roi blaenoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd mewn cynlluniau gwella a chynlluniau gwaith;
olrhain a monitro cynnydd pob disgybl, yn enwedig y rhai ar raglenni ymyrraeth a dysgwyr mwy abl, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cynnydd da ar draws pob cyfnod allweddol;
amlinellu cyfleoedd ar gyfer llafaredd, darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig o ran gwella ysgrifennu estynedig disgyblion a chywirdeb eu gwaith ysgrifenedig;
monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd; a
hyfforddi athrawon i gynllunio mwy o gyfleoedd heriol ym mhob pwnc i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch disgyblion.
Dylai awdurdodau lleol:
lunio strategaeth llythrennedd ddatblygedig a mecanweithiau i wella safonau ar draws y cwricwlwm; a
chefnogi ysgolion wrth hyfforddi pob aelod o staff i ddefnyddio strategaethau llythrennedd effeithiol, yn cynnwys rhannu arfer orau rhwng ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
roi arweiniad a chymorth i athrawon i’w helpu i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith a datblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.
ymgynghori ag ysgolion i’w helpu i ddatblygu systemau i olrhain tystiolaeth yn erbyn y fframwaith GBG er mwyn i ddisgyblion ac athrawon allu monitro cynnydd unigolion wrth ddatblygu medrau mewn cynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau;
helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i’w helpu i arfarnu eu heffeithiolrwydd wrth gyflwyno GBG;
dosbarthu data ar gynaliadwyedd cyrchfannau cyntaf dysgwyr er mwyn i ysgolion allu monitro pa mor llwyddiannus fu eu dewisiadau; ac
annog mwy o ysgolion i weithio tuag at ennill dyfarniad Marc Gyrfa Cymru.
Dylai ysgolion:
wella rhan llywodraethwyr yng nghynllunio strategol GBG; a
gwneud defnydd gwell o’r data sydd ar gael i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau mewn GBG.
Dylai Rhwydweithiau Dysgu:
arwain sefydliadau wrth ddatblygu strategaethau i arfarnu’n drylwyr pa mor dda y maent yn paratoi disgyblion ar gyfer adegau pontio allweddol ac ar gyfer byd gwaith; ac
annog casglu a rhannu data priodol i arfarnu sut caiff disgyblion eu paratoi ar gyfer adegau pontio allweddol.
wneud yn siŵr bod gwersi yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion gadw’n gorfforol egnïol ac ymgymryd â gweithgarwch corfforol cynaliadwy; a
cynnig gweithgareddau dysgu a fydd yn galluogi disgyblion o bob gallu i wneud cynnydd, ac yn benodol, cynnig her addas i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3.
Dylai awdurdodau lleol:
wella’r cymorth a’r cyngor ar gyfer ymarferwyr addysg gorfforol a hyrwyddo arfer orau;
defnyddio menter 5×60 i hyrwyddo cysylltiadau mwy effeithiol gyda chlybiau a sefydliadau lleol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a hamdden gorfforol; a
sicrhau cywirdeb a chysondeb gwell wrth farnu lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3.
Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried y ffordd orau o gynnal arfer ac effaith dda AGChY a mentrau 5×60.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
osod safonau clir ar gyfer defnyddio ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol gan UCDau ac ar gyfer cadw cofnodion a sicrhau bod rheolwyr llinell, pwyllgorau rheoli ac aelodau etholedig yn gallu monitro’r rhain yn effeithiol;
gwneud yn siŵr bod adroddiadau am ddigwyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio’r adolygiad o bolisïau’r awdurdod lleol ar gyfer lles a diogelu disgyblion;a
dwyn athrawon sydd â gofal i gyfrif yn effeithiol, trwy ddefnyddio trefniadau adrodd sy’n canolbwyntio ar les disgyblion, ac arfarnu’r strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol.
Dylai unedau cyfeirio disgyblion (UCDau):
adolygu eu polisïau yn rheolaidd, a’u halinio ag arweiniad Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol;
cyflwyno gwybodaeth yn glir i staff yn eu polisïau a’u harweiniad ysgrifenedig; a
cyflwyno hyfforddiant i bob un o’r staff mewn rheoli ymddygiad, ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol sy’n adlewyrchu arfer orau.
fonitro gweithredu’r polisi cyflenwi dysgu cymunedol i wella cydweithio ar drawsyr adrannau, cyfarwyddiaethau a’r canghennau sy’n gyfrifol am bobl hŷn; a
chasglu data ynghylch cyfleoedd dysgu yn y Monitor Pobl Hŷn, fel ei fod yn monitro lles trwy ddysgu yn ogystal â chael gwaith.
Dylai’r Adran Addysgu a Sgiliau:
gydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gronni pob cyllideb sydd â’r nod o gefnogi dysgu gydol oes a lles pobl hŷn;
cytuno ar ddangosyddion perfformiad neu fesurau deilliant i bartneriaethau DOG fonitro eu gwaith gyda phobl hŷn a’u cynorthwyo i fyw’n annibynnol; ac
annog a chynorthwyo partneriaethau DOG i gynorthwyo pobl hŷn i drefnu a rheoli eu dysgu eu hunain.
Dylai partneriaethau DOG:
gynyddu hyblygrwydd mewn dulliau cyflwyno, yn newisiadau’r cwricwlwm, hyd sesiynau a’r dulliau asesu ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 70 oed.
Dylai awdurdodau lleol:
sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn gwella eu defnydd o arbenigedd partneriaethau DOG mewn cyflwyn.