sicrhau bod eu hamserlenni yn cyd-fynd â rhai darparwyr eraill ac ystyried y bylchau mewn dewislenni opsiynau lleol wrth gynllunio eu darpariaeth;
rhoi gwybodaeth glir, gywir a diduedd i ddysgwyr am y dewisiadau sydd ar gael iddynt; a
chynyddu’r ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i bob dysgwr.
Dylai rhwydweithiau:
sicrhau bod gan bob darparwr, staff, dysgwr a rhiant ddealltwriaeth glir o Lwybrau Dysgu 14-19 ac o’r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr; ac
archwilio ffyrdd o gael ymglymiad llawn darparwyr dysgu yn y gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ddatblygu strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau bod darparwyr, dysgwyr a rhieni yn cael eu hysbysu’n well am ddiben Llwybrau Dysgu 14-19 a dewislenni opsiynau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
gynllunio gwasanaethau yn strategol mewn partneriaeth â phobl eraill i ddarparu cymorth effeithiol nad yw’n addysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig cymhleth a’u teuluoedd;
gwneud yn siŵr bod ysgolion arbennig annibynnol sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig yn gallu bodloni ystod o anghenion cymhleth disgyblion unigol cyn eu lleoli; a
sicrhau bod gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal yn cael ei rhoi i’r ysgol cyn lleoli’r disgyblion.
Dylai ysgolion arbennig preswyl sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig:
sicrhau eu bod yn derbyn disgyblion y mae ganddynt arbenigedd i’w haddysgu yn unig; a
pheidio â derbyn disgyblion nes eu bod wedi cael gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal gan yr awdurdod lleoli.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
wneud yn siŵr bod trefniadau cytundebol ar waith gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i sicrhau ennill fframweithiau cymhwyster;
parhau i ddarparu cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer medrau allweddol ar lefel genedlaethol i helpu darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ansawdd eu hyfforddiant a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cyflawni’r fframweithiau cymhwyster; a
gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i alluogi darparwyr dysgu yn y gwaith i feincnodi eu perfformiad yn gywir a nodi meysydd o’u gwaith y mae angen eu gwella.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
ddatblygu strategaethau ymhellach i gynyddu cyrhaeddiad dysgwyr mewn medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster; a
gwneud yn siŵr bod hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys medrau allweddol, yn rhan orfodol o raglenni dysgu.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
ystyried ceisio gwneud trefniadau ffurfiol gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru lle nad yw pobl ifanc mewn cartrefi plant yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth a gynhelir; a
sicrhau bod ysgolion annibynnol cofrestredig yn cynnal cofrestrau presenoldeb dyddiol sy’n cydymffurfio â rheoliadau, ac yn cyflawni gofynion Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cymru) 2003.
Dylai awdurdodau lleol:
roi cofnodion addysg disgyblion i ysgolion annibynnol cofrestredig yn fwy prydlon a sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfoes; a
chymryd rôl fwy cadarnhaol fel rhieni corfforaethol.
Dylai ysgolion annibynnol cofrestredig:
gynnal asesiad cychwynnol o ddisgyblion newydd, monitro eu cynnydd yn effeithiol a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio’n briodol i fodloni anghenion dysgu disgyblion; ac
arfarnu a monitro’r rhaglenni astudio addysg yn fwy trylwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau eraill am ran o’u haddysg.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
ddarparu arweinyddiaeth ac adnoddau yn y mannau hynny lle nad oes data ar gael;
cefnogi datblygiad mesurau deilliannau defnyddiol gan adeiladu ar ddangosyddion perfformiad presennol; a
datblygu arweiniad ar gwmpas data i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi angen i gael cysondeb gwell ledled Cymru.
Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid:
wneud yn siŵr bod y data sy’n cael ei gasglu ar gyfer dadansoddi anghenion a mesurau deilliannau yn cael ei ddefnyddio i lywio dyrannu adnoddau a chynllunio strategol;
defnyddio mesurau deilliannau effeithiol a chasglu’r wybodaeth hon yn drefnus; a
defnyddio gwybodaeth fanwl i ganolbwyntio gwasanaethau cymorth ac addysg ar y rhai sydd eu hangen fwyaf.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
roi arweiniad clir i awdurdodau lleol am y mathau o ddarpariaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu cofrestru; a
rhoi gwybodaeth flynyddol i Estyn am yr holl safleoedd y mae awdurdodau lleol yn eu cofrestru.
Dylai awdurdodau lleol:
gofrestru gyda Llywodraeth Cymru yr holl safleoedd lle maent yn cynnal darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol heblaw’r rhai sydd mewn ysgolion prif ffrwd, arbennig neu feithrin;
hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gofrestredig yn flynyddol; a
gofyn am gydweithio agosach rhwng gweithwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a gweithwyr ieuenctid i nodi plant nad ydynt yn mynychu ysgolion neu ddarpariaeth addysgol gymeradwy arall.
Dylai ysgolion:
sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.