drafod gyda darparwyr i ariannu rhaglenni sy’n gweddu i anghenion y farchnad lafur; a
gwneud y fframwaith cymwysterau ar gyfer y sector adeiladu yng Nghymru yn fwy perthnasol i anghenion diwydiant trwy ddarparu dewis gwell o unedau dewisol yn ogystal ag elfennau craidd y rhaglen, a sicrhau bod y fframwaith yn cynnwys ffocws ar lythrennedd a rhifedd.
Dylai darparwyr addysg a hyfforddiant:
wella ansawdd eu rhwydweithiau a’u perthnasoedd gyda chyflogwyr lleol;
gwella’r gyfradd y mae dysgwyr yn cwblhau ac yn ennill eu cymwysterau a’u fframweithiau arni;
integreiddio llythrennedd a rhifedd yn llawn yn yr holl raglenni a gwneud yn siŵr bod athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr wedi’u paratoi i gefnogi anghenion llythrennedd a rhifedd dysgwyr;
herio dysgwyr i ddatblygu ac ennill medrau ymarferol a gwybodaeth am theori ar lefel uwch;
rhaglennu a threfnu lleoliadau profiad gwaith diwydiannol ar gyfer yr holl ddysgwyr amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach;
defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn fwy effeithiol i baru’r ddarpariaeth â chyfleoedd cyflogaeth leol, gan reoli’r galw gan ddysgwyr trwy ddefnyddio cyngor ac arweiniad effeithiol; a
diweddaru profiad a gwybodaeth ddiwydiannol athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn rheolaidd.
wneud yn siŵr bod disgyblion yn meistroli medrau rhif sylfaenol yn drylwyr mewn gwersi mathemateg a chael strategaethau effeithiol i alw ffeithiau rhif hanfodol i gof yn gyflym ac yn gywir;
cytuno ar ddulliau ysgol gyfan o wneud cyfrifiadau syml;
rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio medrau rhifedd, yn enwedig mewn medrau rhif a rhesymu rhifiadol, mewn pynciau ar draws y cwricwlwm;
gwneud yn siŵr bod gweithgareddau rhifedd yn ymestyn disgyblion yn briodol, gan gynnwys y rhai mwy abl;
asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm a defnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio gweithgareddau rhifedd gwell;
cynllunio gweithgareddau pontio ysgol gynradd/uwchradd i gefnogi cysondeb a dilyniant ym medrau rhifedd disgyblion;
rhoi cyfleoedd i gydlynwyr rhifedd ac adrannau mathemateg weithio gydag athrawon eraill i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion; a
monitro ac arfarnu effaith strategaethau ar gyfer gwella rhifedd.
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
gefnogi ysgolion i helpu staff i wella eu gwybodaeth, eu medrau a’u hyder i ddatblygu rhifedd disgyblion trwy eu pynciau; a
adolygu’r trefniadau i alluogi colegau a darparwyr eraill i gynnig rhaglenni HNC (D) yn eu meysydd arbenigol heb fod angen gwneud trefniadau rhyddfraint gyda’r sector prifysgolion; ac
ystyried cynnwys y mentrau a’r prosiectau peirianneg amrywiol ledled Cymru o fewn strategaeth genedlaethol gyffredinol ar addysg a hyfforddiant peirianneg i Gymru, y gall y diwydiant peirianneg a’r holl randdeiliaid eraill ei chefnogi.
Dylai colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith:
wella’r gyfradd y mae dysgwyr yn cwblhau ac yn ennill eu cymwysterau arni;
monitro cyrchfannau’r holl ddysgwyr yn agosach pan fyddant yn gadael eu rhaglenni;
gwella trefniadau partneriaeth gydag ysgolion fel y gall yr holl ddisgyblion:
fanteisio ar well gwybodaeth am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a gyrfa mewn peirianneg; a
deall bod angen medrau rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth ffisegol ar ddisgyblion ar lefel briodol i lwyddo mewn peirianneg;
parhau i ddatblygu’r cwricwlwm i sicrhau bod pob dysgwr, yn cynnwys menywod, sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn seiliedig ar beirianneg, yn gallu dechrau ar raglenni ar lefel sydd fwyaf priodol iddynt;
datblygu strategaethau i alluogi ymateb cyflymach a mwy priodol i anghenion diwydiant ar gyfer hyfforddiant pwrpasol ac ymgynghoriaeth wedi’i harwain gan gyflogwyr; ac
annog mwy o ddysgwyr i ddefnyddio eu medrau peirianneg i gymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol a gwella cynrychiolaeth Cymru yn nhîm y DU ar gyfer y Gemau Olympaidd Sgiliau.
ystyried adolygu strwythur Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, i adeiladu ar ei gryfderau a dileu ei wendidau;
gweithio gydag ysgolion a CBAC i gynllunio sut i gyflwyno graddio i asesu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru; ac
adolygu’r trefniadau ar gyfer asesu cymwysterau medrau hanfodol.
Dylai cyrff dyfarnu:
ddarparu arweiniad a deunyddiau enghreifftiol pellach i gefnogi ysgolion wrth gyflwyno ac asesu medrau hanfodol; a
datblygu gwefan Bagloriaeth Cymru i gynnwys ystod ehangach o adnoddau cymeradwy, gan gynnwys adnoddau cyfrwng Cymraeg.
Dylai ysgolion uwchradd:
monitro’n agosach y trefniadau ar gyfer cyflwyno ac asesu medrau hanfodol fel nad ydynt yn or-fiwrocrataidd;
monitro ansawdd dysgu ac addysgu ym Magloriaeth Cymru fel rhan o’u gweithdrefnau hunanarfarnu arferol, gyda ffocws penodol ar gynnydd a safonau myfyrwyr; a
chasglu a defnyddio arfarniadau myfyrwyr o’u profiadau o Fagloriaeth Cymru i wella’r ddarpariaeth.
ddiwygio gweithrediad y rhaglen grantiau i gymell dilyniant dysgwyr o sesiynau rhagflas i gyrsiau ymgysylltu byr ac i raglenni achrededig hwy wedyn;
amodi isafswm nifer o oriau ar gyfer sesiynau rhagflas a rhaglenni ymgysylltu byr;
gofyn i ddarparwyr osod targedau dilyniant, casglu data a mesur deilliannau;
cyfyngu ar nifer yr adegau y gall dysgwr fynychu sesiynau rhagflas a chyrsiau ymgysylltu byr er mwyn annog dilyniant;
diwygio canllawiau’r grant a ffurflenni hawlio i fynnu bod darparwyr dysgu teuluol yn dychwelyd digon o ddata i Lywodraeth Cymru a fydd yn ei galluogi i feincnodi deilliannau; a
diwygio’r canllawiau ar gyfranogwyr sy’n oedolion i alluogi’r rhai y mae eu medrau ar lefel 1 i ymuno â’r rhaglen, lle mae’r ysgol wedi nodi y byddai eu plant yn elwa ar gymorth rhieni.
Dylai awdurdodau lleol:
weithio gyda phartneriaid eraill i osod targedau recriwtio sy’n canolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn angen;
dadansoddi data recriwtio er mwyn gosod targedau recriwtio heriol ar gyfer y dyfodol;
casglu data ar y gyfradd sy’n manteisio ymhlith y plant hynny y nodwyd eu bod yn gymwys;
monitro cynnydd plant a nodwyd ar gyfer y rhaglenni teuluol ond nad ydynt wedi cymryd rhan, yn ogystal â’r rhai sydd wedi’u cwblhau;
sicrhau bod cynllunio strategol ar y cyd yn gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau, yn cynnwys lleoliadau;
cynnwys rhaglenni teuluol mewn cynlluniau PPPhI; a
sicrhau ansawdd rhaglenni teuluol ar lefel strategol.
Dylai darparwyr:
gasglu data dysgwyr yn ôl rhywedd a datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r diffyg yn nifer y dynion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni teuluol;
asesu anghenion dysgwyr yn ffurfiol wrth iddynt ddechrau ar bob cwrs;
olrhain cyrhaeddiad a dilyniant dysgwyr sy’n oedolion ar gyrsiau a defnyddio’r data hwn i gynllunio ar lefel strategol; a
gosod targedau ar gyfer dilyniant dysgwyr o gyrsiau byr rhagflas/ymgysylltu i raglenni hir.
adolygu gofynion adroddiad hunanasesu blynyddol y darparwr er mwyn dal deilliannau strategaethau cynnwys y dysgwr yn llawnach;
adolygu prosiect cynrychiolaeth myfyrwyr addysg bellach Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i asesu ei effaith ar ddysgwyr;
monitro gweithredu strategaethau cynnwys y dysgwr ar lefel y darparwr;
gweithredu prosiectau cynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sector ôl-16 oed i hyfforddi dysgwyr i weithredu fel eiriolwyr/cynrychiolwyr dysgwyr a sicrhau ymglymiad corff ehangach o ddysgwyr; a
sefydlu fforymau dysgwyr sector ar lefel genedlaethol er mwyn galluogi dysgwyr i lywio natur a chwmpas eu dysgu.
Dylai darparwyr mewn sectorau ôl-16 oed:
sefydlu systemau ar gyfer cofnodi ystod y deilliannau sy’n cael eu cyflawni gan ddysgwyr, gan gynnwys y manteision personol a chymdeithasol, o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr;
gwella’r systemau ar gyfer monitro dysgwyr er mwyn nodi effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr ar ddysgwyr unigol; a
chefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn rhwydweithiau cynnwys y dysgwr ar lefel leol a chenedlaethol.