Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 3 of 7 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Oedolyn a phlentyn yn cymysgu pridd yn ystod gweithgaredd dysgu awyr agored mewn meithrinfa neu leoliad gofal plant.

Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau nas-cynhelir meithrin a gofal plant sy’n darparu addysg ran-amser.

Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at ddeuddeg oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn cael eu haddysg mewn lleoliad a gynhelir.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r ddogfen ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall lleoliadau defnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Diben arolygiad ar y cyd yw:

  • rhoi sicrwydd digonol bod y lleoliad yn ddiogel ac yn gweithredu yn unol â’r rheoliadau
  • asesu a yw’r lleoliad yn parhau’n addas i gael ei gofrestru
  • cynnig gwerthusiad o ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi
  • gwerthuso ansawdd addysg feithrin
  • hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
  • llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Golwg agos ar berson yn defnyddio pren mesur ar bapur yn ystod gweithgaredd celf.

I sicrhau bod carchardai’n cael eu dwyn yn atebol am yr un safon perfformiad â darparwyr tebyg, rydym wedi dewis yn glir i fabwysiadu ein fframwaith arolygu ar gyfer colegau addysg bellach, i raddau helaeth. Mae cyfres o ddogfennau arweiniad atodol ar gael ar ein gwefan sy’n darparu mwy o wybodaeth am ein dulliau o arolygu agweddau amrywiol ar y fframwaith hwn.

Lle cafodd addasiadau eu gwneud, cawsant eu gwneud i ystyried adborth gan ein rhanddeiliaid a chyd-destun a nodau gweithgareddau addysg, medrau a gwaith o fewn yr ystâd ddiogel yng Nghymru.

Bydd arolygwyr Estyn yn gwerthuso’r gweithgareddau addysg, medrau a gwaith o fewn carchardai dynion yn erbyn y disgwyliadau canlynol.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r ddogfen hon yn amlinellu trefniadau Estyn ar gyfer arolygu ysgolion mewn sefyllfaoedd sy’n ymddangos nad ydynt yn gwbl syml, fel pan gaiff ysgolion newydd eu sefydlu, pan fydd ysgolion yn cydweithio, neu pan fydd ysgolion yn gweithio mewn ffederasiynau. Yn ogystal, mae’n amlinellu’r dull sydd gan Estyn ar gyfer canslo, oedi ac aildrefnu ysgolion sy’n cael eu harolygu o dan adran 28 Deddf Addysg 2005.

Er y defnyddir y term ‘ysgol’ drwy’r ddogfen, mae’r arweiniad yn llawn mor gymwys i unedau cyfeirio disgyblion (UCDau).

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Nod yr arweiniad atodol hwn yw cynorthwyo arolygwyr yn ôl yr angen i werthuso trefniadau diogelu darparwyr wrth gynnal arolygiadau.


Ym mhob agwedd ar ein gwaith, rhaid rhoi anghenion, buddiannau a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus uwchlaw anghenion a buddiannau pawb arall. Felly, rhaid i’n Polisi Diogelu a’r arweiniad ynddo gael blaenoriaeth dros yr holl gyngor a pholisïau eraill. Trwy’r arweiniad hwn a thrwy hyfforddiant priodol, byddwn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ein staff o achosion posibl o gam-drin, esgeulustra ac arfer broffesiynol anniogel mewn lleoliadau rydym yn eu harolygu, ac mewn lleoliadau eraill rydym yn ymweld â nhw.


Dylid defnyddio’r arweiniad atodol ar gyfer cyfeirio ato yn ystod arolygiad ochr yn ochr â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu. Nid yw’r arweiniad hwn yn cwmpasu’r modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau o ran diogelu a ddaeth i law yn ystod arolygiad. Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu (gweler uchod), sy’n cwmpasu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Dylai pob arolygydd fod yn ymwybodol o beth i’w wneud os
daw honiadau i law yn gysylltiedig â diogelu, ac amlinellir y camau angenrheidiol yn y ddogfen hon.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r broses arolygu ar gyfer arolygiadau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym ni’n ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei lledaenu, bydd arolygwyr yn gwahodd y bartneriaeth i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei rhannu ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 14 y llawlyfr hwn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym yn ei arolygu a Sut rydym yn arolygu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn llunio arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion allweddol, ystyriaethau ac adnoddau i arolygwyr. Maent yn perthyn i bob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni fyddant yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwys).

Nid yw’r dogfennau arweiniad atodol yn anelu at fod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwr weithio drwyddynt yn fanwl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol mewn arolygiad. Fodd bynnag, gallant fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gall y dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ennill dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn. Hefyd, gallant fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth nhw.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol

  • Bydd arolygwyr yn arolygu â meddylfryd cadarnhaol i sicrhau mai hwn yw’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n cael ei arwain gan y dysgwyr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd ag y bo modd
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio’r amrywiaeth gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond yn adrodd ar y cryfderau allweddol a’r gwendidau yn unig ym mhob darparwr

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Prif bwrpas y stori ydy dangos i blant nad oes angen iddynt boeni pan fydd arolygwyr yn ymweld â’r lleoliad. Rydym yn dymuno rhannu’r neges ei bod hi’n ddiwrnod arferol, gyda’r arolygwyr
yn ymddiddori yn yr hyn mae’r plant yn ei wneud, a’u bod yn mwynhau sgwrsio â nhw am eu gweithgareddau amrywiol. Beth am dynnu sylw’r plant at yr hyn mae’r arolygwyr yn ei wneud o fewn y stori, er enghraifft: sgwrsio, edrych ar luniau’r plant, a rhannu llyfr. Gallwch hefyd annog y plant i chwilio am y bochdew sy’n cuddio ar bob tudalen. Yn ogystal â hyn, mae cyfleoedd gwych i blant
uniaethu â’r digwyddiadau yn y stori ac mae’n sbardun effeithiol i drafodaethau pellach o fewn eich grwpiau

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn cynorthwyo arolygwyr i werthuso’r deilliannau a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’n cynnwys gwybodaeth fuddiol i gynorthwyo ag arolygu deilliannau a darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Dylai arolygwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn ochr yn ochr â’r llawlyfr Arweiniad Arolygu ar y Cyd ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir nad ydynt yn ysgolion sy’n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.

Hefyd, dylai arolygwyr ymgyfarwyddo â’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf, ynghyd â’r Cod hwn a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, yn darparu’r system statudol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc. Mae’n gosod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plant wrth wraidd y broses i gynllunio’r cymorth sydd ei angen i’w galluogi i ddatblygu’n effeithiol a chyflawni eu llawn botensial.