Blog am Pam Mae Ieithoedd Rhyngwladol Yn Bwysicach Nac Erioed - Estyn

Blog am Pam Mae Ieithoedd Rhyngwladol Yn Bwysicach Nac Erioed


open laptop with screen showing bubbles of different languages

Blog gan Matthew Jones HMI

Y llynedd, cyhoeddodd Estyn ein hadolygiad thematig Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion yng Nghymru – Mae Ieithoedd yn Bwysig – Pwyntiau Trafod. A minnau’n awdur arweiniol, ces i’r fraint o ymweld ag ysgolion ledled Cymru, siarad ag athrawon, arweinwyr a disgyblion, a gweld yn uniongyrchol y cyfleoedd a’r heriau ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol. Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop ym mis Medi eleni, roeddwn i eisiau myfyrio ar yr hyn a ddysgais yn ystod yr ymweliadau hynny, a pham rwy’n credu bod dysgu ieithoedd rhyngwladol yn bwysicach nawr nag erioed.

Os oes un peth y gwnaeth yr adolygiad ei atgyfnerthu i mi, dyma ydyw: mae pobl ifanc yn naturiol chwilfrydig. Dro ar ôl tro, cyfarfûm â disgyblion a oedd yn awyddus i roi cynnig ar ymadrodd newydd, a oedd wedi eu hudo gan wahanol ddiwylliannau ac a oedd yn falch pan ddarganfuon nhw eu bod yn gallu cyfathrebu mewn iaith arall. Doedden nhw ddim yn poeni am gael pob gair yn gywir. Roedden nhw’n syml eisiau mentro. Roedd gwylio’r adegau hynny yn fy atgoffa pam mae ieithoedd wedi bod yn bwysig erioed. Mae pobl yn ganolog iddyn nhw. Maen nhw’n ein helpu i ddeall ein gilydd, meithrin perthnasoedd a gweld y byd o safbwynt gwahanol.

Mwy na phwnc arall 

Weithiau, gall ieithoedd gael eu gweld jest fel pwnc arall ar yr amserlen. Atgoffodd fy ymweliadau ag ysgolion eu bod nhw’n llawer mwy na hynny. 

Gwelais ddisgyblion yn magu hyder gan eu bod nhw’n fodlon mentro a siarad mewn iaith arall. Gwelais ystafelloedd dosbarth lle roedd camgymeriadau yn cael eu dathlu fel rhan o ddysgu, a lle roedd chwilfrydedd yr un mor bwysig â chywirdeb. Clywais ddisgyblion yn siarad am leoedd roedden nhw eisiau ymweld â nhw, pobl roedden nhw eisiau cyfarfod â nhw a gyrfaoedd doedden nhw ddim wedi eu hystyried erioed o’r blaen. Mae’r sgyrsiau hynny wedi aros yn y cof. 

Mae dysgu iaith arall yn rhoi gwybodaeth a medrau i bobl ifanc, ond hefyd yn datblygu hyder, gwydnwch a bod yn agored i brofiadau newydd. Bydd y rhinweddau hynny yn fuddiol iddyn nhw, ni waeth pa lwybr maen nhw’n ei ddewis mewn bywyd. 

I ddysgwyr yng Nghymru, mae dimensiwn pwysig arall. Mae tyfu i fyny mewn gwlad ddwyieithog yn rhoi man cychwyn unigryw i lawer o bobl ifanc. Mae dysgu iaith ryngwladol yn adeiladu ar y profiad hwnnw ac yn eu helpu i weld amlieithrwydd fel rhywbeth normal, gwerthfawr a chyflawnadwy. 

Cymaint i’w ddathlu 

Un o bleserau mwyaf yr adolygiad oedd treulio amser mewn ystafelloedd dosbarth lle roedd ieithoedd yn fyw. Cyfarfûm ag athrawon yr oedd eu brwdfrydedd yn ysbrydoli disgyblion i fentro heb ofni gwneud camgymeriadau. Gwelais wersi creadigol yn llawn cerddoriaeth, storïau, chwarae rôl a sgwrsio. Gwyliais ddisgyblion yn creu cysylltiadau rhwng ieithoedd ac yn darganfod bod dysgu un iaith yn aml yn eu helpu i ddeall iaith arall. 

Efallai mai’r hyn sydd fwyaf calonogol am y cyfan yw fy mod i wedi gweld llawer o bobl ifanc wir yn mwynhau dysgu ieithoedd pan roddir profiadau difyr iddyn nhw, a’u bod nhw’n gallu gweld diben yn yr hyn maen nhw’n ei wneud. Dylai hynny roi hyder i ni. 

Cynnal y momentwm 

Wrth gwrs, amlygodd yr adolygiad heriau hefyd, yn enwedig wrth edrych ar niferoedd isel y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd mewn TGAU a thu hwnt. 

Doedd pob dysgwr ddim yn cael yr un cyfleoedd, ac mae profiadau disgyblion yn amrywio gormod o hyd o un ysgol i’r llall. Wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol, gall fod yn anos cynnal y brwdfrydedd sy’n aml mor amlwg yn y blynyddoedd cynnar. 

Ond dydw i ddim yn meddwl mai’r ateb yw jest perswadio pobl ifanc bod ieithoedd yn fuddiol. O’r hyn a welais i, mae llawer ohonyn nhw eisoes yn credu hynny. Yn hytrach, yr her i ni yw meithrin y chwilfrydedd hwnnw, magu hyder disgyblion a’u helpu i ddeall y cyfleoedd y gall ieithoedd eu cynnig. Mae hyn yn golygu parhau i wneud dysgu iaith yn ddymunol, yn berthnasol ac yn gysylltiedig â’r byd ehangach. 

Mae hefyd yn rhywbeth sy’n ymestyn y tu hwnt i ysgolion. Mae gan deuluoedd, cyflogwyr, prifysgolion a chymunedau i gyd rôl mewn dangos i bobl ifanc bod siarad iaith arall yn gallu agor drysau — i deithio, cyfeillgarwch, gyrfaoedd a dealltwriaeth gyfoethocach o’r byd o’u cwmpas. 

Edrych yn ôl—ac edrych ymlaen 

Flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, dydw i ddim yn meddwl fwyaf am yr argymhellion na’r ystadegau gofidus. Yn hytrach, rwy’n cofio am y disgyblion a oedd yn llawn cyffro i rannu’r hyn roedden nhw wedi’i ddysgu, yr athrawon yr oedd eu hangerdd yn llenwi eu hystafelloedd dosbarth, a’r sgyrsiau niferus ynghylch pam mae ieithoedd yn bwysig. Gwnaeth y profiadau hynny i mi deimlo’n optimistaidd. 

Mae’r Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn gyfle ardderchog i ddathlu’r ieithoedd niferus sy’n cyfoethogi ein hysgolion a’n cymunedau. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod pob person ifanc yn haeddu cyfle i ddarganfod yr hyder, y chwilfrydedd a’r cyfleoedd sy’n gallu dod yn sgil dysgu iaith arall. 

Os nad ydych chi wedi darllen ein hadroddiad thematig eto, byddwn i’n eich annog i fwrw golwg drosto. Rwy’n gobeithio ei fod nid yn unig yn amlygu’r heriau sy’n ein hwynebu o hyd, ond hefyd yn ysbrydoli ysgolion i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd mewn llawer o ysgolion ledled Cymru.