Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Oedolyn a phlentyn yn cymysgu pridd yn ystod gweithgaredd dysgu awyr agored mewn meithrinfa neu leoliad gofal plant.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri thema arolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir. Mae’n egluro ‘Yr hyn rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn hanfodol i arolygwyr a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr, i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae canllaw ar wahân sy’n egluro’r broses arolygu a’r fethodoleg sef ‘Sut rydym yn arolygu’. Nodir y tri maes arolygu isod:

Thema 1: Lles a Gofal
Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefannau www.estyn.llyw.cymru a Arolygiaeth Gofal Cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Oedolyn a phlentyn yn cymysgu pridd yn ystod gweithgaredd dysgu awyr agored mewn meithrinfa neu leoliad gofal plant.

Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau nas-cynhelir meithrin a gofal plant sy’n darparu addysg ran-amser.

Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at ddeuddeg oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn cael eu haddysg mewn lleoliad a gynhelir.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r ddogfen ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall lleoliadau defnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Diben arolygiad ar y cyd yw:

  • rhoi sicrwydd digonol bod y lleoliad yn ddiogel ac yn gweithredu yn unol â’r rheoliadau
  • asesu a yw’r lleoliad yn parhau’n addas i gael ei gofrestru
  • cynnig gwerthusiad o ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi
  • gwerthuso ansawdd addysg feithrin
  • hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
  • llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r ddogfen hon yn amlinellu trefniadau Estyn ar gyfer arolygu ysgolion mewn sefyllfaoedd sy’n ymddangos nad ydynt yn gwbl syml, fel pan gaiff ysgolion newydd eu sefydlu, pan fydd ysgolion yn cydweithio, neu pan fydd ysgolion yn gweithio mewn ffederasiynau. Yn ogystal, mae’n amlinellu’r dull sydd gan Estyn ar gyfer canslo, oedi ac aildrefnu ysgolion sy’n cael eu harolygu o dan adran 28 Deddf Addysg 2005.

Er y defnyddir y term ‘ysgol’ drwy’r ddogfen, mae’r arweiniad yn llawn mor gymwys i unedau cyfeirio disgyblion (UCDau).

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn colegau arbenigol annibynnol, sef y darparwyr sydd wedi eu cofrestru fel sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1 – Addysgu a dysgu
MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3 – Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau arbenigol annibynnol. Y rhain yw’r darparwyr sydd wedi eu cofrestru fel sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn colegau arbenigol annibynnol, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon yn gysylltiedig â dysgu ac addysgu, lles, cymorth ac arweiniad, ac arwain a gwella, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 17 y llawlyfr hwn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned.Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu o’r enw ‘Sut rydym yn arolygu mewn partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1 Addysgu a dysgu
MA2 Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3 Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i bartneriaethau hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall partneriaethau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad am yr arolygiad. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd addysg a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Cyflwynir arweiniad ar weithgarwch dilynol ar ddiwedd y ddogfen hon.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn Addysg Bellach (AB). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1 – Addysgu a dysgu
MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3 – Arwain a gwella