Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Darllen: Ffoneg
Mae ffoneg yn sylfaen allweddol ar gyfer dysgu darllen. Mae’n gweithio orau pan fydd plant yn barod a phan fydd wedi’i gysylltu ag ystyr. A yw ffoneg yn cael ei haddysgu’n systematig ac ar y cam cywir i ddisgyblion?
Sylwch ar:
- addysgu’r berthynas rhwng seiniau a llythrennau yn glir
- disgyblion sy’n asio’n hyderus
- oedolion yn gwirio cywirdeb a dealltwriaeth pan fydd disgyblion yn darllen
Gofynnwch i chi’ch hun:
‘A yw addysg ffoneg yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau darllen geiriau?’
- Ledled Cymru, yr her fwyaf i ysgolion yn aml yw dealltwriaeth disgyblion o’r hyn maent yn ei ddarllen. Sut mae oedolion yn cynorthwyo disgyblion i ddeall yr hyn maent yn ei ddarllen?
Edrychwch am addysgu sy’n cefnogi’r canlynol:
- datblygu geirfa
- gallu disgyblion i ddehongli (‘darllen rhwng y llinellau a’r tu hwnt iddynt’), gwerthuso a gwerthfawrogi’r hyn maent yn ei ddarllen
- cysylltu testunau â gwybodaeth a phrofiad disgyblion
- trafod ystyr, yn hytrach na datgodio geiriau yn unig
Gofynnwch i chi’ch hun:
‘A all y disgybl esbonio, yn eu geiriau eu hun, yr hyn mae wedi’i ddarllen?’
- Mae’r ysgolion cryfaf yng Nghymru yn trin darllen yn rhan ganolog o bob dysgu. A yw darllen yn cael ei blethu trwy brofiadau dysgu disgyblion, yn hytrach na chael ei gyfyngu i un sesiwn addysgu?
Edrychwch am:
- ddisgyblion yn manteisio ar destunau o ansawdd uchel ar draws y cwricwlwm
- athrawon yn modelu sut i ddarllen diagramau, siartiau, delweddau a ffynonellau eraill
- darllen sy’n cefnogi dysgu disgyblion mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol, er enghraifft
- disgyblion yn cymhwyso strategaethau a medrau darllen yn annibynnol i gefnogi eu gwaith
Gofynnwch i chi’ch hun:
‘A yw disgyblion yn darllen i ddysgu ac yn dysgu i ddarllen ar draws y cwricwlwm?’
