Beth rydym yn ei arolygu - gwasanaethau addysg llywodraeth leol - Estyn

Beth rydym yn ei arolygu – gwasanaethau addysg llywodraeth leol



Llaw yn defnyddio llygoden gyfrifiadur mewn gweithfan.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth rydym yn ei arolygu mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Dylid ei ddarllen ar y cyd â llawlyfr ar wahân ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ddarparwyr i ategu eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu.

Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg sy’n cael eu darparu ar ran awdurdod lleol gan:

  • wasanaeth gwella ysgolion
    • partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol
    • sefydliad arall wedi’i gomisiynu gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, mudiad gwirfoddol neu gwmni preifat)

Gallai’r darparwyr eraill hyn gael eu harolygu ar wahân i awdurdod lleol a chyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn fel ‘darparwyr eraill gwasanaethau addysg’. Yn yr arolygiadau hyn, byddai arolygwyr ond yn cymhwyso’r rhannau o’r fframwaith sy’n cwmpasu’r gwasanaethau addysg perthnasol. Darllenwch ein harweiniad ‘Sut rydym yn arolygu’ am ragor o wybodaeth.

O fis Medi 2026, bydd arolygiadau Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL) yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd y cymorth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) i wella darpariaeth ddarllen. Wrth werthuso gwasanaethau gwella ysgolion, bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae gwasanaethau yn defnyddio data a thystiolaeth uniongyrchol i werthuso safonau disgyblion mewn darllen dros gyfnod yn eu hysgolion a’u UCDau. Byddwn hefyd yn ystyried pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol ac unrhyw bartneriaid perthnasol yn monitro ansawdd darllen, ac yn darparu cymorth, ymyrraeth a her gymesur i wella darpariaeth a deilliannau darllen mewn ysgolion ac UCDau. Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i wella deilliannau cyfathrebu a darllen ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Bydd arolygwyr yn ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr wedi sefydlu a chyfleu gweledigaeth glir i ddatblygu darllen ar draws yr awdurdod lleol, pa mor dda y caiff hyn ei rhannu ag ysgolion, UCDau a phartneriaid eraill, a pha mor dda y maent yn deall y weledigaeth.

Mae dau faes arolygu mewn arolygiadau GALlL, fel yr amlinellir isod.

Meysydd arolygu

Maes arolygu 1. Gwasanaethau addysg a’u heffaith

  1. Gwasanaethau gwella ysgolion
    1.      Cymorth i ddysgwyr bregus
    1.      Gwasanaethau cymorth eraill

Maes arolygu 2: Arwain a gwella

  • Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
    •      Hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella
    •      Trefniadau diogelu
    •      Defnyddio adnoddau

Mae arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys arolygiad o unrhyw rai o’r canlynol:

  • awdurdod lleol
    • gwasanaethau gwella ysgolion
    • gwasanaethau partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol i ddarparu unrhyw wasanaeth addysg
    • gwasanaeth addysg a gomisiynwyd gan awdurdod lleol neu grŵp o awdurdodau lleol

Byddwn yn cynnal arolygiadau ar wahân o waith ieuenctid awdurdodau lleol ac addysg drochi Cymraeg o fis Medi 2024 ymlaen. Yn achos y gwasanaeth ieuenctid statudol, caiff yr arolygiadau eu cynnal bedair wythnos cyn yr arolygiadau GALlL fel bod y canfyddiadau’n llywio agweddau perthnasol ar arolygiad GALlL yr ALl.