Beth rydym yn ei arolygu - Cymraeg i Oedolion - Estyn

Beth rydym yn ei arolygu – Cymraeg i Oedolion



Dysgwyr sy’n oedolion yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn arolygiad llawn o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion (Dysgu Cymraeg). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:

MA1: Addysgu a dysgu

MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3: Arwain a gwella

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru