sefydlu safonau cymhwyster cenedlaethol ar gyfer addysgu, cyflwyno a chefnogi ASO a SSIE yng Nghymru sy’n diffinio’r rolau amrywiol a’r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer pob un;
sicrhau bod y llwybrau i gymwysterau yn glir a diamwys ar gyfer yr holl staff sy’n addysgu, yn cyflwyno, yn cefnogi neu’n asesu ASO a SSIE; a
sefydlu system drylwyr ar gyfer achredu dysgu blaenorol (ADB) sy’n cydnabod cymwysterau a phrofiad presennol.
Dylai darparwyr:
nodi a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyflwyno hyfforddiant ar y cyd mewn partneriaeth â darparwyr eraill i sicrhau bod ystod ehangach i bob ymarferwr ddatblygu ei fedrau; a
pharhau i gynnig cyfleoedd perthnasol a phenodol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr ASO a SSIE.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
ofyn i Estyn gynnal adolygiad pellach ar ansawdd yr adeiladau newydd mewn colegau a’i effaith ar ddysgwyr o fewn y tair blynedd nesaf.
Dylai colegau addysg bellach:
wneud yn siŵr bod effaith unrhyw waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn cael ei adrodd yn flynyddol ym mhrosesau hunanasesu’r colegau;
parhau i sicrhau bod y strategaethau ystadau yn gyfoes a’u bod yn cynnwys cynllun treigl ar gyfer gwelliant parhaus yr ystâd; ac
ymestyn y cydweithio gyda rhwydweithiau ardal lleol i sicrhau bod ceisiadau am waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn adlewyrchu anghenion y coleg a’i randdeiliaid.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
egluro’r trefniadau ariannu ar gyfer darpariaeth medrau sylfaenol i droseddwyr sy’n bwrw eu tymor yn y gymuned ar ôl Ebrill 2009; a
gwella ansawdd y dysgu a’r medrau ar gyfer troseddwyr mewn carchardai a mannau prawf ymhellach.
Dylai darparwyr:
sicrhau bod gweithdrefnau asesu effeithiol ar waith ar gyfer anghenion llythrennedd, iaith a rhifedd, wedi’u cysylltu â’r broses gynllunio, ac sy’n cynnwys gwneud diagnosis o ddysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau; a
sicrhau bod gan bob troseddwr gynllun dysgu unigol o ansawdd da, sydd wedi’i gysylltu â’u cynllun dedfryd, sy’n cydlynu’r holl waith a wnaed gan wahanol asiantaethau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
adeiladu ar gynllunio gwaith partneriaeth a chlwstwr i helpu pob dysgwr i gyflawni safonau gwell mewn pynciau craidd ac mewn Cymraeg fel ail iaith;
codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd trwy wneud defnydd gwell o wybodaeth am gyflawniadau disgyblion pan fyddant yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd; ac
arfarnu’r trefniadau pontio yn well trwy holi barn rhieni neu ofalwyr a defnyddio’r canlyniadau i lywio cynlluniau hunanarfarnu a datblygu.
Dylai awdurdodau lleol:
sicrhau bod trefniadau pontio yn codi’r safonau a gyflawnir gan bob disgybl, yn cynnwys y disgyblion mwy abl; a
darparu hyfforddiant gwell ar gyfer athrawon ar wella parhad a dilyniant yn natblygiad disgyblion yn y Gymraeg.
Dylai Llywodraeth Cymru:
barhau i gefnogi clystyrau o ysgolion wrth adolygu eu cynlluniau pontio cychwynnol ac mewn cryfhau meysydd pontio allweddol.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
ddatblygu cofnod unedig o bob dysgwr sydd ag anghenion addysgol arbennig sy’n cynnwys manylion am eu hanghenion arbennig a’r math o ddarpariaeth i fodloni’r anghenion hynny; a
chynyddu cwmpas y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) fel ei fod yn cael gwybodaeth am ddisgyblion mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, y rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) a’r rhai y mae awdurdodau’n ariannu darpariaeth yn y sector annibynnol ar eu cyfer.
Dylai Awdurdodau Addysg Lleol:
weithio’n agos gydag ysgolion i wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth am ddisgyblion unigol ag anghenion addysgol arbennig.
Dylai ysgolion:
wella cywirdeb y wybodaeth am ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a roddir i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru; a
chymryd Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn a’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn fel man cychwyn ar gyfer dadansoddi deilliannau dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig fel rhan o hunanarfarnu.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
rannu eu cwricwlwm a’u harfer addysgu orau yn amlach gydag ysgolion eraill;
ymgynghori mwy â dysgwyr ar beth y maent am ei ddysgu a sut; a
monitro ac arfarnu effaith arloesiadau ar ddeilliannau dysgwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
gefnogi a herio ysgolion nad ydynt yn effeithiol neu’n arloesol wrth gynllunio a chyflwyno eu cwricwlwm;
arwain datblygiad cymunedau dysgu proffesiynol ar gyfer rhannu arfer orau mewn arloesedd rhwng ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i annog mwy o arloesedd;
darparu mwy o arweiniad a chymorth ar gyfer arloesedd yng nghyfnod allweddol 3 ac yn ystod trosglwyddiadau o gyfnod allweddol 2 ac i gyfnod allweddol 4; a
gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod adnoddau gwell ar gael i ysgolion, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
trefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda phawb sy’n cyflogi gweithwyr ieuenctid cymwys, i ymgynghori ar ddyluniad, cynnwys a chyflwyno cyrsiau ieuenctid a chymunedol;
gwneud yn siŵr bod cynllunio’r cwricwlwm yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn cyd-destunau sy’n integreiddio arfer â theori;
gwella eglurder yr arweiniad i wella goruchwylwyr lleoliadau am eu rôl addysgol mewn cyrsiau, fel eu bod yn gwybod yn glir beth yw eu cyfrifoldebau am ddatblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol hyfforddeion; a
gwella argaeledd hyfforddiant i oruchwylwyr lleoliadau gwaith, i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau a’u rolau asesu yn effeithiol.
Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:
wella sicrhau ansawdd lleoliadau gwaith a ddarperir gan eu staff, i sicrhau bod gan bob goruchwyliwr gymwysterau cymwys, a’u bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.