Dewch i ymuno â ni yn Estyn!
Mae’n amser gwych i ymuno â ni yn Estyn. Rydym yn cefnogi ysgolion a darparwyr eraill yn weithredol trwy ddiwygiadau cyffrous ym myd addysg yng Nghymru. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ledled Cymru ac, yn Estyn, maent wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym yn falch o chwarae rôl hollbwysig mewn gwella addysg a hyfforddiant. Mae ein pobl yn angerddol am yr hyn a wnânt ac rydym yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n hybu atebolrwydd, yn cefnogi gwelliant ac yn helpu i lywio dyfodol dysgu yng Nghymru.
Trwy ymuno â ni, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar sy’n esblygu, un sydd wedi ymrwymo i ddysgu, gwella a datblygu ei bobl. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd ar draws y Gwasanaeth Sifil ehangach, gan gynnig lle i chi dyfu a llunio eich gyrfa.



