Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pedwar maes arolygu mewn darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.
Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae’r pedwar maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
Meysydd arolygu
MA1 – Dysgu
1.1 Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau
1.2 Agweddau at ddysgu
IA2 – Lles, cymorth ac arweiniad
2.1 Datblygiad personol a’r effaith ar les
2.2 Diogelu
IA3 – Addysgu, hyfforddi, asesu a phrofiadau dysgu
3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y ddarpariaeth
3.2 Ansawdd yr addysgu, hyffforddi ac asesu
IA4 – Arweinyddiaeth a rheolaeth
4.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
4.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
4.3 Dysgu proffesiynol