Beth rydym yn ei arolygu - Ysgolion a gynhelir ac UCDau - Estyn

Beth rydym yn ei arolygu – Ysgolion a gynhelir ac UCDau



Disgyblion yn cymryd rhan mewn arbrawf gwyddoniaeth yn ystod gwers yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn nodi’r hyn mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion (UCD). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u nodi isod:

MA1: Addysgu a dysgu

MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3: Arwain a gwella

Ceir mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru