Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn colegau arbenigol annibynnol, sef y darparwyr sydd wedi eu cofrestru fel sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1 – Addysgu a dysgu
MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3 – Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dysgwr yn canolbwyntio ar dasg ysgrifenedig yn yr ystafell ddosbarth, yn gwneud nodiadau yn ystod gwers tra bod dysgwyr eraill yn gweithio gerllaw.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i bartneriaethau hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall partneriaethau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad am yr arolygiad. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd addysg a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Cyflwynir arweiniad ar weithgarwch dilynol ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dau ddysgwr yn defnyddio microsgop yn ystod gwers wyddoniaeth, yn archwilio sbesimen ac yn gweithio gyda’i gilydd mewn labordy ysgol.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn Addysg Bellach (AB). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:

MA1 – Addysgu a dysgu

MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3 – Arwain a gwella

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Dau ddysgwr yn defnyddio microsgop yn ystod gwers wyddoniaeth, yn archwilio sbesimen ac yn gweithio gyda’i gilydd mewn labordy ysgol.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau addysg bellach o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Defnyddir y term ‘darparwr’ trwy gydol y ddogfen hon i gyfeirio at y coleg neu unrhyw grŵp o golegau sy’n gweithredu o dan un strwythur grŵp. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer addysg bellach, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad am yr arolygiad. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Cyflwynir arweiniad ar weithgarwch dilynol ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Llaw yn defnyddio llygoden gyfrifiadur mewn gweithfan.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth rydym yn ei arolygu mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Dylid ei ddarllen ar y cyd â llawlyfr ar wahân ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ddarparwyr i ategu eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu.

Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg sy’n cael eu darparu ar ran awdurdod lleol gan:

  • wasanaeth gwella ysgolion
    • partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol
    • sefydliad arall wedi’i gomisiynu gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, mudiad gwirfoddol neu gwmni preifat)

Gallai’r darparwyr eraill hyn gael eu harolygu ar wahân i awdurdod lleol a chyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn fel ‘darparwyr eraill gwasanaethau addysg’. Yn yr arolygiadau hyn, byddai arolygwyr ond yn cymhwyso’r rhannau o’r fframwaith sy’n cwmpasu’r gwasanaethau addysg perthnasol. Darllenwch ein harweiniad ‘Sut rydym yn arolygu’ am ragor o wybodaeth.

O fis Medi 2026, bydd arolygiadau Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL) yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd y cymorth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) i wella darpariaeth ddarllen. Wrth werthuso gwasanaethau gwella ysgolion, bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae gwasanaethau yn defnyddio data a thystiolaeth uniongyrchol i werthuso safonau disgyblion mewn darllen dros gyfnod yn eu hysgolion a’u UCDau. Byddwn hefyd yn ystyried pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol ac unrhyw bartneriaid perthnasol yn monitro ansawdd darllen, ac yn darparu cymorth, ymyrraeth a her gymesur i wella darpariaeth a deilliannau darllen mewn ysgolion ac UCDau. Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i wella deilliannau cyfathrebu a darllen ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr wedi sefydlu a chyfleu gweledigaeth glir i ddatblygu darllen ar draws yr awdurdod lleol, pa mor dda y caiff hyn ei rhannu ag ysgolion, UCDau a phartneriaid eraill, a pha mor dda y maent yn deall y weledigaeth.

Mae dau faes arolygu mewn arolygiadau GALlL, fel yr amlinellir isod.

Meysydd arolygu

Maes arolygu 1. Gwasanaethau addysg a’u heffaith

  1. Gwasanaethau gwella ysgolion
    1.      Cymorth i ddysgwyr bregus
    1.      Gwasanaethau cymorth eraill

Maes arolygu 2: Arwain a gwella

  • Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
    •      Hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella
    •      Trefniadau diogelu
    •      Defnyddio adnoddau

Mae arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys arolygiad o unrhyw rai o’r canlynol:

  • awdurdod lleol
    • gwasanaethau gwella ysgolion
    • gwasanaethau partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol i ddarparu unrhyw wasanaeth addysg
    • gwasanaeth addysg a gomisiynwyd gan awdurdod lleol neu grŵp o awdurdodau lleol

Byddwn yn cynnal arolygiadau ar wahân o waith ieuenctid awdurdodau lleol ac addysg drochi Cymraeg o fis Medi 2024 ymlaen. Yn achos y gwasanaeth ieuenctid statudol, caiff yr arolygiadau eu cynnal bedair wythnos cyn yr arolygiadau GALlL fel bod y canfyddiadau’n llywio agweddau perthnasol ar arolygiad GALlL yr ALl.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Llaw yn defnyddio llygoden gyfrifiadur mewn gweithfan.

Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y byddwn ni’n cynnal arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL) o Fedi 2024. Dylech ei ddarllen ochr yn ochr â’n harweiniad ar ‘Beth rydym yn ei arolygu’ dan arolygiadau GALlL.

Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cwmpasu swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg a ddarperir ar ran awdurdod lleol gan:

  • wasanaeth gwella ysgolion
    • partneriaeth rhwng dau awdurdod lleol neu fwy
    • sefydliad arall a gomisiynwyd gan yr awdurdod lleol (er enghraifft sefydliad gwirfoddol neu gwmni preifat)

Gallai’r darparwyr eraill hyn neu’r gwasanaethau ar y cyd gael eu harolygu ar wahân i awdurdod lleol a chyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn fel ‘darparwyr eraill gwasanaethau addysg’. Yn yr arolygiadau hyn, byddai arolygwyr ond yn cymhwyso’r rhannau o’r fframwaith sy’n cwmpasu’r gwasanaethau addysg perthnasol.

Hefyd, mae’r arweiniad hwn yn amlinellu sut y byddwn yn mynd ar drywydd awdurdodau lleol, gwasanaethau a gomisiynwyd neu wasanaethau partneriaeth sy’n peri pryder sylweddol.

Gall awdurdodau lleol a’u partneriaid ddefnyddio’r arweiniad hwn i ddeall sut byddwn ni’n cynnal arolygiadau. Gallai eu helpu hefyd i hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant.

Byddwch yn dod o hyd i ragor o wybodaeth ac arweiniad am arolygiadau ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Myfyriwr yn gwisgo sbectol a ffedog yn canolbwyntio ar beintio prosiect crefft lliwgar mewn ystafell ddosbarth.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau arbenigol annibynnol. Y rhain yw’r darparwyr sydd wedi eu cofrestru fel sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn colegau arbenigol annibynnol, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon yn gysylltiedig â dysgu ac addysgu, lles, cymorth ac arweiniad, ac arwain a gwella, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 17 y llawlyfr hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef: www.estyn.llyw.cymru

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Hyfforddwr a dysgwr yn gweithio gyda’i gilydd mewn gweithdy, yn adolygu mesuriadau a chynlluniau wrth fainc gwaith coed wedi’i hamgylchynu gan offer a deunyddiau.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pedwar maes arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r pedwar maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:

Meysydd arolygu

MA1 – Dysgu

1.1  Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau

1.2 Agweddau at ddysgu

IA2 – Lles, cymorth ac arweiniad

2.1 Datblygiad personol a’r effaith ar les

2.2 Diogelu

IA3 – Addysgu, hyfforddi, asesu a phrofiadau dysgu

3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y ddarpariaeth

3.2 Ansawdd yr addysgu, hyffforddi ac asesu

IA4 – Arweinyddiaeth a rheolaeth

4.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr

4.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant

4.3 Dysgu proffesiynol

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae dysgwr yn derbyn arweiniad gan hyfforddwr wrth ddefnyddio offer mewn gweithdy hyfforddi, yn sefyll wrth ymyl peiriant sydd wedi’i amgáu gan sgrin ddiogelwch.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu darparwyr rhaglenni prentisiaethau o 2024 ymlaen. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd arolygu a methodolegau hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn darparwyr rhaglenni prentisiaethau dysgu yn y gwaith, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant.  Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar ein gwefan.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru