ddarparu hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol i wella eu gwybodaeth bynciol ac addysgeg; a
chynyddu’r cydweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod, gyda’i gilydd, yn cynnig ystod lawn o ddewisiadau gwyddoniaeth i fodloni anghenion pob dysgwr 14-19 ac yn gwneud defnydd mwy effeithiol o athrawon arbenigol.
Dylai rhwydweithiau 14-19:
annog mwy o gydweithio rhwng darparwyr i gynnig ystod eang o lwybrau mewn gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19, yn cynnwys llwybrau cymhwysol a galwedigaethol; a
gwneud yn siŵr bod cydlynwyr Llwybrau Dysgu 14-19 ac anogwyr dysgu yn deall y llwybrau posibl mewn gwyddoniaeth yn llawn a’u bod yn rhoi cyngor llawn a diduedd i ddysgwyr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ddatblygu strategaeth addysg wyddoniaeth i Gymru a fydd yn cynnig symbyliad arwyddocaol i wella safonau ac ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth ac yn y gwyddorau ffisegol yn arbennig; a
chefnogi datblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer penaethiaid gwyddoniaeth ac ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol.
Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.
Mae angen i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â TUC Cymru:
ymestyn prosiectau CDdUC hyd at dair blynedd i wneud yn siŵr bod cyflogeion yn cael o leiaf ddwy flynedd lawn o addysg a hyfforddiant;
gwella’r broses gwneud cynigion i wneud yn siŵr bod undebau llafur a dysgwyr yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant a ariennir gan CDdUC sydd ar gael; a
gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i wella cynaliadwyedd rhaglenni CDdUC ar ddiwedd eu cyfnod ariannu.
Mae angen i TUC Cymru:
wella gweithio mewn partneriaeth ar draws undebau i’w galluogi i rannu arfer dda ac adnoddau yn effeithiol.
Mae angen i reolwyr prosiect CDdUC:
wneud yn siŵr bod pob cyflogai yn cael cymorth medrau sylfaenol ar lefel addas; ac
ymgysylltu’n llawn â chyflogwyr i wneud y gorau o argaeledd a chynaliadwyedd cyfleoedd dysgu ar gyfer cyflogeion a’u teuluoedd pan fydd cyllid CDdUC wedi dod i ben.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
ddyfnhau dealltwriaeth staff o fathemateg er mwyn iddynt allu nodi’r hyn y mae angen i ddisgyblion ei ddysgu nesaf yn well;
cynnig cyfleoedd gwell a mwy rheolaidd i ddisgyblion ‘ddefnyddio a chymhwyso’ mathemateg yn eu gwaith bob dydd, yn cynnwys gwella lefel yr her i’r disgyblion mwy abl ddatblygu eu medrau meddwl a datrys problemau; a
chynnwys pob un o’r staff, yn cynnwys y staff cymorth, wrth lunio cynlluniau datblygu mathemategol a chynlluniau tymor byr ar gyfer addysgu mathemateg a rhifedd.
Dylai awdurdodau lleol:
wneud defnydd gwell o ddadansoddi data i dargedu cymorth ar gyfer ysgolion y mae angen i’w perfformiad mewn mathemateg wella; a
darparu mwy o addysgu ar gyfer athrawon mewn mathemateg ac mewn sicrhau asesiadau athrawon mwy cywir a chyson ar ddiwedd Blwyddyn 2.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
sicrhau bod digon o leoedd hyfforddiant yn y gwaith i fodloni anghenion yr holl bobl ifanc;
casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad a chyflawniadau plant a phobl ifanc sy’n cael eu goruchwylio gan TTIau yn y gymuned; a
monitro’r defnydd o gynlluniau dysgu unigol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sy’n troseddu, fel sy’n ofynnol gan Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.
Dylai awdurdodau lleol:
gymryd rhan mewn byrddau rheoli TTI ar lefel ddigon uchel, gan sicrhau bod cynrychiolaeth ar lefel ddigon uchel gan wasanaethau addysg; ac
adolygu lefel y cyfraniad cyllid at TTIau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
sicrhau bod Rhwydweithiau Dysgu yn glir ynglÅ·n â’r gwasanaethau y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu darparu yn eu cyllid craidd;
gwella dealltwriaeth partneriaid o’r ffiniau rhwng rolau anogwyr dysgu ac ymgynghorwyr gyrfaoedd; ac
adolygu, ar lefel strategol, y modd y gall cynlluniau busnes a modelau adnodd ymateb yn well i ddatblygiadau Llwybrau Dysgu.
Dylai Rhwydweithiau Dysgu:
wneud y defnydd gorau o wybodaeth am y farchnad lafur a’r wybodaeth am gyrchfannau dysgwyr y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu llunio er mwyn cynllunio darpariaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru:
sicrhau bod cyfatebiaeth briodol rhwng anghenion dysgwyr ac argaeledd dysgu yn y gwaith addas; a
sefydlu canllawiau clir i egluro rôl anogwyr dysgu a gwella cysondeb y ddarpariaeth.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
gasglu data trylwyr ar leoliadau canolfannau adnodd sydd ynghlwm wrth ysgolion a’r grwpiau o ddisgyblion y maent yn gweithio gyda nhw;
parhau i ymestyn y system integredig i blant fel y gellir rhannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; ac
annog AALlau i ddatblygu polisïau derbyn ac ymadael cynhwysfawr gyda meini prawf clir ar gyfer canolfannau adnodd.
Dylai awdurdodau lleol:
gynnwys partneriaid allanol yn llawn wrth gynllunio darpariaeth;
casglu a dadansoddi data am ddisgyblion y diffiniwyd mai anawsterau dysgu cymedrol yw eu prif angen, a grwpiau eraill o ddisgyblion ag anghenion penodol, yn eu canolfannau adnodd i lywio cynllunio strategol; ac
adolygu grwpiau ac anghenion disgyblion mewn canolfannau adnodd yn rheolaidd a gwneud newidiadau priodol lle bydd angen.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
nodi data gwaelodlin a gosod targedau ar gyfer rhwydweithiau 14-19 i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a monitro cynnydd yn erbyn y targedau hynny; a
hyrwyddo adnoddau cyfrwng Cymraeg ar-lein newydd a chodi ymwybyddiaeth darparwyr am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dylai’r rhwydweithiau 14-19:
nodi bylchau a gwendidau mewn darpariaeth Gymraeg ar draws darparwyr a gosod targedau i fynd i’r afael â nhw; a
hysbysu darparwyr a dysgwyr am gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg.
Dylai darparwyr:
farchnata eu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn fwy gweithredol;
arfarnu cost-effeithiolrwydd cyrsiau, a chydweithio mwy i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â darparwyr eraill pan fydd niferoedd yn isel, er enghraifft, trwy ymestyn y defnydd o athrawon peripatetig; a
chynyddu cymorth tiwtoriaid i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell trwy fideo-gynadledda neu e-ddysgu.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.