Addysgu a Dysgu Gwyddoniaeth: Addysgu ar gyfer dealltwriaeth mewn ystafelloedd dosbarth gwyddoniaeth
Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio ansawdd addysgu a dysgu mewn gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed yng Nghymru. Mae’n gwerthuso pa mor dda mae ysgolion yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau ymholi gwyddonol disgyblion yn rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg o fewn Cwricwlwm i Gymru ar gyfer yr ystod oedran 7-16. Mae’r adroddiad yn ystyried effeithiolrwydd cynllunio’r cwricwlwm, addysgu, asesu ac arweinyddiaeth, a pha mor dda mae ysgolion yn cefnogi dilyniant mewn gwyddoniaeth ar draws sectorau. Mae hefyd yn archwilio agweddau disgyblion tuag at wyddoniaeth a pha mor dda maent yn cymhwyso’u dysgu mewn cyd-destunau dilys.
Mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer effeithiol yn y sectorau cynradd ac uwchradd, lle mae ysgolion wedi datblygu cynlluniau cwricwlwm cydlynus, wedi cryfhau arbenigedd pwnc ac wedi cynorthwyo disgyblion i ddyfnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol dros gyfnod. Fodd bynnag, ar draws yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer gwyddoniaeth yn anghyson. Mewn gormod o achosion, mae gwendidau o ran cynllunio’r cwricwlwm, addysgu ac asesu yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion, yn enwedig o ran datblygu dealltwriaeth gysyniadol a rhesymu gwyddonol cadarn. Yn aml, nid yw’r trefniadau i gefnogi dilyniant rhwng y sector cynradd a’r sector uwchradd wedi eu datblygu’n ddigonol, gan arwain at ailadrodd, bylchau mewn dysgu a her anwastad.
Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso pedwar maes allweddol, sef:
- Gwyddoniaeth yn y sector cynradd: Mae mwyafrif o ysgolion cynradd yn gynyddol uchelgeisiol yn eu hymagwedd at wyddoniaeth ac yn darparu profiadau dysgu difyr ac ymarferol ar gyfer disgyblion sy’n meithrin chwilfrydedd a mwynhad. Yn yr arfer gryfaf, mae arweinwyr wedi datblygu modelau dilyniant clir sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng ymholi ac addysgu gwybodaeth wyddonol yn eglur, ac yn darparu cyd-destunau byd go iawn ystyrlon, yn aml trwy bartneriaethau â diwydiant a’r gymuned. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oes statws digon uchel i wyddoniaeth o fewn y cwricwlwm. O ganlyniad i orddibynnu ar ddulliau thematig neu ddulliau wedi eu harwain gan ymholi, heb gynllunio clir ar gyfer dilyniant cysyniadol, mae disgyblion yn cwblhau gweithgareddau heb ddeall yn llawn y syniadau gwyddonol sy’n sail i’w gwaith. Yn aml, nid yw asesu ac olrhain dealltwriaeth wyddonol disgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol, sy’n ei gwneud yn anodd i arweinwyr werthuso cynnydd dros gyfnod.
- Gwyddoniaeth yn y sector uwchradd: Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, caiff cynlluniau’r cwricwlwm eu strwythuro o amgylch dulliau disgyblaethol o ran bioleg, cemeg a ffiseg, sy’n cefnogi ymdriniaeth briodol a pharatoi yn briodol ar gyfer arholiadau. Lle mae’r addysgu ar ei gryfaf, mae athrawon yn defnyddio gwybodaeth bwnc gadarn a modelu a holi effeithiol i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol a rhesymu gwyddonol disgyblion. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, mae gwendidau mewn cynllunio yn golygu na chaiff dysgu ei ddilyniannu’n ddigon clir i ddatblygu gwybodaeth a medrau disgyblion yn systematig dros gyfnod, yn enwedig ym Mlwyddyn 7 i Flwyddyn 9. Mae amser cwricwlwm cyfyngedig, heriau staffio a chydweithio anghyson ag ysgolion cynradd yn cyfrannu at amrywioldeb ym mhrofiadau a chynnydd disgyblion.
- Deall dilyniant mewn gwyddoniaeth: Ar draws y ddau sector, mae ysgolion mewn cyfnodau gwahanol o ran datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant mewn gwyddoniaeth. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae arweinwyr yn defnyddio dogfennau cydweithio a disgwyliadau ar y cyd o ddilyniant i gefnogi parhad, ailedrych ar gysyniadau allweddol a mynd i’r afael â chamdybiaethau yn systematig. Fodd bynnag, mewn mwyafrif o ysgolion, ni chaiff dilyniant ei gynllunio’n ddigon cadarn. Yn aml, mae athrawon yn mynd i’r afael â chamdybiaethau yn adweithiol yn hytrach na’u rhagweld trwy gynllunio’r cwricwlwm, ac nid yw asesu yn cofnodi’n gyson sut mae dealltwriaeth disgyblion yn dyfnhau dros gyfnod.
- Arwain a gwella gwyddoniaeth: Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ffactor allweddol wrth sicrhau darpariaeth gref mewn gwyddoniaeth. Mewn ysgolion lle mae arweinwyr yn blaenoriaethu gwyddoniaeth, yn diogelu amser cwricwlwm ac yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol sy’n benodol i bwnc, mae disgyblion yn elwa ar gwricwla mwy cydlynus ac addysgu cryfach. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion, mae monitro a gwerthuso gwyddoniaeth yn canolbwyntio’n rhy drwm ar ddarpariaeth yn hytrach na’i heffaith ar ddysgu. Mae heriau wrth recriwtio a chadw athrawon gwyddoniaeth arbenigol, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, yn parhau i effeithio ar ddarpariaeth.
Ar draws yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae’r addysgu cryfaf mewn gwyddoniaeth yn rhannu nifer o nodweddion cyffredin. Mae’r nodweddion hyn yn adlewyrchu’r ffyrdd y mae athrawon yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol gadarn a chymhwyso’u dysgu dros gyfnod. Maent wedi eu crynhoi isod.

Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion, a Llywodraeth Cymru. Mae’r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar gryfhau cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer dilyniant, gwella ansawdd addysgu ac asesu, datblygu gallu arwain mewn gwyddoniaeth, a mynd i’r afael â heriau o ran y gweithlu a dysgu proffesiynol i sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn profi addysg wyddoniaeth o ansawdd uchel.