A1 Gynllunio’n strategol a marchnata Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf er mwyn cynyddu niferoedd y dysgwyr sy’n dewis y pwnc
A2 Datblygu dulliau effeithiol o gyflwyno’r testunau gosod a synoptig i ddysgwyr mewn dulliau cyfoes a gwreiddiol
A3 Cynllunio’n fwriadus i gynyddu awydd, dygnwch a hyder dysgwyr ysgolion uwchradd i ddefnyddio’r Gymraeg a chydweithio gyda phartneriaid allanol i hyrwyddo hyn
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A4 Gynnal rhwydweithiau er mwyn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a rhannu’r arferion gorau o ran addysgu Safon Uwch Iaith Gyntaf Cymraeg
A5 Olrhain fesul ysgol y cyfrannau o ddysgwyr cyfnod allweddol 4 a 5 sy’n dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg a gosod targedau i gynyddu hyn yn ôl amcanion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Dylai Llywodraeth Cymru:
A6 Ddarparu adnodd marchnata cenedlaethol i hyrwyddo Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf a medrau cyflogadwyedd y pwnc
A7 Cydweithio gyda Cymwysterau Cymru i sicrhau bod cymwysterau TGAU Cymraeg newydd i gefnogi’r cwricwlwm arfaethedig yn cynnig testunau mwy cyfredol a pherthnasol i ddysgwyr
A1 Ddarparu cymorth targedig a chymorth ysgol gyfan i ddisgyblion agored i niwed, mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill, ar sail dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar blant
A2 Blaenoriaethu meithrin perthynas ymddiriedus a chadarnhaol gyda theuluoedd, sy’n eu hannog i rannu gwybodaeth bwysig gyda’r ysgol
A3 Sicrhau bod mannau tawel, anogol a chefnogol ar gael yn briodol i bob disgybl agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn arbennig i ddisgyblion uwchradd hŷn
A4 Rhoi hyfforddiant a chymorth i holl staff ysgolion uwchradd, nid dim ond staff sy’n gwneud gwaith bugeiliol, i ddeall eu rôl fel oedolion ymddiriedus posibl i ddisgyblion agored i niwed
A5 Sefydlu mecanweithiau i rannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn gyfrinachol ac yn sensitif, gyda staff perthnasol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A6 Rannu gwybodaeth berthnasol am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn brydlon gydag ysgolion
A7 Cynorthwyo ysgolion i ddatblygu strategaethau sy’n ystyriol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod er mwyn cefnogi disgyblion agored i niwed
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Hyrwyddo Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru ac annog rhannu gwybodaeth am ddisgyblion a theuluoedd agored i niwed yn amserol gydag ysgolion
A1 Gynnwys risgiau i ddisgyblion o ideolegau radical ac eithafol ym mholisïau’r ysgol, yn enwedig polisïau sy’n cwmpasu TGCh a diogelwch ar-lein
A2 Cofnodi ac adrodd am bob achos o iaith hiliol a bwlio hiliol yn briodol, a chynnig cymorth a her addas i ddioddefwyr a chyflawnwyr
A3 Cydnabod bod radicaleiddio ac eithafiaeth yn risgiau gwirioneddol i ddisgyblion ym mhob ysgol, a sicrhau bod hyfforddiant staff, polisïau a’r cwricwlwm yn mynd i’r afael â’r risgiau hyn yn briodol
A4 Sicrhau bod gan yr holl ddisgyblion lais a’u bod yn gallu rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda’r ysgol am ymddygiadau neu fynegiannau o syniadau radical neu eithafol
Dylai awdurdodau lleol:
A5 Fonitro gweithgarwch diogelu ysgolion yn ymwneud â dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 gan ddefnyddio meini prawf ym mhecynnau offer hunanasesu’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru
A6 Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau gweithredu ôl-gyfeirio er mwyn rhoi’r cymorth gorau i ddisgyblion sy’n destun cymorth Sianel
A7 Gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm i gynorthwyo disgyblion i feithrin gwydnwch pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol
A8 Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ceisiadau am gyngor cyn cyfeiriadau yn cael eu cofnodi er mwyn darparu gwybodaeth am y materion sy’n wynebu ysgolion
A9 Gwella’r arfer o olrhain nifer yr arweinwyr ysgol, y llywodraethwyr a’r athrawon sy’n elwa ar hyfforddiant, a sicrhau bod yr hyfforddiant yn cael ei raeadru’n effeithiol
Dylai Llywodraeth Cymru:
A10 Gweithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion i feithrin gwydnwch disgyblion pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol
A1 Wella ansawdd targedau yn CAUau disgyblion er mwyn hyrwyddo cynnydd disgyblion mewn dysgu ac annibyniaeth
A2 Sicrhau bod trefniadau hunanwerthuso yn rhoi mwy o sylw i’r cynnydd a wna disgyblion ag AAA o ran eu hanghenion, eu galluoedd a’u mannau cychwyn unigol
Dylai awdurdodau lleol:
A3 Gynorthwyo ysgolion i gael y gwasanaethau arbenigol allanol y mae eu hangen arnynt i hyrwyddo lles a chynnydd disgyblion ag AAA
A4 Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion eraill a gynhelir yn yr awdurdod lleol
Dylai Llywodraeth Cymru:
A5 Gynorthwyo ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod cyfnod gweithredu’r trefniadau statudol newydd er mwyn cefnogi disgyblion ag ADY
Ystyried yn ofalus thema drawsbynciol gyrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, a sut gall dysgwyr ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, pan fyddant yn cynllunio eu cwricwlwm newydd
Ystyried sut gallant wella dealltwriaeth dysgwyr o’r gweithle trwy ddarparu ystod ehangach o brofiadau go iawn mewn partneriaeth â chyflogwyr
Gwerthuso effaith partneriaethau â chyflogwyr a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith ar ddealltwriaeth dysgwyr o’r byd Gwaith
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
Sicrhau bod cynllunio’r cwricwlwm lleol yn rhoi ystyriaeth dda i yrfaoedd a phrofiadau yn gysylltiedig â gwaith, ac yn cynnwys cyflogwyr
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid eraill i:
Werthuso effaith rhaglenni Y Gyfnewidfa Addysg Busnes, Dosbarth Busnes a Syniadau Mawr Cymru
Llunio arweiniad i gynorthwyo staff ysgolion i greu cysylltiadau â chyflogwy
A1 sicrhau bod disgyblion yn ail-wneud Blwyddyn 10 mewn amgylchiadau eithriadol yn unig
A2 adolygu arferion cofrestru a symudiadau disgyblion yn rheolaidd fel rhan o drefniadau gwerthuso a gwella ysgolion
A3 sicrhau bod llywodraethwyr yn monitro symudiadau disgyblion rhwng Blynyddoedd 10 ac 11
Dylai awdurdodau lleol:
A4 fonitro arferion cofrestru ysgolion i roi sicrwydd fod ysgolion bob amser yn gweithredu er lles pennaf disgyblion unigol
A5 sicrhau bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion feini prawf a phrotocolau clir ar gyfer caniatáu i ysgolion gofrestru disgyblion yn ddisgyblion sy’n ail-wneud
Blwyddyn 10
A6 monitro ac ymchwilio i unrhyw achosion lle mae disgyblion yn ail-wneud Blwyddyn 10 neu’n symud o Flwyddyn 10 i flwyddyn ysgol heblaw Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 adolygu’r drefn ar gyfer cofrestru disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac ystyried data cyrchfannau i fesur effeithiolrwydd darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol
A8 gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu cronfeydd data o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol yn eu hardal
A9 adolygu trefniadau ar gyfer CYBLD i sicrhau tryloywder gwell o ran symudiadau disgyblion