Cefnogi gwelliant trwy ymweliadau interim - Estyn

Cefnogi gwelliant trwy ymweliadau interim


Mae nifer o blant yn sefyll y tu allan ar laswellt, yn cydweithio i bentyrru blociau ewyn mawr coch a glas yn dŵr uchel. Mae ffens bren a phanel addurnol melyn llachar i’w gweld y tu ôl iddynt.

Blog gan Jon Wright, AEF

Yn Estyn, rydym yn gwybod bod gwelliant ystyrlon mewn addysg yn digwydd trwy fyfyrio, cydweithio a deialog broffesiynol barhaus. Dyna pam rydym, er mis Medi 2024, wedi cyflwyno ymweliadau interim ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed, yn ogystal ag unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) ledled Cymru.

Mae ymweliadau interim yn ymweliadau â ffocws sy’n cael eu cynnal rhwng arolygiadau craidd. Er nad ydynt yn arolygiadau ac nid ydynt yn arwain at argymhellion, maent yn darparu cyfle pwysig i ni ymgysylltu ag ysgolion yn fwy rheolaidd a deall profiadau arweinwyr, ymarferwyr a dysgwyr yn well.

Yn bwysicaf, mae ymweliadau interim wedi eu cynllunio i gefnogi ysgolion ar eu taith hunanwerthuso a gwelliant eu hunain.

Yn ystod ymweliad, mae Arolygwyr Ei Fawrhydi yn treulio amser yn siarad ag arweinwyr ysgolion, staff a dysgwyr am themâu penodol neu feysydd penodol i’w datblygu; fel arfer yr argymhellion o’r arolygiad craidd diwethaf. Mae’r sgyrsiau hyn yn helpu ysgolion i fyfyrio ar eu harfer, dathlu’r hyn sy’n gweithio’n dda ac ystyried y camau nesaf ar gyfer gwella. Mae’r broses yn gydweithredol, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar welliant.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi clywed adborth cadarnhaol gan ysgolion am werth yr ymweliadau hyn. Mae arweinwyr wedi siarad am fanteision cael amser dynodedig ar gyfer trafod a myfyrio proffesiynol, yn ogystal â chyfle i archwilio’u blaenoriaethau gwella mewn amgylchedd cefnogol.

I helpu codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o ymweliadau interim, rydym yn lansio ymgyrch newydd sy’n cynnwys myfyrdodau gonest gan ddarparwyr. Trwy gyfres o fideos byr, mae penaethiaid ac athrawon yn rhannu eu profiadau o’r broses ymweliadau interim ac yn trafod sut y cefnogodd yr ymweliadau ddysgu proffesiynol a gwella’r ysgol o fewn eu lleoliadau.

Rydym yn gobeithio y bydd y storïau hyn yn helpu rhoi darlun cliriach o’r hyn y mae ymweliadau interim yn ei gynnwys ac yn atgyfnerthu natur gefnogol a chydweithredol y broses.

Gallwch archwilio’r fideos a dod o hyd i fwy o wybodaeth ac adnoddau ar ein tudalen we ymweliadau interim.