Sut ydym ni’n defnyddio’r adborth sy’n cael ei roi i ni yn ein holiaduron cyn-arolygiad? - Estyn

Sut ydym ni’n defnyddio’r adborth sy’n cael ei roi i ni yn ein holiaduron cyn-arolygiad?


Delwedd agos o berson yn defnyddio gliniadur wrth bwyntio at ryngwyneb digidol gyda dewisiadau y gellir eu dewis wedi’u harddangos dros y sgrin.

Blog gan Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol

Cyn pob arolygiad, rydym yn casglu adborth gan ddysgwyr, staff, rhieni neu ofalwyr a grwpiau allweddol eraill am eu profiad o ddarparwr. Gallwch weld y cwestiynau rydym yn eu gofyn ar ein gwefan – Holiaduron arolygu – Estyn.

Mae’r holiaduron hyn yn ymdrin ag ystod o faterion sy’n ein helpu i ddeall beth mae pobl allweddol yn ei werthfawrogi am ddarparwr a beth allai fod angen ei wella, yn eu barn nhw. Cyn arolygiad, mae arolygwyr yn edrych ar yr atebion a roddwyd ac yn defnyddio’r rhain i helpu meddwl am gwestiynau y gallent eu gofyn yn ystod arolygiad. Defnyddir yr adborth mewn holiaduron ochr yn ochr â thrafodaethau gyda dysgwyr, staff, llywodraethwyr a rhieni / gofalwyr fel rhan o’n sail dystiolaeth ar gyfer arolygiad. Rydym yn edrych ar ystod o dystiolaeth arall.

Newidiom y cwestiynau a ddefnyddiwyd pan ddiweddaron ni ein trefniadau arolygu yn 2024, felly 2024-2025 oedd y flwyddyn gyntaf i ni ddefnyddio’r cwestiynau newydd. Ym mis Ionawr, cyhoeddom y darlun cenedlaethol o ddeilliannau o’r holl ymatebion gan ddysgwyr a rhieni / gofalwyr ar draws pob un o’n harolygiadau yn ystod y flwyddyn honno, lle roedd gennym ddigon o arolygiadau i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i’r deilliannau cenedlaethol yma Ymatebion Cenedlaethol i Holiadur Cyn-Arolygiad i Ddysgwyr a Rhieni – Adroddiad Blynyddol. Rydym yn defnyddio’r ymatebion cenedlaethol hon fel meincnod ar gyfer ymatebion i holiadur darparwyr unigol, er bod cyd-destun pob darparwr yn wahanol. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr ystyried yr ymatebion cenedlaethol hyn os ydynt yn cynnal holiaduron tebyg gyda’u dysgwyr.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dechreuom gasglu gwybodaeth ddemograffig hefyd am y dysgwyr a oedd yn llenwi ein holiaduron. Mae’r wybodaeth hon ar wahân i’r prif gwestiynau ac nid yw’n cael ei rhannu â’r tîm arolygu ar gyfer yr arolygiad unigol hwnnw. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ystyried unrhyw batrymau cyffredinol yn yr ymatebion ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr ledled Cymru i’n helpu i ddeall eu profiadau dysgu yn well. Byddwn yn cyhoeddi’r data hwn ochr yn ochr â’n hymatebion cenedlaethol cyffredinol yn y dyfodol pan fyddwn yn hapus ag ansawdd y data.