Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla a’u haddysgu yn datblygu gwybodaeth, medrau, dealltwriaeth ac ymddygiadau dysgu disgyblion yn effeithiol ar draws y cyfnod pontio. Mae’n ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi lles dysgwyr yn y cyfnod pontio pwysig hwn. 

Mae wedi’i seilio ar ymgysylltu â sampl o 23 ysgol gynradd, 13 ysgol uwchradd a 3 ysgol bob oed, a thystiolaeth o’n gwaith arolygu a’n gwaith dilynol er mis Medi 2022. Cymerom dystiolaeth o dri gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol a thri awdurdod lleol, hefyd. 

Mae ein canfyddiadau’n dangos bod penaethiaid neu uwch arweinwyr o’r rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod Cwricwlwm i Gymru a sut i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Bron ym mhob achos, canolbwyntiodd arweinwyr yn dda ar sicrhau bod trefniadau ymsefydlu buddiol i gefnogi lles disgyblion, a rhoi strategaethau ar waith i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, ac am amrywiaeth o resymau, nid yw gwaith pontio yn ddigon effeithiol i gefnogi datblygiad continwwm dysgu ar gyfer pob disgybl sy’n sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd systematig a pharhaus yn eu gwybodaeth, eu medrau, eu dealltwriaeth a’u hymddygiadau dysgu o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.  

Mewn lleiafrif o achosion, mae clystyrau wedi sefydlu grwpiau o athrawon i ystyried enghreifftiau o ddysgu disgyblion, i’w helpu i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o gynnydd ar draws eu hysgolion. Fodd bynnag, megis dechrau y mae’r arferion hyn, ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes dealltwriaeth gref o hyd o sut beth yw cynnydd yn y rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion. O ganlyniad, nid yw’r arferion hyn wedi gwella pa mor dda y mae dysgu’n datblygu o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn ddigon cryf.  

Yn ystod ein hymweliadau, soniodd arweinwyr am ystod o faterion a oedd yn gwneud gwaith clwstwr ar ddatblygu cynnydd y cwricwlwm yn anodd, yn cynnwys cydlynu gwaith amryfal ysgolion cynradd gydag un ysgol uwchradd, gwahanol ddehongliadau o’r cwricwlwm o fewn yr un clwstwr o ysgolion, neu gael yr amser a’r adnoddau i ryddhau staff i weithio gyda’i gilydd. Fe wnaethant nodi bod natur eang y disgrifiadau o ddysgu yn rhywbeth roedd y staff yn eu hysgolion yn ymgodymu â nhw o hyd. Yn aml, roedd arweinwyr ysgolion uwchradd yn nodi bod newidiadau i gymwysterau TGAU yn ychwanegu at anhawster gwneud penderfyniadau am eu cwricwlwm, ond mewn ysgolion mwy effeithiol, roeddent hefyd yn cydnabod bod gwella addysgu yn hanfodol i sicrhau bod disgyblion yn ennill cymwysterau da.     

Mewn ychydig o achosion, mae clystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi gweithio gyda’i gilydd yn gadarnhaol i amlinellu gwybodaeth, medrau a phrofiadau ar draws yr holl feysydd dysgu a phrofiad (MDPh)1 ac wedi defnyddio hyn i ddechrau datblygu dealltwriaeth ar y cyd o gynnydd. Fodd bynnag, hyd yn oed pan mae hyn ar waith, nid yw ysgolion uwchradd bob amser yn ei ddefnyddio i ystyried dysgu blaenorol disgyblion yn ddigon da. O ganlyniad, nid oedd dysgu ym Mlwyddyn 7 a thu hwnt bob amser yn cefnogi datblygiad parhaus a graddol disgyblion. 

Mewn ysgolion pob oed, er gwaethaf potensial yr ymagwedd bob oed at ddysgu, nid oedd cydlynu’r cwricwlwm a chynllunio ar gyfer cynnydd yn gryf bob amser. Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn gweithio’n bwrpasol i ddatblygu un continwwm dysgu graddol rhwng 3 ac 16 oed, ac roeddent yn dechrau defnyddio hyn i sicrhau eu bod yn cefnogi cynnydd disgyblion. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o leoliadau pob oed wedi gwneud cynnydd cyfyngedig ar ddatblygu ymagwedd gydlynus at y cwricwlwm ac yn ystyried dysgu mewn sectorau cynradd ac uwchradd ar wahân o hyd. 

Mae llawer o ysgolion wedi darparu ystod o ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon i gefnogi cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion yn unig yr oedd clystyrau o ysgolion wedi rhannu ymagweddau at addysgu neu wedi ystyried sut gallent sicrhau bod strategaethau addysgu yn cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd effeithiol a pharhaus o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Roedd llawer ohonynt yn ymgorffori strategaethau i gynorthwyo disgyblion i fod yn ddysgwyr mwy effeithiol ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau i fonitro, rheoli ac asesu dysgu. Fodd bynnag, dim ond mewn ychydig o achosion yr oedd ysgolion wedi ystyried sut gallent sicrhau bod disgyblion yn parhau i ddatblygu’r medrau a’r tueddiadau hyn yn effeithiol pan fyddant yn symud i’r ysgol uwchradd.  

Bron ym mhob achos, roedd ysgolion cynradd yn trosglwyddo ystod eang ac amrywiol o wybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion i ysgolion uwchradd cyn eu cyfnod pontio. Roedd lleiafrif o glystyrau yn dechrau ystyried sut i rannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion, yn unol â Chwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, bron ym mhob achos, prin oedd yr eglurder ynglŷn â beth oedd disgwyliadau o ran dysgu a chynnydd, hyd yn oed o fewn yr un clwstwr. O ganlyniad, ni wnaeth y prosesau hyn rhyw lawer i gefnogi parhad yn nysgu’r disgyblion. Bron ym mhob achos, roedd ysgolion cynradd yn rhannu deilliannau asesiadau personol Llywodraeth Cymru gydag ysgolion uwchradd. Fodd bynnag, roedd bron pob ysgol yn canolbwyntio ar rannu’r sgôr safonedig yn unig. Nid oeddent yn rhoi ystyriaeth ddigon da i’r ystod eang o wybodaeth am ddysgu disgyblion sydd ar gael o’r asesiad na sut y gellir defnyddio hyn i gefnogi addysgu a dysgu ymhellach.  

Bron ym mhob achos, roedd ysgolion yn cefnogi cyfnod ymsefydlu2 disgyblion i’r ysgol uwchradd yn dda. Yn aml, roeddent yn trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng arweinwyr neu athrawon o ysgolion cynradd a staff o ysgolion uwchradd a oedd yn galluogi rhannu gwybodaeth yn fuddiol. Roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio gyda’i gilydd yn gydwybodol i gefnogi cyfnod pontio disgyblion ag ADY. Yn aml, roedd staff sydd â chyfrifoldeb am ddisgyblion ag ADY yn dechrau gweithio gyda’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo pan roedd disgyblion ym Mlwyddyn 6 neu ym Mlwyddyn 5. Helpodd y prosesau hyn ysgolion uwchradd i ddeall a darparu ar gyfer anghenion y disgyblion hyn yn gefnogol.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd clystyrau o ysgolion yn cefnogi llawer o agweddau ar les disgyblion yn effeithiol wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mewn llawer o achosion, ymwelodd staff o ysgolion uwchradd â’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo i siarad â disgyblion ar ddechrau Blwyddyn 6, ac mewn ychydig iawn o achosion pan maent ym Mlwyddyn 5. Bron ym mhob achos, roedd clystyrau o ysgolion yn nodi disgyblion y gallai’r cyfnod pontio fod yn anos iddynt na’u cyfoedion, ac yn rhoi ystod ddefnyddiol o weithgareddau ac ymweliadau cefnogol ar waith a oedd yn helpu’r disgyblion hyn i bontio i’r ysgol uwchradd. Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a rhoi strategaethau ar waith yn seiliedig ar anghenion disgyblion unigol.  

Roedd llawer o arweinwyr yn ymwybodol o’r arweiniad diweddaraf ar gynllunio pontio a’i ofynion, ac yn defnyddio hyn i gynllunio cyfnod ymsefydlu disgyblion i’r ysgol uwchradd yn briodol. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, roedd diffyg eglurder mewn cynlluniau pontio ar sut byddai ysgolion yn cefnogi parhad yn nysgu disgyblion, a sut byddent yn cyflawni hyn trwy ddylunio a chynllunio’r cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu.  

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn Hydref 2023, fe wnaethom ymweld ag ugain o ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal ag unedau trochi i werthuso medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm ym Mlwyddyn 6 a Blynyddoedd 7-9, gan edrych ar yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud i ddatblygu’r medrau hyn. Dewiswyd ysgolion yn seiliedig ar eu maint, math, lleoliad daearyddol a’u cyd-destun economaidd-gymdeithasol i ddarparu trawstoriad o ysgolion yng Nghymru. Ym mhob ysgol yr ymwelwyd â hi, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag uwch arweinwyr, cydlynwyr llythrennedd, athrawon a disgyblion. Arsylwom sesiynau lle roedd medrau darllen yn cael eu datblygu neu’u hatgyfnerthu. Edrychom ar waith disgyblion ac unrhyw ddogfennau oedd gan yr ysgol ar ddatblygu medrau darllen ac ar drefniadau pontio. Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg disgyblion yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mehefin 2023 a dosbarthwyd holiadur i’r ysgolion hynny o fewn y sampl ac fe ymatebodd dros ddwy fil o ddisgyblion. Gwnaethom hefyd dynnu ar dystiolaeth o arolygiadau cynradd, uwchradd a phob oed o ysgolion y tu allan i’r sampl yn ystod 2023-24.

Mae ein hadroddiad ar fedrau darllen Cymraeg yn amlinellu nifer o gryfderau a’r meysydd sydd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwelliannau. Yn ychwanegol i’r enghreifftiau o arfer dda yn yr ysgolion, rydym wedi cynnwys canllawiau penodol er mwyn helpu ysgolion i gryfhau eu harferion wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion. Mae’r bennod gyntaf, ‘Safonau ac agweddau disgyblion’ yn canolbwyntio ar ddatblygiad medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm ac agweddau disgyblion tuag at ddarllen. Mae gan yr ail bennod ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf, ‘Profiadau addysgu a dysgu’ yn ystyried yr arlwy sy’n cael ei gynnig gan ysgolion i gryfhau medrau darllen disgyblion tra bod ‘Arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer gwella’ yn nodi sut mae arweinwyr yn blaenoriaethu darllen yn eu hysgolion. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn edrych ar ddarpariaeth o fewn yr unedau trochi. Mae’r drydedd bennod, ‘Hybu diwylliant o ddarllen’ yn disgrifio’r modd y mae ysgolion effeithiol yn creu diwylliant darllen yn llwyddiannus ac yn ennyn diddordeb disgyblion yn llawn. Mae Atodiad 1 yn rhestru’r ymatebion i’r holiadur disgyblion a ddosbarthwyd i’r ysgolion hynny o fewn y sampl ac ymatebodd dros ddwy fil o ddisgyblion.

Nid yw’n syndod bod effaith negyddol y pandemig yn parhau yn glir ar safonau darllen Cymraeg disgyblion yn gyffredinol, gyda’r lleiafrif wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn y Gymraeg. Mae bron pob disgybl yn y sampl ac a wnaeth ymateb i’n holiaduron yn deall pwysigrwydd darllen i gefnogi eu dysgu a’u cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, i fwyafrif y disgyblion, mae eu mwynhad o ddarllen yn gostwng o 10 i 14 oed.

Mae llawer o bobl ifanc 10 i 14 oed yn defnyddio medrau darllen sylfaenol, fel anodi, lleoli a llithr ddarllen gwybodaeth yn llwyddiannus i ganfod prif negeseuon a gwybodaeth allweddol. At ei gilydd, mae cyfran uwch o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu medrau darllen uwch nag ym Mlynyddoedd 7-9. Mae hyn yn rhannol oherwydd yr heriau o gydlynu datblygiadau medrau darllen yn gyson ar draws yr ystod o bynciau ac athrawon yn y cyfnod uwchradd. Dengys ein canfyddiadau bod y cyfleoedd mwyaf buddiol i ddatblygu medrau darllen i’w gweld mewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac o fewn pynciau’r dyniaethau. Fodd bynnag, nid yw uwch-fedrau darllen mwyafrif y disgyblion ym Mlynyddoedd 7-9 yn datblygu cystal oherwydd diffyg cyfleoedd pwrpasol i ddatblygu’u medrau darllen ar draws y cwricwlwm.

Roedd llawer o’r cryfderau a’r diffygion a ganfuom yn y thematig darllen Saesneg hefyd yn amlwg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Er bod arweinwyr ym mron pob ysgol yr ymwelwyd â nhw yn cydnabod pwysigrwydd blaenoriaethu datblygiad medrau darllen disgyblion, yn aml nid oedd hyn yn arwain at ddarpariaeth effeithiol ar draws y cwricwlwm, yn enwedig yn y sector uwchradd. Megis dechrau mae’r gwaith o gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn y mwyafrif o ysgolion uwchradd. Nid oedd arweinwyr yn y lleiafrif o ysgolion cynradd a’r mwyafrif o ysgolion uwchradd a phob oed yn defnyddio ystod digon eang o dystiolaeth i adnabod yr union agweddau sydd angen eu gwella a chynllunio camau gweithredu perthnasol. Roeddent yn or-ddibynnol ar ddata yn unig, yn hytrach na’i gyfuno â thystiolaeth uniongyrchol o gynnydd disgyblion o wersi a llyfrau. Lleiafrif yn unig o arweinwyr oedd yn monitro ac yn gwerthuso effaith strategaethau darllen ar draws yr ysgol yn ddigon cadarn. Prin yw’r cynlluniau neu lwyfannau darllen sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o gymharu â’r Saesneg i helpu ysgolion i fonitro cynnydd darllen disgyblion.

Mae ein canfyddiadau’n dangos mai ychydig iawn o glystyrau o ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cyd-gynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Mae hyn hefyd yn wir mewn llawer o ysgolion pob oed, sy’n dysgu disgyblion o’r cyfnodau cynradd ac uwchradd. Rhwystr i’r cynllunio hwn yw maint y clwstwr a’r ffaith bod nifer o ysgolion cynradd o fewn dalgylch mwy nag un ysgol uwchradd neu, ar adegau, yn draws-sirol.

Mae’r unedau trochi a’r canolfannau iaith wnaethom ymweld â nhw yn gwneud gwaith effeithiol yn datblygu medrau Cymraeg disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr. Defnyddiodd athrawon derminoleg a geirfa pwnc yn gywir ac yn gyson a oedd yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu fel siaradwyr rhugl. Gwna’r disgyblion yma gynnydd cyflym a llwyddiannus yn eu medrau darllen Cymraeg.

Mae llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo darllen er pleser yn llwyddiannus. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gwelwyd bod y profiadau i hybu darllen sy’n digwydd tu hwnt i’r stafell ddosbarth wedi lleihau yn sylweddol ers cyfnod y pandemig, yn enwedig yn y sector uwchradd.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar risgiau ymddieithrio ar gyfer pobl ifanc yn manteisio ar gymorth gan weithwyr arweiniol yn ystod y cyfnod pontio i addysg ôl-16, hyfforddiant a chyflogaeth.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol, a’r holl bartneriaid eraill sy’n ymwneud â chynorthwyo pobl ifanc trwy weithwyr arweiniol:  

  • Wella cymorth pontio ôl-16 trwy sicrhau parhad yng ngweithiwr arweiniol person ifanc tan 31 Ionawr ar ôl symud person ifanc i’w gyrchfan ôl-16, p’un a yw hyn yn yr ysgol, yn y coleg, gyda darparwr hyfforddiant, neu gyflogaeth 
  • Datblygu ffyrdd o fesur llwyddiant gwaith i atal pobl ifanc rhag bod yn bobl NACH, sydd wedi’u seilio ar werthusiadau tymor hirach ac nad ydynt yn gor-bwysleisio gwerth data arolwg cyrchfan gychwynnol    
  • Cefnogi rhannu data yn well am amgylchiadau pobl ifanc unigol i hwyluso cydweithio cryfach rhwng yr holl bartneriaid, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant, a galluogi pobl ifanc i gael cymorth perthnasol ac amserol  
  • Cefnogi anghenion dysgu proffesiynol gweithwyr arweiniol ym mhob asiantaeth a rhannu arfer effeithiol wrth ddarparu cymorth gweithwyr arweiniol  
  • Gwella arfer yn unol ag arfer effeithiol a geir yn yr adroddiad hwn, a mynd i’r afael â’r diffygion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn  

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion: 

  • Ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd cynhwysfawr ac amserol i’r holl ddisgyblion a’u rhieni neu’u gofalwyr am holl opsiynau’r cwricwlwm 14-16, gan gynnwys prentisiaethau iau lle mae’r rhain ar gael. 
  • Cydweithio â cholegau ac awdurdodau lleol i werthuso cyfleoedd ar gyfer datblygu neu ymestyn rhaglenni prentisiaethau iau er mwyn ehangu eu harlwy cwricwlwm er budd pennaf y dysgwyr.

Dylai colegau addysg bellach:

  • Weithio’n agos gydag ysgolion i wneud yn siŵr fod cyfrifoldebau am drefniadau diogelu yn glir a bod asesiadau risg unigol yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau.
  • Rhannu a chytuno ar drefniadau amserlen gydag ysgolion partner ac awdurdodau lleol ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar ddysgwyr unigol, fel trefniadau cynllun bugeiliol.

Dylai awdurdodau lleol: 

  • Egluro a chyfleu trefniadau cyllid yn y dyfodol ar gyfer prentisiaethau iau gydag ysgolion a cholegau. 
  • Cydweithio â’u holl ysgolion a cholegau lleol i werthuso’r potensial ar gyfer cyflwyno neu ymestyn darpariaeth prentisiaethau iau i ymestyn cyfleoedd dysgu addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy’n cael trafferth ymgysylltu â darpariaeth brif ffrwd bresennol mewn ysgolion.

Dylai Llywodraeth Cymru: 

  • Yn sgil sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), egluro a chyhoeddi manylion am gyfrifoldeb parhaus a threfniadau parhaus ar gyfer prentisiaethau iau a’u cyllid. 
  • Adolygu gofynion penodol y cwricwlwm ar gyfer rhaglenni prentisiaethau iau fel yr amlinellir yng nghyfeiriadur rhaglenni Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cymwysterau Saesneg, mathemateg a rhifedd, i sicrhau bod nodau cymhwyster yn gweddu i anghenion a galluoedd dysgwyr unigol, ac yn adlewyrchu’r cymwysterau 14-16 cenedlaethol newydd sydd ar waith o fis Medi 2027.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • Gryfhau cynllunio i wella presenoldeb yn strategol, gan gynnwys gwneud defnydd effeithiol o ddata i nodi tueddiadau ac mewn cynllunio ymagweddau tymor hir at wella presenoldeb disgyblion
  • Cryfhau eu hymagwedd at fonitro, gwerthuso a gwella presenoldeb
  • Cryfhau eu gwaith gyda rhieni / gofalwyr i esbonio pam mae presenoldeb da yn bwysig
  • Datblygu dulliau mwy effeithiol i gasglu barn disgyblion nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
  • Sicrhau bod addysgu ac arlwy’r cwricwlwm yn ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu

Dylai awdurdodau lleol:

  • Roi her a chymorth rheolaidd ac effeithiol i ysgolion i wella presenoldeb disgyblion a helpu gwerthuso effaith eu gwaith
  • Sicrhau bod ymyriadau awdurdodau lleol yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes gan ysgolion
  • Gweithio gydag ysgolion i’w cynorthwyo i weithio gyda rhieni / gofalwyr i ddeall pwysigrwydd presenoldeb da

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Ddatblygu ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da gyda rhieni / gofalwyr a disgyblion
  • Ystyried sut gallai disgyblion sy’n byw o fewn y radiws tair milltir nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim gael eu cynorthwyo’n well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd
  • Cyhoeddi setiau data craidd ar gyfer presenoldeb ddwywaith y flwyddyn, gan gynnwys dadansoddiad atchweliad, gweddillebau ar gyfer absenoldebau parhaus
  • a phresenoldeb grwpiau blwyddyn i gefnogi prosesau gwerthuso’r ysgolion eu hunain yn well
  • Parhau i ddarparu dadansoddiad wythnosol o bresenoldeb ar lefel ysgol i ddarparu gwybodaeth fwy mynych a gwella ansawdd y data hwn
  • Ystyried sut y gellir dyrannu cyllid yn fwy effeithiol i gynorthwyo ysgolion i wella presenoldeb
  • Ystyried sut gallai diwygio’r flwyddyn ysgol gynorthwyo disgyblion yn well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd
  • Ymchwilio i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar bresenoldeb gwael a darganfod y dulliau mwyaf effeithiol o wella presenoldeb

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1    Gydweithio â Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i adolygu’r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau
  • A2   Adnewyddu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac adnoddau
  • A3    Trwy gydweithio â phartneriaid, datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth ymarferwyr o’r addysgeg a’r gallu i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith:

  • A4    Ddatblygu ymagweddau gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau:
    • y caiff dysgwyr gyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg 
    • y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a’u cefnogi’n  briodol
  • A5    Sicrhau bod dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy ddirprwy yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
  • A6    Cynnig dysgu proffesiynol sy’n datblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr arweiniol:

  • A7    Sicrhau bod hunanwerthuso’n myfyrio ar effeithiolrwydd y modelau cyflwyno sy’n cael eu defnyddio ar draws partneriaid ac isgontractwyr y darparwr ac yn cymryd camau i leihau’r anfanteision posibl a nodir yn yr adroddiad hwn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion 

Dylai ysgolion:

A1      Wella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i rieni, er enghraifft, a datgan yn glir beth mae’r ysgol yn ei hystyried yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol

A2      Sicrhau bod gan Gydlynwyr ADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau

A3      Sicrhau bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn cynnwys ffocws digonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY

Dylai awdurdodau lleol:

A4      Sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg

A5      Darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn enwedig o ran:

  • beth mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn ei olygu yn ei ysgolion
  • y CDUau hynny a fydd yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a’r rhai a fydd yn cael eu cynnal gan ysgolion

A6      Parhau i sicrhau ansawdd ac adolygu arfer a darpariaeth ddysgu ychwanegol i sicrhau bod cyllid a dysgu proffesiynol yn cefnogi cyflwyno’n effeithiol ar gyfer:

  • arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • cynlluniau datblygu unigol
  • gwasanaethau, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg

A7      Datblygu a chyhoeddi eu strategaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag ADY

Dylai Llywodraeth Cymru:

A8      Sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Cod ADY, a darparu enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo dealltwriaeth

A9      Gwerthuso effaith cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i awdurdodau lleol yn llawn

A10    Sicrhau bod arweiniad a chyllid yn y dyfodol yn cael ei ddarparu mewn modd amserol i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio’n ddigonol