Blog am Ruglder – adeiladu’r bont i ddealltwriaeth
Blog gan Carl Sherlock, AEF
Beth mae’n ei olygu i fod yn ddarllenydd rhugl, mewn gwirionedd?
Wrth i ni ddathlu Diwrnod Llythrennedd Rhyngwladol ar 8 Medi, cawn ein hatgoffa bod llythrennedd yn hawl sylfaenol ac yn sylfaen ar gyfer dysgu a chyfranogi mewn cymdeithas.
Yn rhan o ffocws manylach Estyn ar ddarllen, byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud fel darllenwyr a pha mor effeithiol y mae ysgolion yn cefnogi’r datblygiad hwnnw. Mae deall rhuglder, beth ydyw a sut mae’n datblygu yn rhan bwysig o’r darlun hwnnw.
Mae darllen yn rhugl yn cynnwys llawer mwy na chodi geiriau oddi ar y dudalen. Mae’n golygu darllen â chywirdeb, rhediad a mynegiant priodol ac, yn hollbwysig, gyda dealltwriaeth.
O ddatgodio i ruglder
Mae ffoneg systematig yn darparu sylfaen hanfodol ar gyfer dysgu sut i ddarllen, gan alluogi disgyblion i gysylltu seiniau iaith lafar â llythrennau a phatrymau mewn print a datgodio geiriau anghyfarwydd.
Ond nid ffoneg yw diwedd y daith. Wrth i ddisgyblion ddatblygu, mae angen iddynt nodi geiriau’n fwyfwy cywir ac yn awtomatig, gan ryddhau eu sylw i ganolbwyntio ar ystyr. Mae ymchwil Ehri (2014) i fapio orthograffig yn helpu i esbonio’r pontio hwn. Mae cysylltiadau ailadroddus rhwng seiniau, sillafiadau ac ystyr yn sicrhau geiriau yng nghof hirdymor disgyblion ac yn ei gwneud yn gynyddol bosibl iddynt eu hadnabod yn awtomatig. Mae ffoneg systematig yn hanfodol, ond nid yw’n ddigonol i ddatblygu darllenwyr rhugl a hyderus.
Mae Hudson, Lane a Pullen (2005) yn diffinio rhuglder fel “the accurate reading of connected text, at a conversational rate with appropriate prosody or expression.” Mae hyn yn dwyn ynghyd:
- cywirdeb – darllen geiriau’n gywir
- awtomatedd – nodi geiriau’n gyflym ac yn rhwydd
- mydryddiaeth – darllen gyda brawddegu, mynegiant, goslef, pwyslais a rhythm priodol.
Nid yw’r rhain yn datblygu mewn dilyniant syml o ddatgodio, i ruglder, i ddealltwriaeth. Mae datblygu darllen yn gydgysylltiedig. O’r camau cynharaf, mae darllen geiriau’n datblygu ochr yn ochr ag iaith lafar, geirfa a dealltwriaeth.
Wrth i adnabyddiaeth ddod yn fwy awtomatig, mae gan ddisgyblion fwy o allu i ddilyn syniadau, creu cysylltiadau a dod i gasgliadau. Yn hyn o beth, mae rhuglder yn darparu pont wybyddol rhwng datgodio a dealltwriaeth.
Gwrando ar sut mae disgyblion yn darllen
Gall darllen ar goedd ddweud llawer iawn wrthym. Gallai un disgybl ddatgodio pob gair yn gywir ond darllen yn betrusgar, un gair ar y tro. Gallai un arall grwpio geiriau’n ymadroddion ystyrlon, ymateb i atalnodi a defnyddio pwyslais a goslef i adlewyrchu ystyr.
Mae’r fydryddiaeth hon yn fwy na defnyddio llais mynegiannol. Gall brawddegu priodol ddangos bod disgyblion yn prosesu strwythur brawddegau ac yn deall sut mae geiriau a syniadau’n cyd-fynd â’i gilydd. Mae ymchwil ryngwladol yn nodi perthynas gref rhwng rhuglder darllen llafar a dealltwriaeth, tra bod tystiolaeth OECD (2023) yn dangos bod rhuglder yn rhagfynegydd sylweddol o ddealltwriaeth darllen ar draws ieithoedd.
Gall athrawon gefnogi hyn trwy fodelu darllen rhugl, trafod sut mae atalnodi’n effeithio ar frawddegu a chynnig cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion wrando, ymarfer ac ailddarllen testunau ar goedd. Felly, mae darllen ar goedd i ddisgyblion a chyda disgyblion yn parhau i fod yn werthfawr y tu hwnt i’r adeg pan fydd disgyblion wedi dysgu hanfodion datgodio.
Mae rhuglder yn mynnu ymarfer – a her
Mae dod yn rhugl hefyd yn dibynnu ar ddarllen yn gyson Disgrifiodd Stanovich (1986) ‘Effaith Mathew’, lle mae disgyblion sy’n darllen mwy yn dod yn ddarllenwyr mwy effeithlon ac yn cronni geirfa a gwybodaeth gefndirol, gan wneud darllen dilynol yn haws. Ar gyfer disgyblion sy’n darllen llai, gall y cylch cyferbyniol ddatblygu, sef effaith lle ‘mae’r cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a’r tlawd yn mynd yn dlotach’, lle mae manteision neu anfanteision cynnar yn cynyddu’n fwyfwy dros gyfnod.
Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd darparu mwy o amser darllen yn unig yn ddigon. Mae angen her briodol ar ddisgyblion hefyd, sef ‘ymestyn wedi’i raddnodi’. Dylai testunau fod yn ddigon hygyrch i ddisgyblion eu darllen yn gywir wrth gyflwyno geirfa, patrymau iaith a syniadau mwy soffistigedig yn raddol.
Er enghraifft, canfu Downs, Young a Cole (2025) fod disgyblion hŷn mewn ysgolion cynradd a oedd yn ymarfer darllen testunau mwyfwy cymhleth yn gwneud cynnydd cryfach o ran cywirdeb a chyflymder darllen na’r rhai a oedd yn gweithio gyda deunydd symlach yn unig.
Mae’r cydbwysedd pwysig rhwng her a chefnogaeth: modelu yn ôl yr angen, ailedrych ar eirfa, caniatáu i ddisgyblion ailddarllen a lleihau cefnogaeth yn raddol wrth i annibyniaeth dyfu.
Datblygu stamina darllen
Mae angen stamina ar ddarllenwyr rhugl, hefyd. Mae angen y dygnwch gwybyddol arnynt i gynnal sylw a dealltwriaeth ar draws testunau estynedig, cadw syniadau mewn cof a dyfalbarhau pan ddaw geirfa neu syniadau’n anodd. Gallai hyn fynnu rhywfaint o foddhad gohiriedig – sef aros gyda thestun wrth i’r syniadau, cymeriadau neu’r naratifau ddatblygu, yn hytrach na disgwyl i’r ystyr neu’r wobr ddod ar unwaith.
Disgrifiodd yr academydd llenyddol o Gymru, Barbara Hardy, naratif fel “primary act of mind”, gan ddadlau bod naratif yn hanfodol i sut rydym yn trefnu profiad ac yn gwneud synnwyr o’n bywydau. Mae hyn yn ein helpu i weld stamina darllen fel mwy na dim ond gallu darllen am gyfnod hwy. Mae treulio cyfnodau estynedig gyda llenyddiaeth yn caniatáu i ddisgyblion ddilyn syniadau, cymeriadau a naratifau wrth iddynt ddatblygu, gweld safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau ar draws testun cyfan.
Mae gan sleidiau, crynodebau, darnau byr a thestunau ar-lein i gyd le defnyddiol mewn dysgu. Fodd bynnag, os ydynt yn disodli testunau estynedig a chysylltiedig yn rheolaidd, mae disgyblion yn cael llai o gyfleoedd i ymarfer cynnal sylw a dilyn syniadau dros gyfnod. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig mewn amgylchedd digidol. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu y gallai gormod o gyfryngau digidol effeithio ar barodrwydd disgyblion i gynnal sylw a chymhwyso ymdrech wybyddol wrth ymgysylltu â thestunau heriol (Shen, 2025). Yn lle hynny, mae angen cyfleoedd rheolaidd ar ddisgyblion i ddarllen testunau estynedig a chysylltiedig sy’n mynnu ffocws parhaus ac ymgysylltu â syniadau dros gyfnod (Scholastic Education, 2026).
Fodd bynnag, nid trwy ddygnwch yn unig y caiff stamina ei ddatblygu. Mae beth mae disgyblion yn ei ddarllen yn bwysig, hefyd. Gall testunau cyfoethog a difyr ganiatáu i ddisgyblion fynd i fyd arall, dod ar draws syniadau a phrofiadau anghyfarwydd neu ennyn ymateb emosiynol neu ddeallusol. Gall testunau da ymestyn disgyblion heb eu gorlethu a rhoi rheswm iddynt ddyfalbarhau.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru. Crybwyllodd Children and young people’s reading in 2025 National Literacy Trust mai dim ond 12.5% o blant a phobl ifanc yng Nghymru a ddywedodd eu bod yn darllen bob dydd yn eu hamser hamdden.
Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion?
Felly, mae datblygu darllenwyr rhugl yn ymwneud â sgil ac ewyllys, gan helpu disgyblion i ddod yn ddarllenwyr mwyfwy cymwys wrth greu’r amodau lle maent yn dewis darllen ac yn dyfalbarhau pan ddaw darllen yn heriol.
Ar gyfer athrawon ac arweinwyr, mae hyn yn codi rhai cwestiynau defnyddiol:
- Pa mor dda ydym ni’n deall rhuglder darllen disgyblion, gan gynnwys eu cywirdeb, eu hawtomatedd a’u gallu i ddarllen â brawddegu a mynegiant priodol?
- Pa mor effeithiol ydym yn modelu darllen rhugl ac yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion wrando, ymarfer ac ailddarllen testunau gwerthfawr?
- Pa mor dda ydym yn cydbwyso her a chefnogaeth fel bod disgyblion yn dod ar draws geirfa, iaith a thestunau mwyfwy uchelgeisiol heb ystyr neu gymhelliant gorlethol?
- Pa mor dda ydym yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gynnal eu darllen trwy destunau estynedig, cyfoethog ac amrywiol sy’n eu diddori, eu herio a’u hysbrydoli?
- Pa mor gydlynol y mae ein dulliau’n meithrin rhuglder, geirfa, gwybodaeth, stamina a mwynhad disgyblion o ddarllen dros amser ac ar draws y cwricwlwm?
Yn y pen draw, nid dim ond i ddisgyblion godi geiriau’n gywir oddi ar y dudalen yw’r nod. Y nod yw iddynt fynd i mewn i destun, cynnal eu sylw, cysylltu syniadau, casglu, holi, dychmygu ac ymateb.
Rhuglder yw’r bont sy’n golygu bod ystyr yn bosibl.