Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 4 of 7 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes mewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio ‘beth rydym ni’n ei arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r fframwaith arolygu. Ceir llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘sut rydym ni’n arolygu’.

Mae’r pum maes arolygu wedi eu hamlinellu isod.

Meysydd Arolygu
MA1 Dysgu

  • 1.1 Safonau a chynnydd yn gyffredinol

MA2 Lles ac agweddau at ddysgu

  • 2.1 Lles
  • 2.2 Agweddau at ddysgu

MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu

  • 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
  • 3.2 Ansawdd addysgu a mentora

MA4 Gofal, cymorth ac arweiniad

  • 4.1 Datblygiad personol a phroffesiynol, a darparu cymorth dysgu
  • 4.2 Diogelu

MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
  • 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
  • 5.3 Dysgu proffesiynol

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn colegau addysg bellach. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer colegau i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r pum maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.

Meysydd arolygu

MA1 – Dysgu

  • 1.1 Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau

MA2 – Lles ac agweddau at ddysgu

  • 2.1 Lles
  • 2.2 Agweddau at ddysgu

MA3 – Addysgu a phrofiadau dysgu

  • 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
  • 3.2 Ansawdd yr addysgu a’r asesu

MA4 – Gofal, cymorth ac arweiniad

  • 4.1 Datblygiad personol
  • 4.2 Diogelu

MA5 – Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
  • 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
  • 5.3 Dysgu proffesiynol

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau arbenigol annibynnol yn 2022. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer colegau i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd arolygu a methodolegau hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn colegau arbenigol annibynnol, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall colegau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y coleg i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar ein gwefan.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser. Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliad a gynhelir.

Diben arolygu ar y cyd yw:

  • Cynnig gwerthusiad am ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adroddiadau a gyhoeddir
  • hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
  • llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
  • profi p’un a yw’r gwasanaeth yn addas i fod wedi’i gofrestru o hyd
  • rhoi sicrwydd digonol bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn cydymffurfio

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Nod yr arweiniad atodol hwn yw cefnogi arolygwyr i:

  • werthuso i ba raddau y mae arweinwyr a rheolwyr yn cynllunio cyfleoedd pwrpasol yn strategol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, a rhoi’r cynlluniau hyn ar waith yn effeithiol
  • gwerthuso graddau ac ansawdd darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol
  • gwerthuso pa mor dda y mae’r ysgol yn addysgu disgyblion am fanteision dysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog
  • lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae cyfran yr addysgu yn Gymraeg yn cyd-fynd â chategori iaith swyddogol yr ysgol
  • gwerthuso gallu disgyblion i siarad Cymraeg ac ymateb i Gymraeg llafar o gymharu â disgyblion mewn ysgolion mewn cyd-destunau tebyg a’u mannau cychwyn
  • gwerthuso’r cynnydd a wna disgyblion o ran datblygu eu medrau cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer eu dysgu ar draws y cwricwlwm, ac mewn cyd-destunau mwy anffurfiol.

Wrth arolygu medrau llythrennedd (Cymraeg) mewn ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg, dylech chi hefyd gyfeirio at yr arweiniad atodol: Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion ac UCDau sydd i’w weld ar wefan Estyn hefyd.

Mae’r Fframwaith Arolygu diwygiedig (Medi 2021) yn gosod gofyniad i arolygwyr werthuso a rhoi sylwadau ar y Gymraeg yn y canlynol:

5.1 (Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr, yn cynnwys y corff llywodraethol),

3.1 (Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm), ac mewn

1.1 (Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau [gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu]).

Cyflwynwyd yr adroddiad fel hyn am fod 5.1 yn ymgorffori gweledigaeth strategol arweinwyr ar gyfer y Gymraeg yn eu lleoliadau yn ogystal â phrosesau hunanwerthuso, blaenoriaethau a dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi’r addysgu (3.1) a’r dysgu (1.1). Yn ychwanegol, mae arolygwyr yn rhydd i adrodd ar agweddau yn gysylltiedig â’r Gymraeg mewn perthynas â maes arolygu 2 (Lles ac agweddau at ddysgu) a maes arolygu 4 (Gofal, cymorth ac arweiniad).

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o golegau annibynnol arbenigol o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer colegau annibynnol arbenigol ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, gallai’r arolygiaeth drefnu cynnal ymweliad monitro cynnar i gefnogi gwelliant.

Gall colegau annibynnol arbenigol ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanasesiad a’u prosesau gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o UCDau o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer UCDau ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr UCD i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion cynradd o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion cynradd ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion cynradd ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion pob oed o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion pob oed ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion pob oed ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.