ystyried mabwysiadu dull safonol i’w ddefnyddio ar lefel genedlaethol ar draws pob ysgol er mwyn nodi cost gyfartalog lleoedd dros ben ac ysgolion dros ben;
hyrwyddo gostwng lleoedd dros ben yn dystiolaeth o reoli adnoddau yn well a’r effaith ar wella ysgolion yn hytrach na fel diben ynddo’i hun;
gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu a hyrwyddo arfer dda wrth arfarnu effaith cynlluniau ad-drefnu ysgolion;
gofyn i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith ar gynlluniau ad-drefnu ysgolion lle defnyddir arian Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gweithredu; a
gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r strategaethau trefnu ysgolion a rheoli asedau hynny sy’n cyfrannu yn y modd mwyaf cadarnhaol at ddeilliannau ar gyfer dysgwyr a hyrwyddo eu defnydd ar draws yr holl gonsortia awdurdodau lleol.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia awdurdodau lleol:
sicrhau bod arweinwyr strategol yn blaenoriaethu trefnu ysgolion a rheoli asedau, gan ystyried yr effaith ar effeithiolrwydd ysgolion;
ennyn yr holl aelodau etholedig, swyddogion a phenaethiaid yn yr ymdrech i ryddhau adnoddau er mwyn buddsoddi mewn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr;
monitro ac arfarnu’r holl brosiectau ad-drefnu ysgolion yn ofalus er mwyn nodi adnoddau a ryddhawyd a’u heffaith ar wella deilliannau ar gyfer dysgwyr;
gwella defnydd swyddogion o’r holl ddata sydd ar gael i ysgogi datblygiadau strategol ac arfarnu eu heffaith, gan ddefnyddio her o drefniadau craffu’r awdurdod; a
chydweithio o fewn y consortia i hyrwyddo arfer dda, yn enwedig mewn perthynas â nodi a gweithredu i fynd i’r afael â thanberfformio.
ystyried y ffordd orau o ymestyn yr arfer dda yn y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Dylai awdurdodau lleol:
gymryd camau i raeadru’r arfer dda mewn addysg gorfforol mewn ysgolion arbennig i arweinwyr a rheolwyr, ac athrawon addysg gorfforol mewn ysgolion prif ffrwd; a
sicrhau bod cyfleoedd priodol ar gyfer datblygiad proffesiynol ar gael i helpu pob un o’r staff i fodloni anghenion a chodi safonau cyflawniad ar gyfer pob disgybl ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol.
Dylai ysgolion:
weithio gydag awdurdodau lleol i rannu’r arfer orau;
sicrhau bod pob disgybl ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd yn cael ei integreiddio’n briodol mewn dosbarthiadau addysg gorfforol prif ffrwd; a
gwella ansawdd yr asesu a’r gosod targedau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg gorfforol.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion, rhieni a chymunedau am eu Cynllun Cydraddoldeb Anabledd a’u cynllun gweithredu; a
sicrhau bod adeiladau yn briodol, yn enwedig mewn mannau ymarferol a mannau gweithdy.
Dylai awdurdodau lleol:
sicrhau bod staff mewn UCDau yn deall eu cyfrifoldebau yn llawn ac yn trefnu darpariaeth briodol i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd;
parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod adeiladau yn briodol;
monitro Cynlluniau Cydraddoldeb Anabledd yn fwy rheolaidd a rhoi adborth i ysgolion ac UCDau i sicrhau cysondeb gwell o ran polisi ac arfer.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ddiweddaru eu harweiniad i ysgolion, yng ngoleuni Deddf Cydraddoldeb 2010, i gefnogi ysgolion i barhau i fodloni anghenion pob grŵp o ddisgyblion, yn cynnwys y rhai ag anableddau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Cydweithio er mwyn Cefnogi Gwelliannau: Cytundeb Strategol rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Swyddfa Archwilio Cymru (Mawrth 2011)
weithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i egluro sut y gall darparwyr dysgu yn y gymuned ysgogi gwelliant i wasanaethau;
hyrwyddo astudiaethau hydredol o weithgarwch dysgu wedi’i greu gan y dysgwr i gofnodi deilliannau a hyrwyddo arfer dda; a
chreu panel cenedlaethol i ddysgwyr ar ddatblygu rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned
Dylai rhwydweithiau Dysgu Cymunedol:
ddefnyddio ymgynghori â dysgwyr yn fwy cyson i greu dinasyddion mwy ymgysylltiedig a gwybodus er mwyn hyrwyddo mwy o falchder, uchelgais ac atebolrwydd lleol yn eu cymunedau lleol.
Dylai darparwyr unigol:
wella cysondeb digwyddiadau ymgynghori ar gyfer dysgwyr; a
nodi cysylltiadau â’r rhwydwaith lleol er mwyn cydlynu gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr gyda sefydliadau lleol eraill ac adrannau awdurdodau lleol.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
sicrhau bod holl wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yn defnyddio system gwybodaeth reoli gyson (SGR) neu un set o safonau cytûn y maent i gyd yn adrodd yn eu herbyn.
Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:
ddatblygu systemau gwybodaeth reoli effeithiol i gasglu data ar y nifer sy’n manteisio arnynt, cyrhaeddiad, cyfraddau tynnu’n ôl a chynnydd pobl ifanc mewn addysg ffurfiol ac addysg nad yw’n ffurfiol;
datblygu ymhellach systemau ar gyfer mesur datblygiad personol pobl ifanc; a
gwella’r arfer o gasglu a dadansoddi data a gwybodaeth berthnasol, yn cynnwys y data a’r wybodaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol.
Dylai partneriaethau lleol:
ddadansoddi’r data sydd ar gael sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol er mwyn nodi heriau lleol ac atebion lleol; a
chefnogi cyflwyno defnydd effeithiol o SGR i asiantaethau partner sy’n cyfrannu at wasanaethau cymorth ieuenctid lleol.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.