Archives: Erthyglau Newyddion
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 25 Mehefin 2026 am adolygiad o’r cylch arolygu prentisiaethau.
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 25 Mehefin 2026 am adolygiad o’r cylch arolygu prentisiaethau.
Mae gan arweinwyr canol rôl hanfodol mewn llunio profiadau dysgu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae eu gwaith wrth wraidd ansawdd addysgu, datblygu’r cwricwlwm a chynnydd dysgwyr.
Mae Hanfodion Estyn yn ymgyrch newydd a ddatblygwyd i gefnogi arweinwyr canol, athrawon a staff cymorth trwy ddarparu mewnwelediad clir a hygyrch i waith Estyn — a sut gellir ei ddefnyddio i gryfhau arfer mewn ysgolion ac UCDau.
Deall arolygu yn ymarferol
Weithiau, gall arolygu deimlo’n frawychus, yn enwedig ar gyfer arweinwyr canol sy’n cydbwyso cyfrifoldebau arwain ochr yn ochr ag addysgu o ddydd i ddydd. Nod Hanfodion Estyn yw chwalu dirgelwch y broses arolygu trwy esbonio sut beth yw arolygu yn ymarferol, ar beth mae arolygwyr yn canolbwyntio, a sut caiff sgyrsiau am arolygu eu cynnal.
Mae arolygu wedi’i seilio ar dystiolaeth, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar welliant. Mae arolygwyr yn awyddus i ddeall y gwaith a wna arweinwyr canol, gan gynnwys sut maent yn gwerthuso’u darpariaeth, yn cefnogi staff, ac yn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr.
Arweinwyr canol yn y canol
Mae gwybodaeth arweinwyr canol am eu pwnc, eu sector neu’u maes cyfrifoldeb yn hanfodol yn ystod arolygiad. Mae Hanfodion Estyn yn amlygu rôl bwysig arweinwyr canol a sut beth yw arweinyddiaeth effeithiol ar draws gwahanol gyd-destunau.
Trwy rannu arweiniad ac enghreifftiau clir, mae Hanfodion Estyn yn cynorthwyo arweinwyr canol i ddisgrifio’u heffaith yn hyderus a defnyddio hunanwerthuso fel offeryn ystyrlon ar gyfer gwella.
Defnyddio adnoddau Estyn i gryfhau arfer
Mae Hanfodion Estyn yn dangos sut gall arweinwyr canol ddefnyddio adborth arolygu, adroddiadau thematig, arweiniad ac ystod gyfan o adnoddau Estyn i lywio cynllunio, dysgu proffesiynol a datblygiad pwnc.
Gall defnyddio tystiolaeth genedlaethol helpu addysgwyr i fyfyrio ar eu harfer eu hunain, nodi cryfderau a chynllunio’r camau nesaf gyda diben.
Dysgu gyda’n gilydd
Mae Hanfodion Estyn yn rhannu myfyrdodau gonest gan ysgolion ac UCDau ledled Cymru, gan amlygu heriau cyffredin a dulliau effeithiol. Mae dysgu oddi wrth bobl eraill yn helpu cryfhau’r system addysg gyfan ac yn cefnogi gwelliant parhaus ar gyfer dysgwyr.
Trwy Hanfodion Estyn, ein nod yw darparu offer ymarferol, sicrwydd a mewnwelediad ar gyfer arweinwyr canol — gan gefnogi arweinyddiaeth hyderus a gwelliant ystyrlon ar draws pob sector.
Gallwch ddysgu mwy yma:
Hanfodion Estyn: Pecyn cymorth i athrawon ar gyfer ysgolion ac UCDau
Bydd Estyn yn arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno ddydd Gwener 12 Mehefin, gan gynnig cyfle i weithwyr proffesiynol addysg ddysgu mwy am ehangder ein gwaith a’r cymorth sydd ar gael i ddarparwyr ledled Cymru.
Gall ymwelwyr ddod o hyd i dîm Estyn ar Stondin 60, lle bydd cydweithwyr ar gael trwy’r dydd i drafod ein dull presennol ar gyfer arolygiadau ac ymweliadau interim, ein ffocws manylach ar ddarllen, a’r ystod eang o adnoddau gwella sydd ar gael i gefnogi arweinwyr canol ac ymarferwyr.
Y rhan o’r digwyddiad, bydd Estyn yn cyflwyno seminar a fydd yn para 50 munud am ein gwaith, gan dynnu sylw at sut gall ein gweithgarwch arolygu a’n hadnoddau gefnogi gwelliant ar draws y sector addysg.
Mae Arolygydd Ei Fawrhydi Tristan Roberts yn un o dîm o arolygwyr a fydd yn cynrychioli Estyn ar y diwrnod. Dywedodd ef:
“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i Estyn glywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr am eu dealltwriaeth o’n gwaith, sut maent yn ymgysylltu â ni, a pha mor ddefnyddiol y mae ein hadnoddau iddynt o ran cefnogi eu harfer.
“Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chynrychiolwyr yn y sioe a pharhau â sgyrsiau am gefnogi gwelliant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.”
Nod adnodd ar y cyd newydd gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Uwch (QAA) yw cefnogi darparwyr ar draws system addysg drydyddol Cymru i gryfhau eu harferion hunanwerthuso a gwelliant parhaus.
Mae’r microwefan newydd, Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru, yn dwyn ynghyd canfyddiadau o brosiect a ariannwyd gan Medr dan arweiniad Estyn a QAA. Mae’n darparu set o egwyddorion a rennir, cwestiynau myfyriol, mewnwelediadau sector ac argymhellion i helpu darparwyr i werthuso eu gwaith yn fwy effeithiol a gwella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae’r adnodd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio ar draws yr ystod amrywiol o ddarparwyr o fewn system drydyddol Cymru, gan gynnwys colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, darparwyr prentisiaethau, partneriaethau dysgu oedolion, chweched dosbarth ysgolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.
Nododd y prosiect 12 egwyddor allweddol ar gyfer hunanwerthuso effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar y dysgwr, bod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cael ei arwain gan effaith, yn canolbwyntio ar weithredu a bod yn dryloyw. Bwriad yr egwyddorion yw cefnogi darparwyr i fyfyrio’n feirniadol ar eu harfer a chryfhau eu dulliau o wella, gan gydnabod y gwahanol gyd-destunau y mae darparwyr yn gweithredu ynddynt.
Gan ddefnyddio tystiolaeth arolygu, adolygiadau ansawdd, ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwil ryngwladol, canfu’r prosiect fod gan lawer o ddarparwyr brosesau hunanwerthuso wedi’u sefydlu. Mae cryfderau cyffredin yn cynnwys ymgysylltu cryf â dysgwyr, defnydd effeithiol o dystiolaeth a threfniadau sicrhau ansawdd clir. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gryfhau arfer, yn enwedig drwy ganolbwyntio’n fwy manwl ar effaith y ddarpariaeth ar ddysgwyr, gwella ansawdd cynllunio gwelliant a gwneud defnydd gwell o ddata.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae hunanwerthuso fwyaf effeithiol pan fydd yn arwain at welliannau ystyrlon ym mhrofiadau a chanlyniadau dysgwyr. Mae’r adnodd hwn yn darparu fframwaith a rennir a all helpu darparwyr ledled Cymru i fyfyrio’n onest ar eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu, gan gydnabod amrywiaeth y system drydyddol.
“Rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â QAA a Medr ar y prosiect pwysig hwn. Drwy ddod ag arbenigedd o bob cwr o’r sectorau ynghyd, rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn cefnogi darparwyr i gryfhau eu prosesau gwella ansawdd a pharhau i godi safonau i ddysgwyr ledled Cymru.”
Dywedodd Maureen McLaughlin, Pennaeth Cymru, Gogledd Iwerddon a Goruchwyliaeth Addysgol, QAA:
“Mae ein cydweithrediad ag Estyn ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle cyffrous a chynhyrchiol i rannu a dysgu o arfer effeithiol ar draws sector trydyddol Cymru. Rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cynnig adnodd gwerthfawr i hyrwyddo a chryfhau gwerthuso a gwella darpariaeth ar draws ein sector cyfan yma yng Nghymru – a bydd hefyd o ddiddordeb a defnydd i’n cydweithwyr ledled y DU a thu hwnt.”
Mae’r microwefan newydd hwn yn adnodd cyntaf o’i fath wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Estyn a QAA. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad a rennir i gefnogi darpariaeth o ansawdd uchel a gwelliant parhaus ar draws y system addysg drydyddol yng Nghymru.
Bydd y microwefan yn parhau i ddatblygu dros amser, gydag astudiaethau achos ychwanegol, enghreifftiau o arfer effeithiol ac adnoddau eraill yn cael eu hychwanegu i gefnogi darparwyr i ymgorffori prosesau hunanwerthuso a gwella ansawdd effeithiol.
Bwriedir i’r adnodd fod yn offeryn ymarferol i gefnogi myfyrio a deialog broffesiynol. Nid yw’n cyflwyno gofynion statudol nac yn rhagnodi un dull o hunanwerthuso. Yn hytrach, ei nod yw annog darparwyr i ddatblygu dulliau sy’n gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddysgwyr.
Mae’r microwefan Hunanwerthuso a gwelliant parhaus yn y system drydyddol yng Nghymru ar gael yma.
Trwy gydol blwyddyn academaidd 2026/27, byddwn yn cynnal digwyddiadau Estyn yn Fyw misol – gan rannu gwybodaeth am ystod o bynciau allweddol a gwahodd rhanddeiliaid i ymuno â’n trafodaeth â darparwyr wrth iddynt ganolbwyntio ar lwyddiannau a heriau.
Cofrestrwch os hoffech gael gwybod pan fydd cofrestru’n agor: Cofrestrwch i gael diweddariadau – Estyn
Ymunodd Estyn â phartneriaid addysg o bob cwr o Gymru yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn eleni ar gyfer trafodaeth banel yn canolbwyntio ar ddarllen a llythrennedd.
Cynhaliwyd y sesiwn holi ac ateb ar stondin Dysgu ar y Maes, pan ddaeth cynrychiolwyr ar draws y sector addysg ynghyd i drafod pwysigrwydd darllen a dulliau cydweithredol i gefnogi llythrennedd ledled Cymru.
Roedd y panel yn cynnwys:
Hwyluswyd y drafodaeth gan Dyfed Williams, Arweinydd Cymraeg Craidd, Dysgu.
Roedd y sesiwn yn gyfle i amlygu ffocws Estyn ar ddarllen dros y blynyddoedd i ddod ac arddangos y cydweithio sy’n digwydd rhwng sefydliadau cenedlaethol, ysgolion a’r sector addysg ehangach i gefnogi medrau darllen dysgwyr, a’u mwynhad o ddarllen.
Dywedodd Owen Evans, PAEF: “Mae darllen yn fedr gydol oes sy’n agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol, a thrwy ein ffocws manylach ar ddarllen, ein nod yw cynorthwyo dysgwyr yn well i wneud cynnydd ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a chael cyfleoedd bywyd gwell.
“Roedd yn ddefnyddiol myfyrio ar sut gallwn ni annog diwylliant darllen cadarnhaol ar y cyd, a gyrru safonau trwy ddysgu proffesiynol ac addysgu a gwerthuso effeithiol.”

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 21 Mai 2026 am drafodaeth ynglŷn â gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd.
Bydd Estyn yn cynnal gweithdy rhyngwladol yng Nghaerdydd yr wythnos hon, gan ddod ag arolygiaethau addysg o bob cwr o Ewrop a thu hwnt ynghyd i archwilio rôl deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg.
Bydd Gweithdy SICI Cymru 2026, Llywio’r Daith Deallusrwydd Artiffisial, yn cael ei gynnal o 22 i 24 Ebrill ym Mae Caerdydd. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Chynhadledd Ryngwladol Sefydlog yr Arolygiaethau (SICI), bydd y digwyddiad yn croesawu cynrychiolwyr o 25 o wledydd i rannu arbenigedd a chryfhau cydweithio rhyngwladol.
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ganlyniadau prosiect ar y cyd rhwng arolygiaethau yng Nghymru, Norwy a’r Alban, gan archwilio sut y gall AI gefnogi gwaith arolygu. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau ymarferol a gweithdai cydweithredol, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut y gellir defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg mewn modd cyfrifol ac effeithiol o fewn systemau addysg.
Cynhelir y brif gynhadledd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, gan ddarparu lleoliad deinamig ar gyfer trafodaethau ar arloesedd technolegol. Bydd y brif araith yn cael ei thraddodi gan Dr Madiha Khan, ymchwilydd AI a gwyddonydd data, fydd yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau y mae AI yn cyflwyno i addysg.
Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i arddangos Cymru a’i diwylliant. Bydd cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn taith dywys o amgylch Bae Caerdydd ac yn mynychu cinio gala yn y Gyfnewidfa Lo, gyda pherfformiadau gan bobl ifanc sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, gan ddathlu iaith a diwylliant Cymru.
Drwy gynnal y gweithdy rhyngwladol hwn, mae Estyn yn cyfrannu at sgyrsiau byd-eang am ddyfodol addysg ac arolygu. Mae’r digwyddiad yn adlewyrchu ymrwymiad Estyn i archwilio sut y gall AI wella eu gwaith, gwella effeithlonrwydd a chefnogi canlyniadau gwell i ddysgwyr yng Nghymru.
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 30 Ebrill 2026 am drafodaeth sy’n dadansoddi popeth sydd angen i chi ei wybod am arolygu yn y sector ôl-16.
Mae’r sesiwn yn hanfodol i arweinwyr, staff a llywodraethwyr sydd eisiau dysgu mwy am y broses.
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl bwysig wrth helpu ysgolion i reoli eu cyllid, ond mae’r cymorth strategol y maent yn ei gynnig yn amrywio gormod ledled Cymru, yn ôl adroddiad newydd Estyn, Cymorth awdurdodau lleol i ysgolion i reoli eu cyllidebau. Mae’r adroddiad yn archwilio pam mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion a gynhelir â rheolaeth ariannol a chynllunio tymor hir ar adeg o bwysau cynyddol ar gyllidebau ysgolion.
Mae’r adolygiad yn canfod bod ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyngor a’r arweiniad a gânt gan dimau cyllid awdurdodau lleol, yn gyffredinol. Mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn elwa ar gymorth gweithredol cryf o ddydd i ddydd i’w helpu i fonitro gwariant, rheoli grantiau a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ariannol.
Fodd bynnag, mae cymorth yn llai cyson o ran helpu ysgolion i gynllunio’n strategol. Yn rhy aml, mae’r ffocws ar fantoli cyllidebau blynyddol yn hytrach na chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau ariannol tymor canolig a thymor hir hyderus.
Fel arfer, mae prosesau gosod cyllideb yn agored ac yn dryloyw, ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag ysgolion trwy grwpiau ymgynghori neu fforymau cyllideb. Fodd bynnag, gall eglurder ac amseriad gwybodaeth ariannol amrywio’n sylweddol, gan ei gwneud hi’n anodd i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion gynllunio penderfyniadau am staff a’r cwricwlwm yn hyderus.
Mae’r adroddiad hefyd yn canfod, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn monitro risg ariannol ac yn cynorthwyo ysgolion sy’n wynebu anawsterau ariannol, bod dulliau ymyrraeth gynnar a chynaliadwyedd tymor hir yn anghyson. Mewn llawer o achosion, mae ymatebion yn canolbwyntio ar arbedion tymor byr yn hytrach na chynllunio tymor hwy.
Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod yr arfer gryfaf yn digwydd lle mae gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cydweithio’n agos â’i gilydd. Mae hyn yn helpu awdurdodau i nodi risgiau’n gynharach a sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:
“Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymrwymo’n gryf i gynorthwyo ysgolion i reoli eu cyllid, ac mae ysgolion yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb a hygyrchedd timau cyllid.
“Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth gliriach a mwy amserol, a chymorth cryfach, ar ysgolion i gynllunio ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir. Lle mae awdurdodau lleol yn dwyn ynghyd arbenigedd cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion, maent yn gallu nodi risgiau’n gynnar yn well a chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau cynaliadwy sydd o fudd i ddysgwyr.”
Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella amseroldeb a rhagweladwyedd cyllid ac yn symleiddio trefniadau ariannu i gefnogi cynllunio tymor hir yn well. Mae hefyd yn galw am arweiniad cenedlaethol cryfach a buddsoddi mewn data i gefnogi cynllunio ariannol cyson ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn argymell cryfhau cymorth strategol gan awdurdodau lleol trwy wella cynllunio aml-flwyddyn, darparu gwybodaeth ariannol gliriach a mwy amserol, a chydweithio’n agosach ar draws gwasanaethau cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion.