I wireddu’r weledigaeth ar gyfer ysgolion cymunedol effeithiol yng Nghymru mewn modd strategol a chynaliadwy:
Dylai ysgolion:
A1 Feithrin partneriaethau cryf â theuluoedd fel rhan annatod o wella lles a chyflawniad pob disgybl
A2 Cyfeirio’n glir mewn cynlluniau strategol at sut byddant yn cydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid i wella lles a chyflawniad pob disgybl
A3 Cyflogi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned i gydweithio â theuluoedd, y gymuned a phartneriaid ehangach
A4 Cydweithio â’r awdurdod lleol a phartneriaid statudol a’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau a defnyddio asedau’r ysgol
A6 Gynnwys camau mewn cynlluniau strategol yn ymwneud â sut byddant yn datblygu mentrau awdurdod cyfan i gynorthwyo ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol
A7 Cryfhau gweithio ar draws cyfarwyddiaethau i gynllunio ffyrdd i leoli ystod o wasanaethau mewn ysgolion
A8 Sicrhau bod cynllunio ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am fannau / ystafelloedd sylfaen i deuluoedd a’r gymuned eu defnyddio
A9 Cynorthwyo ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys datblygu swydd ddisgrifiad ar gyfer yr aelodau staff hyn
A10 Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff cymorth ysgolion, cyrff llywodraethol a phartneriaid strategol i ddatblygu ysgolion cymunedol
Dylai Llywodraeth Cymru:
A11 Ddatblygu cyfres o nodweddion diffiniol, cytûn ar gyfer ysgolion cymunedol, ac ystyried sut caiff ysgolion eu dosbarthu’n ‘ysgolion cymunedol’ a sut caiff y term hwn ei ddefnyddio i nodi ysgolion penodol
A12 Hyrwyddo manteision ysgolion cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gydag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol
A13 Cryfhau’r disgwyliad i gynnwys camau gweithredu ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned mewn cynlluniau strategol ysgolion
A14 Adnewyddu arweiniad cenedlaethol ar ysgolion cymunedol, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, a rhoi arweiniad ar sut gall ysgolion werthuso a gwella eu strategaethau ysgol gymunedol
A15 Sicrhau bod cynllunio, arweiniad a safonau adeiladu ar gyfer y rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am leoedd y gall teuluoedd a’r gymuned eu defnyddio
I wella darpariaeth ac ansawdd datblygu arweinyddiaeth, dylai consortia rhanbarthol a darparwyr dysgu proffesiynol eraill weithio gyda’i gilydd i ystyried:
A1 Sut i gynyddu’r ffocws ar ddatblygu gallu arweinwyr i ysgogi gwelliant yn ansawdd addysgu a dysgu
A2 Sut orau i werthuso effaith rhaglenni datblygu arweinyddiaeth dros gyfnod
Ddefnyddio’r Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion i wella eu gwaith
Gweithio’n agos mewn partneriaeth â’u hawdurdod lleol, eu consortiwm rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer eu UCD
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
Ddarparu rhaglen flynyddol o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad ar gyfer aelodau o bwyllgorau rheoli UCDau
Sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn deall rôl a swyddogaeth eu UCDau yn llawn er mwyn gwella eu cydweithio â phwyllgorau rheoli
Dylai Llywodraeth Cymru:
Godi ymwybyddiaeth ymhlith yr holl bwyllgorau rheoli am y Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion