Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 2 of 7 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Golwg agos ar bobl yn cymryd nodiadau yn ystod cyfarfod neu drafodaeth grŵp, gyda llyfrau nodiadau a ffolderi ar eu gliniau.

Mae’r adran hon yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu darpariaeth addysg, medrau a gwaith yng ngharchardai dynion o 2025. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu. Defnyddir y term ‘darparwr’ trwy gydol y ddogfen hon i gyfeirio at weithgareddau addysg, medrau a gwaith y carchar.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer darpariaeth addysg, medrau a gwaith yng ngharchardai dynion, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr a phartneriaid ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan mae’r arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon yn rhan o’r adroddiad arolygu. Pan mae’r arolygiad yn nodi pryderon pwysig o ran safonau, ansawdd addysg a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi (HMIP) yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant trwy ei phroses ar gyfer adolygiadau cynnydd annibynnol (ACAau). Gellir dod o hyd i Arweiniad ar ACAau ar wefan Carchardai AEF.

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Hyfforddwr a dysgwr yn gweithio gyda’i gilydd mewn gweithdy, yn adolygu mesuriadau a chynlluniau wrth fainc gwaith coed wedi’i hamgylchynu gan offer a deunyddiau.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu gwaith ieuenctid. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer gwaith ieuenctid, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a helpu llywio’u prosesau hunanasesu a gwella’u hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer a allai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr eraill, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd y ddarpariaeth a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Disgyblion ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein dulliau o arolygu ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant, neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 18 y llawlyfr hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar wefan yr arolygiaeth, sef www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Disgyblion yn cymryd rhan mewn arbrawf gwyddoniaeth yn ystod gwers yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn nodi’r hyn mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion (UCD). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u nodi isod:

MA1: Addysgu a dysgu

MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3: Arwain a gwella

Ceir mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dau o blant ifanc yn cwblhau gweithgareddau ysgrifennu mewn ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.  

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall awdurdodau lleol a darpariaethau trochi yn y Gymraeg ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd y ddarpariaeth a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 13 y llawlyfr hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Grŵp o bobl ifanc ac oedolion yn eistedd o amgylch bwrdd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd celf a chrefft creadigol mewn lleoliad cymunedol.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu, hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.

Meysydd arolygu
1 – Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
1.1 Addysgiadol
1.2 Mynegiannol
1.3 Cyfranogol
1.4 Cynhwysol
1.5 Grymusol

2 – Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid
2.1 Ansawdd gwaith ieuenctid
2.2 Y Cynnig Cyffredinol (darpariaeth gwaith ieuenctid ar gyfer yr holl bobl ifanc)
2.3 Cymorth ar gyfer pobl ifanc fregus

3 – Arwain a gwella
3.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
3.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
3.3 Dysgu proffesiynol
3.4 Diogelu

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dysgwyr sy’n oedolion yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn arolygiad llawn o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion (Dysgu Cymraeg). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:

MA1: Addysgu a dysgu

MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3: Arwain a gwella

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dysgwyr sy’n oedolion yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu darparwyr Cymraeg i Oedolion o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o drefniadau arolygu, y meddylfryd arolygu a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer darparwyr Cymraeg i Oedolion, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu ar gyfer arolygiadau llawn. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain. Ar gyfer arolygiadau â thema, byddwn yn ysgrifennu at ddarparwyr bob blwyddyn yn amlinellu’r ffocws ar gyfer y flwyddyn, a’n hymagwedd.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Byddwn yn arddangos ystod o’r sbotoleuadau hyn, ac mewn rhai achosion, astudiaethau achos manylach ar ein gwefan. Dylai argymhellion roi syniad clir a phenodol i’r darparwr o’r meysydd i’w gwella y bydd angen iddo fynd i’r afael â nhw. Bydd y cynnydd yn erbyn argymhellion yn cael ei fonitro yn yr arolygiad dilynol o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Gallai arolygwyr hefyd ystyried cynnydd yn erbyn argymhellion o fewn gwerthusiadau cyfnodol o waith darparwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru

Mae’r arolygydd cofnodol (ACof) yn gyfrifol am gynnal a rheoli’r arolygiad ac am yr adroddiad arolygu. Er bod yr arweiniad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar rôl yr arolygydd cofnodol, rhaid i bob aelod o’r tîm gydymffurfio â’r un gofynion arolygu.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Oedolyn a phlentyn yn cymysgu pridd yn ystod gweithgaredd dysgu awyr agored mewn meithrinfa neu leoliad gofal plant.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri thema arolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir. Mae’n egluro ‘Yr hyn rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn hanfodol i arolygwyr a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr, i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae canllaw ar wahân sy’n egluro’r broses arolygu a’r fethodoleg sef ‘Sut rydym yn arolygu’. Nodir y tri maes arolygu isod:

Thema 1: Lles a Gofal
Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefannau www.estyn.llyw.cymru a Arolygiaeth Gofal Cymru