I sicrhau bod carchardai’n cael eu dwyn yn atebol am yr un safon perfformiad â darparwyr tebyg, rydym wedi dewis yn glir i fabwysiadu ein fframwaith arolygu ar gyfer colegau addysg bellach, i raddau helaeth. Mae cyfres o ddogfennau arweiniad atodol ar gael ar ein gwefan sy’n darparu mwy o wybodaeth am ein dulliau o arolygu agweddau amrywiol ar y fframwaith hwn.
Lle cafodd addasiadau eu gwneud, cawsant eu gwneud i ystyried adborth gan ein rhanddeiliaid a chyd-destun a nodau gweithgareddau addysg, medrau a gwaith o fewn yr ystâd ddiogel yng Nghymru.
Bydd arolygwyr Estyn yn gwerthuso’r gweithgareddau addysg, medrau a gwaith o fewn carchardai dynion yn erbyn y disgwyliadau canlynol.