Beth rydym yn ei arolygu - addysg bellach - Estyn

Beth rydym yn ei arolygu – addysg bellach



Dau ddysgwr yn defnyddio microsgop yn ystod gwers wyddoniaeth, yn archwilio sbesimen ac yn gweithio gyda’i gilydd mewn labordy ysgol.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn Addysg Bellach (AB). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:

MA1 – Addysgu a dysgu

MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3 – Arwain a gwella

Mae mwy o wybodaeth am arolygiadau ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru