Adnodd hunanwerthuso a gwelliant parhaus newydd wedi'i lansio ar gyfer sector addysg drydyddol Cymru - Estyn

Adnodd hunanwerthuso a gwelliant parhaus newydd wedi’i lansio ar gyfer sector addysg drydyddol Cymru


QAA and Estyn logos

Mae Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Uwch (QAA), wedi’i ariannu gan Medr, wedi lansio adnodd ar-lein newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant parhaus ar draws system addysg drydyddol Cymru.

Mae’r microwefan, Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru, yn tynnu ynghyd ymchwil, mewnwelediadau sector ac offer ymarferol i helpu darparwyr i gryfhau eu dulliau o wella ansawdd a chanlyniadau dysgwyr.

Beth yw’r microwefan?

Mae’r microwefan yn adnodd ar-lein newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi darparwyr i ddatblygu arferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus effeithiol.

Mae’n cynnwys 12 egwyddor a rennir ar gyfer hunanwerthuso effeithiol, cwestiynau myfyriol i gefnogi trafodaeth broffesiynol, mewnwelediadau ac argymhellion penodol i’r sector, a gwybodaeth am rôl Estyn, QAA a Medr wrth gefnogi ansawdd ar draws y system drydyddol.

Mae’r adnodd wedi’i ddatblygu trwy brosiect ar y cyd rhwng Estyn a QAA wedi’i gan Medr ac wedi’i lywio gan dystiolaeth arolygu, adolygiadau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil ryngwladol.

Ar gyfer pwy mae hwn?

Mae’r adnodd wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ar draws system addysg drydyddol Cymru, gan gynnwys:

  • Colegau addysg bellach
  • Sefydliadau addysg uwch
  • Darparwyr prentisiaethau
  • Partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned
  • Chweched dosbarth ysgolion
  • Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Bydd hefyd o ddiddordeb i arweinwyr, llywodraethwyr, rheolwyr ansawdd, ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n ymwneud â sicrhau ansawdd, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

Pam mae’r prosiect hwn yn bwysig?

Mae hunanwerthuso effeithiol yn ffactor allweddol sy’n sbarduno gwelliant. Mae hunanwerthuso cryf yn helpu darparwyr i ddeall effaith eu gwaith, nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu a gwella canlyniadau a phrofiadau i ddysgwyr.

Er bod darparwyr ledled Cymru eisoes wedi sefydlu dulliau sicrhau a gwella ansawdd, nododd y prosiect hwn gyfleoedd i gryfhau arfer ymhellach. Yn benodol, mae’r prosiect yn tynnu sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar effaith, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol, ymgysylltu â dysgwyr yn ystyrlon a sicrhau bod cynllunio gwelliant yn arwain at newid mesuradwy.

Mae’r microwefan yn darparu fframwaith a rennir a all gefnogi myfyrio a gwella ar draws yr ystod amrywiol o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, gan gydnabod nad oes un dull a fydd yn gweithio i bob sefydliad.

Beth fydd defnyddwyr yn ei gael ar y wefan?

Bydd ymwelwyr â’r microsafle yn dod o hyd i:

  • 12 egwyddor hunanwerthuso effeithiol
  • Cwestiynau myfyriol i gefnogi deialog broffesiynol a chynllunio gwelliant
  • Dadansoddiad o arferion hunanwerthuso cyfredol ar draws sectorau addysg drydyddol yng Nghymru
  • Enghreifftiau o gryfderau a meysydd i’w gwella a nodwyd trwy weithgarwch arolygu ac adolygu
  • Argymhellion traws-sector a phenodol i sectorau
  • Gwybodaeth am rolau Estyn, QAA a Medr wrth gefnogi ansawdd a gwelliant parhaus
  • Adolygiad llenyddiaeth a darllen pellach ar hunanwerthuso effeithiol

Bydd yr adnodd yn parhau i dyfu dros amser, gydag astudiaethau achos newydd, enghreifftiau o arfer effeithiol a deunyddiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i gefnogi darparwyr ar draws y system drydyddol.

Darganfyddwch yr adnodd

Ewch i’r microwefan Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru i gael mynediad at yr adnodd llawn a’r deunyddiau ategol.