Sut rydym yn arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith - Estyn

Sut rydym yn arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith



Mae dysgwr yn derbyn arweiniad gan hyfforddwr wrth ddefnyddio offer mewn gweithdy hyfforddi, yn sefyll wrth ymyl peiriant sydd wedi’i amgáu gan sgrin ddiogelwch.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu darparwyr rhaglenni prentisiaethau o 2024 ymlaen. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd arolygu a methodolegau hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn darparwyr rhaglenni prentisiaethau dysgu yn y gwaith, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant.  Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar ein gwefan.

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefan, sef www.estyn.llyw.cymru