryder yn ymwneud ag ansawdd trefniadau diogelu o fewn darparwr addysg neu hyfforddiant, neu os oes gennych wybodaeth a allai fod yn berthnasol i waith arolygu Estyn, gallwch gysylltu ag Estyn.
Sylwch nad yw cysylltu ag Estyn yn disodli rhoi gwybod am bryderon i’r Gwasanaethau Plant neu’r Heddlu. Os gallai plentyn fod mewn perygl o niwed, dylech bob amser gysylltu â’r asiantaeth ddiogelu statudol briodol yn ddi-oed.
Lle bo’n briodol, bydd Estyn yn rhannu gwybodaeth ddiogelu â’r asiantaeth statudol berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol ar rannu gwybodaeth a’n gweithdrefn ddiogelu gyhoeddedig.
E-bost cyswllt: safeguarding@estyn.gov.uk